Paratoi system reoli ar gyfer gweithgaredd dodi gwastraff i’w adfer

Pan fyddwch yn gwneud cais am drwydded i ddodi gwastraff i'w adfer, bydd angen i chi ddweud wrthym am eich system reoli.

Rhaid i'ch system reoli nodi a lleihau'r risg o lygredd o'ch gweithgaredd.

Dylech ddilyn y canllawiau cyffredinol ar sut i ddatblygu system rheoli’r amgylchedd (GOV.UK).

Rhaid i'ch system reoli hefyd gynnwys gwybodaeth am y canlynol:​

  • gweithdrefnau derbyn gwastraff
  • gwybodaeth y mae'n rhaid i gynhyrchwyr gwastraff ei rhoi i chi 
  • pa fathau o wastraff y mae'n rhaid eu profi a sut

Gweithdrefnau derbyn gwastraff

Rhaid i'ch system reoli gynnwys y gweithdrefnau derbyn gwastraff y byddwch yn eu dilyn pan fyddwch yn derbyn gwastraff ar eich safle.

Rhaid i’ch gweithdrefnau derbyn gwastraff sicrhau eich bod yn derbyn gwastraff:

  • sydd yn addas ar gyfer eich gweithgaredd
  • sydd yn cael ei ganiatáu gan eich trwydded
  • y gwnaethoch ei ystyried yn eich asesiad risg ar gyfer eich cais am drwydded

Bydd eich gweithdrefnau derbyn gwastraff hefyd yn eich helpu i:

  • sicrhau nad yw'r gwastraff yn achosi llygredd
  • penderfynu pa fathau o wastraff y byddwch yn eu derbyn ac o ba ffynonellau
  • atal gwastraff rhag cyrraedd eich safle nad yw wedi'i awdurdodi gan eich trwydded
  • darparu tystiolaeth ategol pan fyddwch yn datblygu eich cais i ildio trwydded

Rhaid i’ch gweithdrefnau derbyn gwastraff gynnwys y canlynol:

  • pa dystiolaeth y bydd ei hangen arnoch gan gynhyrchwyr i gadarnhau bod y gwastraff yn cyfateb i'w ddisgrifiad
  • mesurau y byddwch yn eu cymryd i sicrhau nad yw'r gwastraff wedi'i halogi
  • meini prawf y byddwch yn eu defnyddio i benderfynu a ydych am dderbyn y gwastraff ai peidio – er enghraifft, canlyniadau profion gwastraff
  • meini prawf eraill y byddwch yn eu defnyddio i sicrhau eich bod yn derbyn gwastraff y mae eich trwydded yn ei ganiatáu yn unig

Byddwn yn ystyried eich meini prawf safle-benodol eich hun ar gyfer derbyn y gwastraff.

Pan fyddwch yn datblygu eich meini prawf eich hun, rhaid i derfyn crynodiad uchaf unrhyw halogiad adlewyrchu canlyniad eich asesiad risg hydroddaeareg. Mae hyn er mwyn cadarnhau na fydd y gwastraff a dderbyniwch yn achosi llygredd.

Os oes gennych safle tirlenwi, gallwch ddefnyddio meini prawf derbyn gwastraff y Gyfarwyddeb Tirlenwi.

Gwybodaeth y mae angen i gynhyrchwyr gwastraff ei rhoi i chi

Rhaid i'ch gweithdrefnau hefyd nodi pa wybodaeth y mae angen i gynhyrchwyr ei rhoi i chi am y gwastraff. Yn ogystal â’r manylion y mae’r cynhyrchydd yn eu rhoi i chi o dan y ddyletswydd gofal ar gyfer gwastraff, gall hyn hefyd gynnwys y canlynol:

  • ffynhonnell wreiddiol y gwastraff
  • defnydd blaenorol o unrhyw safle sy'n cynhyrchu gwastraff cloddio neu ddymchwel
  • manylion unrhyw driniaeth a ddefnyddiwyd i gael gwared ar wastraff anaddas
  • canlyniadau unrhyw brofion gwastraff

Rhaid i gynhyrchwyr gwastraff ddosbarthu ac asesu gwastraff fel peryglus neu heb fod yn beryglus a gwneud yn siŵr ei fod yn cael ei ddisgrifio'n gywir. Mae hyn:

