Rydym wedi derbyn cais am drwydded gan Mott MacDonald Bentley Ltd

Cais am drwydded amgylcheddol arbennig newydd dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016

Rhif y cais: PAN-026364
Math o gyfleuster rheoledig: Gweithgareddau dad-ddyfrio
Lleoliad y cyfleuster rheoledig: Llyn Celyn, Llandderfel, Y Frongoch, Gwynedd, Wales, LL23 7NU
Cyfeirnod Grid Cenedlaethol yr ollyngfa: CGC SH 88194 39927
Yr ardal ddyfrol sy’n derbyn: Afon Tryweryn
Math o elifiant: Draenio’r safle
Cyfaint: Glawiad dibynnol

Gallwch weld y dogfennau cais yn rhad ac am ddim, o'n cofrestr gyhoeddus ar-lein. Gallwch chwilio am y dogfennau gan ddefnyddio'r manylion cais uchod. Neu gallwch ofyn am gopi o'r wybodaeth gennym ni. Gall hyn gymryd amser i'w brosesu a gellid codi tâl am hynny.

Os oes gennych unrhyw sylwadau anfonwch y rhain erbyn 23 Tachwedd 2024

E-bost: permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Neu ysgrifennwch at:

Gwasanaeth Trwyddedu
Cyfoeth Naturiol Cymru
Cardiff Cathays Park
Welsh Government Offices
Cathays Park
King Edward VII Avenue
Cardiff
CF10 3NQ

Rhaid i ni benderfynu a ddylid caniatáu neu wrthod y cais. Os ydym yn ei ganiatáu, mae’n rhaid i ni benderfynu pa amodau i’w cynnwys yn y drwydded. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ynglŷn â sut yr ydym yn gwneud penderfyniadau yn ein Datganiad Cyfranogiad Cyhoeddus.

Diweddarwyd ddiwethaf