Gwneud cais am drwydded i symud a chadw rhywogaeth oresgynnol estron o bryder arbennig
Trwydded i symud a chadw rhywogaeth oresgynnol estron
I symud neu gadw anifail sydd wedi'i restru fel rhywogaeth o bryder arbennig o dan reoliadau'r UE a gedwir yng Nghymru, rhaid i chi wneud cais i Cyfoeth Naturiol Cymru am drwydded.
Mae rhai eithriadau lle na fydd angen i chi wneud cais am drwydded:
- i gadw a / neu symud anifail anwes (anifail a gedwid fel anifail anwes cyn iddo gael ei restru fel rhywogaeth o bryder arbennig) oni bai ei fod yn cael ei gadw neu ei symud gan gyfleuster (megis canolfan achub)
- os ydych chi am ailgartrefu anifail anwes, ni fydd angen i'r perchennog newydd wneud cais am drwydded os oes tystiolaeth ei fod wedi'i gadw cyn ei restru
- cludo rhywogaeth restredig i gyfleusterau yng nghyd-destun dileu
Os cawsoch yr anifail ar ôl iddo gael ei restru rhaid i chi gysylltu â Cyfoeth Naturiol Cymru i gael arweiniad.
Lawrlwythwch y ffurflen gais i gael trwydded i symud a chadw rhywogaeth sy’n destun pryder arbennig
Lawrlwythwch dempled ar gyfer archwiliad milfeddygol o safle
Lawrlwythwch dempled o ddatganiad dull
Sut i wneud cais am drwydded
Bydd angen i ymgeiswyr drefnu i filfeddyg archwilio eu safle a chyflwyno adroddiad yr archwiliad ynghyd â'u cais am drwydded. Bydd angen cynnwys datganiad dull gyda'r cais hefyd.
Rhaid i anifeiliaid:
- gael gofal a bodloni eu hanghenion lles
- peidio â chael eu caniatáu i fridio a
- cael eu cadw'n ddiogel.
- cael eu microsglodio neu eu marcio gan ddefnyddio dulliau nad ydynt yn achosi poen, gofid na dioddefaint y gellir eu hosgoi.
Gweler canllawiau GOV.UK ar y rheolau ar gyfer anifeiliaid o bryder arbennig.
Lawrlwythwch y ffurflen gais i gael trwydded i symud a chadw rhywogaeth sy’n destun pryder arbennig
Lawrlwythwch dempled ar gyfer archwiliad milfeddygol o safle
Lawrlwythwch dempled o ddatganiad dull
Cyswllt
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â thrwyddedau ar gyfer rhywogaethau rhestredig, cysylltwch â ni ar trwyddedrhywogaeth@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Neu ffoniwch ni ar 0300 065 3000.
Dychwelwch y ffurflenni wedi'u llenwi trwy e-bost, neu i:
Trwyddedu Rhywogaethau
Cyfoeth Naturiol Cymru
Maes y Ffynnon
Penrhosgarnedd
Bangor
Gwynedd
LL57 2DW