Mr Wayne Jones - BSW Timber, Newbridge on Wye Sawmill, Newbridge on Wye, Builth Wells, Powys, LD2 3RU

Rydym wedi derbyn cais am drwydded gan Mr Wayne Jones

Cais i newid trwydded amgylcheddol dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016

Rhif y cais: PAN-026799
Math o gyfleuster rheoledig: Tanc Carthion a Gwely Cyrs
Lleoliad y cyfleuster rheoledig: BSW Timber, Newbridge on Wye Sawmill, Newbridge on Wye, Builth Wells, Powys, LD2 3RU
Cyfeirnod Grid Cenedlaethol yr ollyngfa: CGC SO 02160 56205
Yr ardal ddyfrol sy’n derbyn: Afon Irthon
Math o elifiant: Elifiant triniaeth eilaidd a Draenio’r safle
Cyfaint: 5.5 metr ciwbig y dydd

Cais yw hwn i amrywio'r hawlen bresennol, gan gynyddu'r cyfaint o 5.0m³/d i 5.5m³/d. Mae'r drwydded yn caniatáu gollwng carthion wedi'u trin a draeniad safle, trwy wely cyrs, i Afon Ieithon.

Gallwch weld y dogfennau cais yn rhad ac am ddim, o'n cofrestr gyhoeddus arlein. Gallwch chwilio am y dogfennau gan ddefnyddio'r manylion cais uchod. Neu gallwch ofyn am gopi o'r wybodaeth gennym ni. Gall hyn gymryd amser i'w brosesu a gellid codi tâl am hynny.

Os oes gennych unrhyw sylwadau anfonwch y rhain erbyn 22 Tachwedd 2024

Ebost: permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Neu ysgrifennwch at:

Gwasanaeth Trwyddedu
Cyfoeth Naturiol Cymru
Cardiff Cathays Park
Welsh Government Offices
Cathays Park
King Edward VII Avenue
Cardiff
CF10 3NQ

Rhaid i ni benderfynu a ddylid caniatáu neu wrthod y cais.  Os ydym yn ei ganiatáu, mae’n rhaid i ni benderfynu pa amodau i’w cynnwys yn y drwydded.  Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ynglŷn â sut yr ydym yn gwneud penderfyniadau yn ein Datganiad Cyfranogiad Cyhoeddus.

Diweddarwyd ddiwethaf