Vantage Data Centres UK Ltd - Canolfan Ddata Casnewydd, Parc Imperial, Celtic Way, Maerun, Casnewydd, NP10 8BE
Rydym wedi derbyn cais i amrywio trwydded amgylcheddol gan Vantage Data Centres.
Cais i newid trwydded amgylcheddol o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016.
Rhif y cais: PAN-026558
Math o gyfleuster rheoledig: Gosodiad – Adran 1.1 A(1) (a): Llosgi unrhyw danwydd mewn cyfarpar sydd â mewnbwn thermol graddedig o 50 megawat neu fwy
Lleoliad y cyfleuster rheoledig: Parc Imperial, Celtic Way, Maerun, Casnewydd, NP10 8BE.
Mae'r Gweithredwr wedi gwneud cais i newid manylebau injan rhai o eneraduron wrth gefn y safle o ganlyniad i ddatblygiadau yn nyluniadau’r generaduron. Mae'r generaduron arfaethedig newydd yn cynnwys diwygiadau i leihau effeithiau ansawdd aer. Dim ond ar gyfer profion a gynlluniwyd neu ddefnydd brys y mae'r peiriannau i'w gweithredu yn ystod toriad mewn cyflenwad pŵer yn unol â'r drwydded bresennol.
Mae’r cais yn cynnwys disgrifiad llawn o sut y gallai’r newidiadau arfaethedig effeithio ar y weithfa; y deunyddiau, y sylweddau a’r egni y bydd yn ei ddefnyddio a’i gynhyrchu; amodau ei safle; ffynhonnell, natur ac ansawdd ei allyriadau rhagweladwy a’u heffeithiau posibl, y technegau arfaethedig ar gyfer rhwystro, lleihau a monitro ei allyriadau a rhwystro ac adfer gwastraff; ac amlinelliad o’r prif ddulliau amgen o weithredu a ystyriwyd, os oes rhai o gwbl.
Gallwch weld y dogfennau cais yn rhad ac am ddim, o'n cofrestr gyhoeddus arlein. Neu gallwch ofyn am gopi o'r wybodaeth gennym ni. Gall hyn gymryd amser i'w brosesu a gellid codi tâl am hynny.
Os oes gennych unrhyw sylwadau anfonwch y rhain erbyn 11/02/2025.
Ebost: permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Neu ysgrifennwch at:
Gwasanaeth Trwyddedu
Cyfoeth Naturiol Cymru
Adeilad y Goron
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Rhaid i ni benderfynu a ddylid caniatáu neu wrthod y cais. Os ydym yn ei ganiatáu, mae’n rhaid i ni benderfynu pa amodau i’w cynnwys yn y drwydded. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ynglŷn â sut yr ydym yn gwneud penderfyniadau yn ein Datganiad Cyfranogiad Cyhoeddus.