  • yn eu helpu i gael gwybod i ble y caniateir iddynt anfon eu gwastraff
  • yn eich helpu i benderfynu a ganiateir i chi ei dderbyn

Mathau o wastraff y mae'n rhaid eu profi

Rhaid i’r cynhyrchydd gwastraff brofi’r gwastraff a rhoi canlyniadau’r dadansoddiad i chi os yw’r gwastraff wedi dod o'r canlynol:

  • tir sydd wedi’i halogi, neu a allai fod wedi’i halogi, gan ddefnydd blaenorol
  • cyfleuster trin neu drosglwyddo gwastraff
  • unrhyw safle lle’r ydych yn amau bod y gwastraff wedi’i halogi

Mae hyn hefyd yn berthnasol os ydych am ddefnyddio'r gwastraff yn lle isbridd neu uwchbridd.

Mathau o wastraff nad oes angen eu profi

Nid oes angen i gynhyrchwyr gwastraff brofi eu gwastraff (ac eithrio ei brofi i’w ddosbarthu os yw’n ymddangos yn y rhestr ganlynol o godau gwastraff ac:

  • yn dod o un ffynhonnell
  • yn cael ei nodweddu a'i ddisgrifio'n dda
  • heb risg o halogiad, er enghraifft o safle sydd heb ei ddatblygu o'r blaen

Dyma’r codau gwastraff nad oes angen eu dadansoddi (ar yr amod bod eich trwydded yn eu hawdurdodi):

Cod gwastraff Disgrifiad o'r gwastraff

01 01 02

Gwastraff o gloddio nad yw'n fetelifferaidd

01 04 08

Graean gwastraff a chreigiau mâl ac eithrio'r rhai sy'n cynnwys sylweddau peryglus

01 04 09

Gwastraff tywod a chlai

10 12 08

Gwastraff crochenwaith, brics, teils a chynhyrchion adeiladu (ar ôl prosesu thermol)

17 01 01

Concrit

17 01 02

Brics

17 01 03

Teils a chrochenwaith

17 01 07

Cymysgedd o goncrit, brics, teils a chrochenwaith

17 05 04

Pridd a cherrig

19 12 09

Mwynau (er enghraifft, tywod a cherrig)

20 02 02

Pridd a cherrig

 

Os credwch y gallai'r gwastraff fod wedi'i halogi ac nad yw'r cynhyrchydd gwastraff wedi darparu unrhyw ganlyniadau dadansoddi i'ch bodloni nad ydyw, rhaid i chi beidio â'i dderbyn.

Profi'r gwastraff eich hun

Rhaid i chi brofi'r gwastraff rydych yn ei ddefnyddio yn eich gweithgaredd adfer i gadarnhau ei fod yn cyfateb i'r disgrifiad ac unrhyw ganlyniadau dadansoddi a ddarparwyd gan y cynhyrchydd gwastraff. Mae hyn yn bwysig iawn os ydych yn defnyddio gwastraff nad yw'n anadweithiol. Mae gwastraff anadweithiol yn golygu gwastraff nad yw'n mynd drwy unrhyw newidiadau ffisegol, cemegol neu fiolegol sylweddol ac na fydd yn adweithio'n ffisegol nac yn gemegol, yn llosgi, yn bioddiraddio, nac yn effeithio'n andwyol ar unrhyw fater arall y daw i gysylltiad ag ef.

Dylech brofi'r gwastraff rydych wedi'i dderbyn rhwng un a thair gwaith y flwyddyn ar gyfer pob ffrwd wastraff. Bydd amlder eich profion yn dibynnu ar eich gwybodaeth am y gwastraff a'i amrywioldeb. Rhaid i chi nodi amlder eich profion yn eich gweithdrefnau derbyn gwastraff.

Pan fo’r cynhyrchydd gwastraff wedi rhoi canlyniadau dadansoddi gwastraff i chi, rhaid i chi brofi’r gwastraff gan ddefnyddio’r un dulliau a thechnegau os ydych yn eu gwybod. Pan nad yw'r gwastraff wedi'i brofi o'r blaen, rhaid i chi ddefnyddio dulliau profi achrededig sy'n dangos bod lefel yr halogiad yn is na therfynau eich meini prawf derbyn gwastraff.

Diweddarwyd ddiwethaf