Gwneud cais am drwydded i ollwng dŵr o gyfnewidydd gwres i ddŵr wyneb
Mae'r systemau hyn yn pwmpio dŵr o afonydd, camlesi, llynnoedd neu'r môr ac yn defnyddio'r dŵr i gynhesu neu oeri adeiladau cyn ei ollwng yn ôl i afon, camlas, llyn neu'r môr. Cyfeirir atynt yn aml fel systemau ‘dolen agored’.
Sut i wneud cais am drwydded amgylcheddol newydd i ollwng dŵr o gyfnewidydd gwres i ddŵr wyneb
Sut i newid (amrywio) trwydded bresennol i ollwng dŵr o gyfnewidydd gwres i ddŵr wyneb
Mae dau fath gwahanol o newid y gallwch eu gwneud i drwydded sydd gennych eisoes: gweinyddol neu fân. Disgrifir pob un isod. Os nad ydych yn siŵr pa fath o newid yr ydych yn bwriadu ei wneud, rydym yn argymell defnyddio ein gwasanaeth cynghori cyn ymgeisio ar gyfer trwyddedau amgylcheddol.
Amrywiad gweinyddol
Ar gyfer mân gywiriadau neu newidiadau i'r drwydded, megis y canlynol:
- enw neu gyfeiriad ond lle nad yw'r endid cyfreithiol wedi newid
- Cyfeirnod Grid Cenedlaethol i wella cywirdeb
- gwallau teipio
- dyddiad dechrau trwydded
- newid lleoliad yr allfa lle nad oes angen asesiad technegol newydd
Mân amrywiad
Ar gyfer newidiadau sydd angen rhywfaint o fewnbwn technegol gan CNC, er enghraifft ceisiadau i wneud y canlynol newid lleoliad yr allfa neu wneud newidiadau eraill i'r drwydded lle mae angen asesiad technegol newydd
Darganfyddwch sut i drosglwyddo eich trwydded i rywun arall
Darganfyddwch sut i ildio eich trwydded
Ffioedd a chostau
Bydd angen i chi dalu ffi ymgeisio o £5,578 am y drwydded rheolau safonol hon.
Os oes gennych drwydded eisoes a bod angen gwneud newidiadau (amrywiad) iddi, mae'r ffioedd fel a ganlyn:
Newidiadau gweinyddol: £363
Mân amrywiad: £961
Ffi ar gyfer Asesiadau Cynefinoedd
Os yw eich gollyngiad yn agos at safle cynefin Ewropeaidd cydnabyddedig, bydd angen i ni gynnal Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd fel rhan o'r broses o asesu eich cais am drwydded. Bydd hyn yn gofyn am dalu ffi ychwanegol o £2,717.
Am fwy o wybodaeth ynghylch pryd y gallai fod angen yr asesiadau hyn, gweler ein tudalen we ‘Asesiad Rheoliadau Cynefin ar gyfer eich trwydded amgylcheddol’.
Ffi ar gyfer Asesiadau Risg Amgylcheddol
Os yw eich gollyngiad i ddŵr wyneb yn cynnwys cemegau ac elfennau peryglus, mae'n bosibl y bydd angen i ni gwblhau Asesiad Risg Amgylcheddol fel rhan o'r broses o asesu eich cais am drwydded. Bydd hyn yn gofyn am dalu ffi ychwanegol o £2,717.
Am fwy o wybodaeth am y cemegau ac elfennau peryglus hyn a phryd y gallai fod angen yr asesiadau hyn, gweler ein tudalen we ‘Asesiadau Risg Amgylcheddol ar gyfer gollyngiadau dŵr’.
Ceisiadau heb ddigon o fanylion i symud ymlaen
Os byddwn yn dychwelyd eich cais oherwydd diffyg manylion ac felly'n methu â symud ymlaen y tu hwnt i'r cam derbyn cais, byddwn yn cadw 10% o ffi'r cais. Byddwn ond yn dychwelyd cais ar ôl rhoi cyfle i chi ddarparu'r wybodaeth sydd ar goll.
Os ydych yn penderfynu tynnu eich cais am drwydded yn ôl
Os ydych yn penderfynu tynnu eich cais am drwydded yn ôl ar ôl i ni ei dderbyn, byddwn yn cadw 100% o ffi’r cais. Os ydych yn penderfynu tynnu eich cais yn ôl cyn i ni symud ymlaen o'r cam derbyn cais, byddwn yn cadw 10% o ffi'r cais.