Sut i gofrestru eich esemptiad gollwng dŵr neu ddŵr daear ar-lein

Gallwch gofrestru esemptiad ar gyfer gollyngiadau o systemau pwmp gwres ddolen agored o’r ddaear drwy’r cyswllt isod.

Cofrestrwch eich esemptiad(au) tarddiad dŵr daear yma

Gallwch gofrestru Esemptiad ar gyfer gollyngiadau i ddŵr daear at ddibenion gwyddonol neu ar gyfer Rheoli llystyfiant mewn neu ger dyfroedd croyw mewndirol, drwy’r ddolen isod.

Cofrestrwch eich esemptiad(au) yma

Fel arall gallwch wneud cais drwy ddefnyddio’r ffurflen electronig ar waelod y dudalen. Gallwch bostio’r ffurflen hon neu ei hanfon yn ôl atom ar e-bost. Mae’r cyfeiriadau perthnasol ar y ffurflen.

Pan fyddwch wedi cofrestru, bydd eich manylion eithrio yn ymddangos ar y gofrestr gyhoeddus o esemptiadau dŵr

Manylion gofynnol

Bydd angen y manylion canlynol arnoch i gofrestru:

  • Enw a chyfeiriad yr ymgeisydd gan gynnwys cod post neu gyfeirnod grid 12-digid y lleoliad(au) sy’n berthnasol i’r esemptiad(au)
  • Cyfeiriad (gan gynnwys cod post) neu gyfeirnod grid 12-digid y lleoliad(au) sy’n berthnasol i’r esemptiad(au) 

Esemptiad: gollyngiadau o systemau pwmp gwres dolen-agored o’r ddaear

Rydych chi wedi’ch esemptio rhag gorfod cael trwydded amgylcheddol ar gyfer y gollwng, ond rhaid i chi gofrestru’r esemptiad os oes gennych system wresogi ac oeri o’r ddaear sy’n unrhyw un o’r canlynol:

  • System ddyfrhaen wedi oeri gyda chyfaint sy’n llai na 1500 o fetrau ciwbig fesul diwrnod
  • System gytbwys gyda chyfaint sy’n llai na 430 o fetrau ciwbig fesul diwrnod
  • System ddyfrhaen wedi gwresogi gyda chyfaint sy’n llai na 215 o fetrau ciwbig fesul diwrnod

Gweler y nodiadau canllaw ar waelod y dudalen hon i gael rhagor o fanylion am y systemau hyn.

Rhaid eich bod chi hefyd yn gallu cwrdd ag amodau’r esemptiad.

Amodau’r esemptiad

I fod yn gymwys ar gyfer yr esemptiad rhaid i’r holl amodau canlynol fod yn berthnasol.

Bydd y system:

  • yn gollwng dŵr ar dymheredd na fydd yn mynd yn uwch na 25°C ac ni fydd yn amrywio o fwy na 10°C o gymharu â’r tymheredd yn y ddyfrhaen y cafodd ei dynnu ohoni
  • ddim ar safle sy’n hysbys fel safle wedi’i halogi neu safle lle roedd gweithgareddau halogi yn arfer digwydd
  • yn tynnu ac yn gollwng o’r un ddyfrhaen

Ni fydd y dŵr o fewn y system:

  • wedi cael unrhyw beth wedi’i ychwanegu ato, e.e. ychwanegion a ddefnyddir ar gyfer tynnu calch/cen
  • yn cael ei ddefnyddio at unrhyw ddiben arall

Ni fydd y system yn gollwng dŵr yn unrhyw un o’r sefyllfaoedd canlynol:

  • o fewn 50 metr o gwrs dŵr neu wlyptir sy’n cael ei fwydo gan ddŵr daear (e.e. safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig)
  • o fewn 50 metr o unrhyw echdyniad dŵr ddaear (e.e. twll turio, ffynnon) sy’n cael ei ddefnyddio at unrhyw ddiben
  • mewn parth amddiffyn ffynhonnell dŵr ddaear 1 (SPZ1) sy’n cael ei ddefnyddio i gyflenwi dŵr at ddibenion domestig neu at ddibenion cynhyrchu bwyd

Os na allwch fodloni’r amodau hyn mae angen i chi wneud cais am drwydded bwrpasol.

Mae’r esemptiad hwn ar gyfer y drwydded amgylcheddol yn unig ac mae dal rhaid i chi wneud am drwydded echdynnu a chaniatâd ymchwilio dŵr daear.

Esemptiad: gollyngiad i ddŵr daear at ddibenion gwyddonol

Gallwch gofrestru esemptiad i ollwng symiau bach o sylweddau i ddŵr daear at ddibenion gwyddonol, fel rhan o’r canlynol:

  • cynllun penodol i adfer dŵr daear
  • prawf olrhain dŵr daear

Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer esemptiad yn yr amgylchiadau hyn rhaid i chi sicrhau:

  • eich bod wedi cynnal arolwg ar nodweddion y dŵr i ddangos na fydd y gollyngiad yn achosi llygredd
  • eich bod wedi cael caniatâd pawb sydd â hawl i dynnu dŵr yn yr ardal ollwng
  • eich bod yn cofrestru eich esemptiad cyn i’r gollwng ddechrau
  • eich bod yn monitro gollyngiadau sy’n rhan o gynllun penodol i adfer dŵr daear er mwyn canfod a oes llygredd wedi digwydd

Darllenwch ganllawiau Asiantaeth yr Amgylchedd i weld a yw eich gweithgaredd yn gymwys i’w gofrestru:

Canllawiau llorweddol H1 - Atodiad J 2: canllawiau ar ollwng symiau bach o sylweddau at ddibenion gwyddonol

Esemptiad: Rheoli llystyfiant mewn neu gerllaw dyfroedd croyw mewndirol

Os ewch chi ati i dorri neu ddadwreiddio swm sylweddol o lystyfiant mewn neu gerllaw unrhyw ddyfroedd croyw mewndirol (neu mor agos iddynt ei fod yn disgyn i mewn i ddŵr croyw mewndirol) heb gymryd camau rhesymol i dynnu’r llystyfiant o’r dŵr, yna byddwch chi’n gyfrifol am gyflawni gweithgaredd gollwng i ddŵr. Efallai y cewch eich eithrio rhag gorfod cael trwydded os gallwch fodloni’r amodau canlynol:

  • eich bod wedi cael gwared ar y llystyfiant a dynnwyd o’r dŵr yn unol â chanllawiau Defra

Os yw’n angenrheidiol gadael i’r llystyfiant lifo i lawr yr afon, rhaid i chi sicrhau:

  • eich bod yn rhoi rhybudd ymlaen llaw ynghylch y gweithgaredd i unrhyw un y gallai effeithio arno
  • bod digon o lif i gludo’r llystyfiant
  • eich bod yn cofrestru’r gweithgaredd wedi’i eithrio gyda ni
  • nad yw’r gweithgaredd yn achosi llygredd

Mae Defra wedi llunio canllawiau’n ymwneud â’r amodau hyn, gweler atodiad 4 o’r

Canllawiau trwyddedu amgylcheddol: gweithgareddau gollwng i ddŵr

 

Diweddarwyd ddiwethaf