Paratoi cynllun adfer gwastraff
Os byddwch yn gwneud cais am drwydded i ddodi gwastraff i'w adfer, rhaid i chi anfon cynllun adfer gwastraff atom er mwyn i ni allu ei asesu.
Rhaid i'ch cynllun ddangos mai gweithgaredd adfer gwastraff yw eich gweithgaredd, nid gweithgaredd gwaredu.
Rydym yn argymell eich bod yn anfon eich cynllun atom cyn i chi wneud cais am drwydded.
Os byddwch yn ei anfon atom ar yr un pryd â'ch cais am drwydded ac nid ydym yn cytuno bod eich gweithgaredd yn weithgaredd adfer gwastraff, byddwn yn gwrthod eich cais am drwydded.
Yr hyn y mae'n rhaid i'ch cynllun ei gynnwys
Rhaid i’ch cynllun gynnwys unrhyw dystiolaeth:
- y byddwch yn elwa'n ariannol neu'n fasnachol drwy ddefnyddio deunydd gwastraff yn lle deunydd diwastraff, neu
- fod gennych gyllid i dalu am ddefnyddio'r gwastraff a’r costau parhaus
- fod gennych rwymedigaethau (gan awdurdod cynllunio, dyweder) i gwblhau’r cynllun, neu
- fod yn rhaid i chi gyflawni rhai canlyniadau trwy gwblhau'r cynllun
- eich bod yn bwriadu defnyddio gwastraff sy'n addas i'r pwrpas penodol
Rhaid i chi ddarparu tystiolaeth i ddangos sut bydd eich cynllun:
- wedi'i ddylunio a'i adeiladu
- yn addas i'r diben
Elw ariannol neu fuddiant gwerth chweil arall
Gallwch ddarparu tystiolaeth i ddangos, pe baech yn defnyddio deunyddiau diwastraff, y byddech yn elwa ar enillion ariannol net neu fuddiant gwerth chweil arall. Rhaid i’ch cynllun adfer gwastraff gynnwys y canlynol:
- manylion y cynllun a fydd yn darparu budd ariannol neu fuddiant gwerth chweil arall
- eich incwm neu enillion cyfalaf disgwyliedig neu fuddiant gwerth chweil arall
- holl gostau cynhyrchu’r incwm hwn neu’r enillion cyfalaf hyn, neu ddarparu buddiant gwerth chweil arall, gan gynnwys:
- holl gostau cyflawni'r cynllun gyda deunyddiau diwastraff
- unrhyw gostau gweithredu parhaus
Rhaid i'ch cynllun adfer gwastraff ddangos y byddai'n werth chweil yn fasnachol neu fel arall i gwblhau'r cynllun gan ddefnyddio deunyddiau diwastraff. Er enghraifft, byddai'n dangos bod defnyddio deunydd diwastraff yn cynhyrchu enillion ariannol ystyrlon neu ei fod yn fforddiadwy ac fel arall yn werth chweil.
Sut i ddangos elw ariannol neu fudd arall
Mae ‘elw ariannol’ yn golygu y byddai'r cyfnod elw ac ad-dalu yn ei gwneud hi'n werth chweil i chi fynd i'r gost lawn o ddefnyddio deunydd diwastraff, gan gymryd i ystyriaeth ystyriaethau masnachol arferol megis maint y risg. Os benthyciad cyfradd ffafriol yw’r dull ariannu ar gyfer y cynllun, efallai y bydd angen i chi ddarparu asesiad o hyfywedd ariannol y cynllun gyda benthyciad cyfradd y farchnad. Rhaid i'ch asesiad gadarnhau y gallai'r cynllun fynd yn ei flaen gyda deunydd diwastraff.
‘Cyfradd y farchnad’ yw'r gyfradd llog safonol a dderbynnir mewn diwydiant ar gyfer math penodol o drafodiad. Yn ôl ei natur, mae'n ffigwr sy'n newid.
Benthyciad ‘cyfradd ffafriol’ yw pan ddarperir cyllid ar gyfradd llog is na chyfradd y farchnad. Yn aml, mae hyn oherwydd bod gan y rhoddwr benthyciadau berthynas fusnes eisoes â'r benthyciwr. Efallai y bydd yn derbyn lefel uwch o risg neu gyfnod ad-dalu hirach na rhoddwr benthyciadau annibynnol.
Mae ‘gwerth chweil fel arall’ yn golygu bod enillion ariannol anuniongyrchol. Er enghraifft, pe baech am wella system amddiffyn rhag llifogydd gyda deunydd diwastraff, efallai mai dim ond dros gyfnod hir y bydd y buddsoddiad yn talu amdano’i hun ond byddech yn osgoi amhariad posibl llifogydd.
