Cyflwyno eich datganiad tynnu dŵr
Gallwch gyflwyno eich datganiadau tynnu dŵr (faint o ddŵr a gymerwyd) ar-lein.
Byddwn yn anfon e-bost atoch ar ddechrau eich cyfnod datgan. Yna, gallwch ddechrau cwblhau eich datganiadau gan ddefnyddio’r ddolen isod.
Gallwch gofnodi eich darlleniadau ar unrhyw adeg ond dim ond ar ddiwedd y cyfnod datgan y byddwch yn gallu eu cyflwyno.
Os oes problem wrth i chi gyflwyno eich datganiad, cysylltwch â ni ar 0300 065 3000 (Llun-Gwener, 9am-5pm) neu e-bostiwch ni.
Gwnewch yn siŵr fod gennych chi rif eich trwydded yn barod.
Os nad ydych wedi cymryd unrhyw ddŵr yn ystod y cyfnod datgan, bydd dal angen i chi gwblhau a chyflwyno eich datganiadau o ddim i ni.
I ddefnyddio’r gwasanaeth tynnu dŵr, rhaid mai chi yw:
- deiliad y drwydded
- y cyswllt enwebedig neu’r cyswllt sy’n delio â datganiadau ar gyfer y drwydded
Cofrestru ar gyfer y gwasanaeth datganiadau tynnu dŵr
Os nad oes gennych gyfrif gyda ni eisoes, bydd angen i chi greu un gan ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost personol eich hun (nid cyfeiriad e-bost grŵp).
Byddwn eisoes wedi e-bostio cod sydd ag 13 o nodau ynddo er mwyn cofrestru ar gyfer y gwasanaeth.
Os ydych chi’n frocer neu gludydd gwastraff cofrestredig, bydd gennych gyfrif gyda ni eisoes ac nid oes angen i chi gofrestru eto.
Os hoffech gofrestru ar gyfer y gwasanaeth datganiadau ar-lein ac nad ydych wedi derbyn cod, cysylltwch â ni.
Gallwch gysylltu â ni ar 0300 065 3000 (Llun-Gwener, 9am-5pm) neu e-bostiwch ni. Gwnewch yn siŵr fod gennych chi rif eich trwydded yn barod.
Bydd y gwasanaeth yn eich galluogi i:
- gofnodi eich darlleniadau tynnu dŵr ar unrhyw adeg drwy gydol y flwyddyn
- cyflwyno eich datganiadau yn Gymraeg neu yn Saesneg
- gweld, lawrlwytho ac argraffu gwybodaeth eich datganiad
Dyddiad cau ar gyfer datganiadau
Dylech gyflwyno eich datganiadau heb fod yn hwyrach na 28 diwrnod ar ôl dyddiad gorffen y cyfnod datgan.
Cadw eich manylion yn gyfredol
Rhaid i chi ddweud wrthym os yw manylion eich cyswllt ar gyfer y datganiad (neu fanylion cyswllt deiliad y drwydded) yn newid. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y manylion yn gyfredol.
I roi gwybod i ni am unrhyw newidiadau, cysylltwch â ni ar 0300 065 3000 (Llun-Gwener, 9am-5pm) neu e-bostiwch ni. Gwnewch yn siŵr fod gennych chi rif eich trwydded yn barod.
Newid neu ganslo eich trwydded
Edrychwch i weld sut i newid neu ganslo eich trwydded
Cyflwyno eich datganiadau tynnu dŵr drwy’r post
Os na allwch gael mynediad i'r gwasanaeth datganiadau tynnu dŵr, gallwch gyflwyno'ch datganiadau i ni drwy'r post.
Byddwn yn anfon y ffurflen atoch ar ddechrau’r cyfnod datgan. Ar ddiwedd y cyfnod datgan, mae'n bwysig eich bod yn cwblhau ac yn dychwelyd y ffurflen atom.
Rhaid i chi gadw copi o'ch cofnodion tynnu dŵr ar y safle bob amser at ddiben archwilio.