Darganfyddwch a oes angen trwydded arnoch ar gyfer gollyngiadau i ddŵr wyneb a dŵr daear

Pwy sydd angen cofrestru?

Yn dibynnu ar y gweithgarwch, efallai fod gofyn i chi gofrestru. Os na allwch fodloni’r gofynion hyn bydd angen i chi wneud cais am drwydded. Ewch i'n tudalen Eithriadau gweithgareddau gollwng i ddŵr a dŵr daear am fwy o wybodaeth.

Cyngor cyn ymgeisio

Rydym yn cynnig cyngor sylfaenol am ddim ar:

  • cadarnhad o'r math o hawlen sydd ei angen
  • y ffurflenni cais cywir i'w defnyddio
  • pa ganllawiau y mae'n rhaid i'r ymgeisydd eu dilyn
  • deddfwriaeth allweddol y mae'n rhaid i ymgeiswyr gydymffurfio â hi
  • canllawiau i helpu'r ymgeiswyr i dalu eu tâl ymgeisio.

Gall ein Gwasanaeth Cyngor Dewisol ddarparu unrhyw gyngor pellach, megis cymorth manylach gyda dehongli canllawiau neu ganllawiau ar sut i gynnal yr amrywiol asesiadau effaith sydd eu hangen ar gyfer y cais.

Codir tâl am y gwasanaeth hwn ar gyfradd o £125 ynghyd â TAW yr awr ac mae'n amodol ar argaeledd.

Darllenwch fwy am ein gwasanaeth caniatáu a thrwyddedu cyn ymgeisio.

Dŵr ffo

Os yw’r dŵr yn ddŵr ffo glân, sy’n llifo o do, ffordd, llwybr neu le caled glân er enghraifft, ni fyddwch angen trwydded. Yr unig beth sydd angen gwneud yw gofalu bod y dŵr rydych chi’n ei ollwng yn aros yn lân a heb ei halogi. Darllenwch ragor o gyngor ar wefan Asiantaeth yr Amgylchedd.

Gollyngiadau i garthffos gyhoeddus fudr

Os ydych am ollwng i garthffos gyhoeddus fudr (neu ddraen sy’n cysylltu ag un) ni fyddwch angen trwydded amgylcheddol, ond dylech gysylltu â’ch

A yw fy ngollyngiad yn cael ei cynnwys fel rhan o’r datganiad rheoleiddo sefyllfa risg isel?

Os fod eich gollyngiadau yn cydymffurio gyda’r amodau yn y canllawiau dilynol, ni fydd angen drwydded amgylcheddol.

Gollyngiadau dŵr dros dro o gloddfeydd Sylwer, caiff y canllawiau ar gyfer Lloegr (a welir ar wefan gov.uk) eu gweithredu yng Nghymru.

Ceisiadau am drwydded

Os ydych am ollwng dŵr neu elifion i ddŵr wyneb neu ddŵr daear ac nad oes unrhyw un o’r pwyntiau uchod yn berthnasol bydd angen i chi gael trwydded amgylcheddol. 

Gallwch chi:

Gwneud cais am drwydded i ollwng carthion domestig

Gwneud cais am drwydded i ollwng elifion masnach neu elifion cymysg

Gwneud cais am drwydded i ollwng dŵr o gyfnewidydd gwres i ddŵr wyneb

I newid trwydded presennol, ewch i ‘newid trwydded presennol’. I trosglwyddo perchenogaeth i person newydd, ewch I ‘trosglwyddo eich trwydded’. Gallwch hefyd 'ildio o’ch trwydded'.

Diweddarwyd ddiwethaf