Byddwn ond yn ystyried yr incwm, yr enillion cyfalaf neu fuddiant gwerth chweil arall a dderbyniwyd gan y sawl sy'n talu'r gost o ddefnyddio deunydd diwastraff. Er enghraifft, os ydych yn mynd i wastatáu tir i’w werthu i ddatblygwr, ni fyddwch yn gallu cynnwys yr elw y gallai’r datblygwr ei wneud yn eich cyfiawnhad ariannol. Fodd bynnag, os bydd eich gwaith yn cynyddu gwerth y tir cyn ei werthu, yna gallwch gynnwys yr ennill hwn fel rhan o'ch tystiolaeth bod y cynllun yn werth chweil o safbwynt masnachol.
Gwneud cais fel contractiwr
Os byddwch yn gwneud cais fel contractiwr, mae angen i chi ddarparu'r un dystiolaeth ond dangos y byddai'r gweithrediad yn werth chweil o safbwynt masnachol i'r sawl sy'n eich cyflogi.
Cyllid i ddefnyddio deunyddiau diwastraff
Pe baech wedi defnyddio deunydd diwastraff heb unrhyw fudd ariannol, gallwch ddarparu tystiolaeth yn eich cynllun adfer gwastraff eich bod wedi sicrhau cyllid i dalu’r holl gostau o gyflawni’r cynllun gyda deunydd diwastraff, gan gynnwys unrhyw gostau gweithredu parhaus. Er enghraifft, rydych yn sefydliad dielw ac mae gennych gyllid grant i gyflwyno cynllun penodol.
Rhaid i chi gynnwys tystiolaeth o’r canlynol:
- bod y cynllun yn dod o fewn eich maes cyfrifoldeb neu weithgaredd
- y byddai'r cynllun yn arwain at fudd sy'n gymesur â'r cynllun
- eich bod wedi sicrhau’r cyllid sydd ei angen arnoch i dalu’r gost o ddefnyddio deunydd diwastraff, ac unrhyw gostau gweithredu parhaus
Tystiolaeth o'ch rhwymedigaeth i gwblhau'r gwaith
Rhaid i chi ddarparu tystiolaeth o'ch rhwymedigaeth i gyflawni'r cynllun neu gyflawni canlyniadau penodol.
Gallai hyn fod oherwydd bod rheoleiddiwr neu awdurdod cynllunio wedi gosod gofyniad arnoch i wneud y gwaith p'un a ydych yn defnyddio gwastraff neu ddeunydd diwastraff. Er enghraifft, gallech fod yn weithredwr chwarel y mae amodau cynllunio caniatâd cynllunio presennol yn ei gwneud yn ofynnol i chi ei hadfer yn unol â chynllun cymeradwy.
Nid yw hyn yr un peth â chael caniatâd cynllunio sy'n caniatáu i chi wneud gwaith penodol ond nad yw'n gofyn i chi ei wneud.
Os oes amod neu rwymedigaeth gynllunio eisoes yn bodoli, byddwn yn edrych ar yr holl wybodaeth sydd ar gael. Gallai hon gynnwys y canlynol:
- i ba raddau yr oedd yr awdurdod cynllunio lleol yn ymwneud yn uniongyrchol â dylunio’r cynllun pan roddwyd caniatâd cynllunio a gosodwyd yr amod
- a fyddai’r awdurdod cynllunio lleol yn debygol o gytuno ar unrhyw beth sylweddol wahanol
Rhwymedigaethau penodol
Os oes gennych rwymedigaethau penodol i gwblhau’r cynllun yr ydych yn ei gynnig, byddwn fel arfer yn derbyn adferiad lle mae eich cynllun adfer gwastraff yn cynnwys y canlynol:
- tystiolaeth o'r rhwymedigaeth
- cynlluniau a thrawstoriadau sy'n dangos bod eich cynnig yn cyfateb i'r rhwymedigaeth sydd arnoch chi
- tystiolaeth bod y gwastraff yn addas
Rhwymedigaethau cyffredinol
Mae rhai rhwymedigaethau yn gofyn i chi gyflawni canlyniadau penodol ond yn peidio â nodi'n union sut y mae'n rhaid i chi wneud hynny.
Os oes rheidrwydd arnoch yn gyffredinol i wneud rhywbeth, rhaid i'ch cynllun adfer gwastraff ddangos pam y byddech yn bodloni'r rhwymedigaeth honno drwy gyflawni'r cynllun arfaethedig. Rhaid iddo hefyd ddangos sut mae eich cynllun arfaethedig yn bodloni eich rhwymedigaeth.
Er enghraifft, os oes gennych rwymedigaeth gyffredinol i leihau lefelau sŵn mewn eiddo, nid oes angen i chi adeiladu bwnd sŵn o reidrwydd. Gallech leihau sŵn drwy symud y ffynhonnell sŵn i ffwrdd o’r eiddo neu drwy newid eich gweithrediad. Yn yr achosion hynny, nid oes angen i chi ddodi unrhyw ddeunydd.
