Cryodeb

Rhywogaethau estron goresgynnol (INNS) yw unrhyw anifail neu blanhigyn anfrodorol sy'n gallu lledaenu ac wedyn achosi niwed i'r amgylchedd, yr economi, ein hiechyd, a'r ffordd rydym yn byw.

Mae mynd i'r afael ag INNS yn bwysig er mwyn diogelu bioamrywiaeth a gwella gwydnwch ecosystemau fel eu bod yn gallu addasu'n well i fygythiadau fel newid yn yr hinsawdd.

Mae rheoli INNS yn gwella gallu ecosystemau i ddarparu gwasanaethau i gymunedau Cymru, gan gynnwys:

  • Osgoi llifogydd a llygredd
  • Bwyd, ffeibr a thanwydd
  • Ailgylchu maethynnau
  • Peillio
  • Sicrhau bod holl gymunedau Cymru yn parhau i fwynhau rhywogaethau a mannau gwyrdd yn y dyfodol

Gall INNS gael effeithiau economaidd negyddol sylweddol ac amcangyfrifir eu bod yn costio o leiaf £125 miliwn y flwyddyn i economi Cymru.

Nodwyd bod newid yn yr hinsawdd a symudiad cynyddol pobl a nwyddau yn ffactorau pwysig sy'n debygol o effeithio ar gyflwyno a lledaenu INNS yn y dyfodol.

Ein hasesiad

Lawrlwytho SoNaRR2020: Pennod rhywogaethau estron goresgynnol (Saesneg PDF)

Mae'r bennod hon yn nodi'r effaith y mae INNS yn ei chael ar reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy gan ganolbwyntio ar ecosystemau, eu gwydnwch a'r gwasanaethau y maent yn eu darparu. Mae'n amlinellu'r cynnydd o ran cyflawni'r prif amcanion ar gyfer INNS ym meysydd polisi a deddfwriaeth ac yn nodi'r prif risgiau a chyfleoedd wrth reoli INNS yng Nghymru.

Mae'r pwysau, yr effeithiau a'r cyfleoedd ar gyfer gweithredu a nodir gan y bennod INNS i'w gweld yn y cofrestrau adnoddau naturiol ar gyfer yr ecosystemau.

Mae anghenion tystiolaeth y bennod INNS wedi'u cynnwys yn y tabl anghenion tystiolaeth cyffredinol.

Gwelwch y tystiolaeth INNS ar ein map stori rhyngweithiol.

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf