Y caniatâd sydd ei angen arnoch i ddodi gwastraff i'w adfer

Dodi gwastraff i’w adfer yw pan fyddwch yn defnyddio deunydd gwastraff yn lle deunydd diwastraff ar gyfer y canlynol:

  • adeiladu
  • adfer
  • adfer neu wella tir

Mae diben defnyddiol i'r deunydd gwastraff oherwydd ei fod yn disodli deunyddiau diwastraff. Yn lle cael gwared ar y gwastraff, mae'n cael ei adfer.

Oni bai eich bod yn gallu gweithredu o dan esemptiad, bydd angen trwydded gennym ni i ddodi gwastraff. 

Cael caniatâd cynllunio

Fel arfer, mae angen caniatâd cynllunio arnoch i ddefnyddio tir i ddodi gwastraff i'w adfer. Dylech gysylltu â'ch awdurdod cynllunio lleol am gyngor. Dylech wneud hyn ymhell cyn i chi ddechrau eich gweithgaredd.

Rhaid i chi ddweud wrthym os daw eich caniatâd cynllunio i ben neu os caiff ei dynnu’n ôl neu ei newid gan yr awdurdod cynllunio oherwydd y gallai hyn effeithio ar eich trwydded a’ch cynllun adfer gwastraff. 

Gwirio'r trwyddedau sydd ar gael

Gallwch wneud cais am drwydded rheol safonol os ydych yn gallu bodloni’r meini prawf canlynol:

SR2017 Rhif 1: Defnyddio gwastraff mewn gweithgaredd lle caiff gwastraff ei ddodi i’w adfer (adeiladu neu adfer neu wella tir ac eithrio gan offer symudol)  Cynhwysedd cyfeintiol mwyaf ar gyfer y gwaith adfer o 60,000 m3

Os oes gennych y drwydded hon, dim ond y mathau o wastraff sy’n bodloni’r canlynol y gallwch eu derbyn:

  • sydd yn unol â’r disgrifiad yn y set o reolau safonol
  • sy’n cael eu cynnwys yn eich cynllun adfer gwastraff cymeradwy
  • sydd o fewn y cyfanswm cyfaint a thunelledd sydd wedi'u cynnwys yn eich cynllun adfer gwastraff cymeradwy

Os na allwch fodloni'r meini prawf, efallai y bydd angen i chi wneud cais am drwydded bwrpasol.

Trin gwastraff yn ogystal â’i ddodi

Os ydych yn bwriadu cynnal gweithgaredd trin gwastraff i, er enghraifft, gymysgu gwastraff neu weithgynhyrchu amnewidyn pridd, bydd angen i chi wneud cais am drwydded sy'n caniatáu hyn. Gallwch naill ai wneud cais amdani fel gweithgaredd ar wahân o fewn eich trwydded dodi gwastraff i’w adfer, neu fel trwydded ar wahân.

Mae trwyddedau rheolau safonol ar gyfer trin gwastraff yn cynnwys: 

SR2008 Rhif 11: Gorsaf drosglwyddo ar gyfer gwastraff anadweithiol a chloddio â thriniaeth

SR2009 Rhif 6: Gorsaf drosglwyddo ar gyfer gwastraff anadweithiol a chloddio â thriniaeth

SR2010 Rhif 11: Gwaith symudol ar gyfer trin gwastraff i gynhyrchu pridd, amnewidion pridd ac agregau

SR2010 Rhif 12: Trin gwastraff i gynhyrchu pridd, amnewidion pridd ac agregau

Safleoedd tirlenwi

Os ydych am adfer gwastraff mewn safle tirlenwi, gan gynnwys gwneud gwaith adfer i safleoedd tirlenwi, rhaid i'r gweithgaredd hwnnw gael ei awdurdodi ar wahân naill ai yn eich trwydded tirlenwi neu fel trwydded ar wahân.

Rydym yn ystyried mai adfer safle tirlenwi yw gosod haen wastad o bridd ar ben y safle tirlenwi (fel arfer uwchben y cap peirianyddol) i ddychwelyd y tir i ddefnydd buddiol. Gallwch ddefnyddio gwastraff mewn unrhyw adeiledd peirianyddol os yw'n bodloni'r safonau peirianneg gofynnol. Gallwch ddarganfod mwy yn dylunio ac adeiladu eich safle tirlenwi.

Mynnwch gyngor cyn ymgeisio ar drwyddedau tirlenwi.

Gwybodaeth y bydd angen i chi ei darparu mewn cais am drwydded

Bydd angen i chi ddarparu gwybodaeth wahanol ar gyfer y ddau fath o drwydded: rheolau safonol a phwrpasol.

Gwneud cais am drwydded gwastraff rheolau safonol newydd

Gwneud cais am drwydded gwastraff bwrpasol newydd

Mynnwch gyngor

Cyn i chi wneud cais am drwydded, gallwch gael dwy awr o gyngor am ddim. 

Mynnwch gyngor cyn ymgeisio.

 

Diweddarwyd ddiwethaf