Yna, byddai’n rhaid i chi ddangos pam y byddech yn bodloni eich rhwymedigaeth gyffredinol drwy wario arian ar fewnforio deunydd diwastraff yn hytrach na dewis arall.
Os nad oes gennych rwymedigaethau penodol i wneud y gwaith
Os nad oes rheidrwydd arnoch i gyflawni’r cynllun, rhaid i’ch cynllun gynnwys tystiolaeth ar gyfer y canlynol:
- diben y gwaith
- faint o wastraff i'w ddefnyddio
- pa mor gynaliadwy yw’r gwaith
Diben y gwaith
Mae angen i chi ddisgrifio swyddogaeth eich cynllun arfaethedig yn glir. Dangoswch eich bod yn cyflawni'r cynllun i ddiwallu angen gwirioneddol.
Rhaid i’ch tystiolaeth nodi:
- sut bydd y cynllun yn cael ei weithredu a'i gwblhau
- pam mae angen y cynllun
- sut y bydd y cynllun yn diwallu’r angen hwnnw
Faint o wastraff i'w ddefnyddio
Rhaid i chi ddarparu tystiolaeth i ddangos:
- y byddwch ond yn defnyddio'r swm o wastraff sydd ei angen i gyflawni'r swyddogaeth a fyddai fel arall yn cael ei darparu gan ddeunydd diwastraff
- eich bod wedi ystyried cynigion amgen a allai ddefnyddio llai o wastraff i gyflawni'r un swyddogaeth
Rhaid i chi ddarparu cynlluniau a thrawstoriadau sy'n dangos y lefelau tir gwreiddiol a therfynol arfaethedig. Bydd y cynllun lefel tir derfynol (cyfuchlin) yn cael ei gynnwys yn eich trwydded trwy gyfeirio at y cynllun adfer gwastraff cymeradwy. Bydd yn diffinio terfyn uchaf y gweithgaredd a ganiateir.
Rhaid i luniadau fod ar raddfa addas. Rhaid dangos lefelau mewn perthynas â datwm ordnans.
Pa mor gynaliadwy yw eich cynllun
Rhaid i chi ddangos sut na fydd eich cynllun gorffenedig yn achosi llygredd nac unrhyw broblemau amgylcheddol eraill. Ni ddylai:
- niweidio iechyd dynol
- achosi niwsans i eraill
- niweidio ansawdd yr amgylchedd
- achosi erydiad pridd neu risg uwch o lifogydd
Er mwyn helpu i ddangos bod y cynllun yn gynaliadwy, dylech gyfeirio at y model safle cysyniadol a ddatblygwyd gennych i gefnogi'r broses asesu risg.
Tystiolaeth bod y gwastraff yn addas
Rhaid i'ch cynllun adfer gwastraff gadarnhau bod gwastraff yn addas, mewn egwyddor, ar gyfer y defnydd arfaethedig.
Mathau o wastraff yr ydym fel arfer yn eu derbyn
Os ydych am ddodi gwastraff nad yw wedi'i gynnwys yn ein rhestr
Os nad yw eich math o wastraff neu weithgaredd arfaethedig wedi'i gynnwys yn ein rhestr, mae angen i'ch cynllun gynnwys y canlynol:
- gwybodaeth a thystiolaeth am briodweddau cemegol, ffisegol a pheirianyddol y gwastraff rydych am ei ddefnyddio
- tystiolaeth bod y gwastraff yn addas i’r pwrpas bwriadedig ac na fydd yn achosi llygredd
- tystiolaeth bod manyleb y gwastraff yr ydych yn bwriadu ei ddefnyddio yn debyg i'r deunydd diwastraff yr ydych yn ei ddisodli. Mewn rhai achosion, efallai y bydd yn briodol peidio â defnyddio amnewidyn cyfatebol – er enghraifft, os ydych yn bwriadu adeiladu bwnd sŵn yn lle wal acwstig.
Rhaid i'ch tystiolaeth gael ei darparu gan rywun â chymwysterau priodol. Bydd hwn yn rhywun sydd â gwybodaeth arbenigol am y math o waith rydych am ei wneud a'r risgiau amgylcheddol cysylltiedig.
Os ydych yn adeiladu bwnd neu arglawdd, mae rhywun â chymwysterau priodol yn debygol o fod yn beiriannydd geodechnegol. Os ydych yn adeiladu ffordd neu lwyfan datblygu, gall rhywun â chymwysterau priodol fod yn beiriannydd sifil. Os yw eich cynllun yn fach ac yn syml, gallai rhywun â chymwysterau priodol fod yn ymarferwr profiadol yn hytrach na pheiriannydd graddedig neu siartredig.