Gwneud cais am drwydded i reoli rhywogaeth estron oresgynnol o bryder arbennig sydd wedi lledaenu'n eang
Rheoli rhywogaethau estron goresgynnol
Os ydych yn rheoli rhywogaeth estron oresgynnol sydd wedi lledaenu’n eang, mae'n bosibl y bydd angen trwydded arnoch i gynnal rhai gweithgareddau.
Mae Gorchymyn Rhywogaethau Estron Goresgynnol (Gorfodi a Thrwyddedu) 2019 yn ei gwneud yn drosedd i wneud unrhyw rai o'r canlynol gydag anifeiliaid neu blanhigion a restrir fel rhywogaethau estron goresgynnol sy'n destun pryder arbennig o dan reoliadau'r UE:
- mewnforio
- cadw
- bridio
- cludo (ac eithrio cludiant i gyfleusterau yng nghyd-destun dileu)
- defnyddio neu gyfnewid
- gosod ar y farchnad
- tyfu, meithrin neu ganiatáu i atgenhedlu
- rhyddhau i'r amgylchedd
Gallwch gael trwydded mesur rheoli gennym ni i gynnal rhai gweithgareddau at ddibenion gwaredu, rheoli neu gyfyngu ar boblogaeth rhywogaethau sydd wedi'u gwasgaru'n eang sy’n destun pryder arbennig.
Er enghraifft, mae'n bosibl y byddwn yn dyfarnu trwydded i awdurdodi tyfu planhigion rhestredig yn yr amgylchedd fel rhan o astudiaeth wedi'i monitro a'i rheoli sy'n ceisio penderfynu'r dulliau gorau o reoli’r rhywogaeth honno fel rhan o fesur rheoli.
Yn ogystal â hynny, mae'n bosibl y cewch drwydded am gadw a chludo rhywogaethau planhigion sydd wedi lledaenu’n eang, at ddibenion addysg gyhoeddus.
Mae canllawiau ar y ddeddfwriaeth ynghylch anifeiliaid sy’n destun pryder arbennig ar gael ar wefan Gov.uk.
Mae canllawiau ar y ddeddfwriaeth ynghylch planhigion sy’n destun pryder arbennig ar gael ar wefan Gov.uk.
Rhywogaethau sydd wedi'u lledaenu'n eang
O blith y 66 o rywogaethau a nodwyd eu bod yn destun pryder, dynodir y 14 o rywogaethau canlynol yn rhywogaethau sydd wedi'u lledaenu'n eang yng Nghymru:
Planhigion
- Ffugalaw Nuttall (Elodea nuttallii)
- Rhiwbob Chile (Gunnera tinctoria)
- Efwr enfawr (Heracleum mantegazzianum)
- Dail-ceiniog arnofiol (Hydrocotyle ranunculoides)
- Jac y neidiwr (Impatiens glandulifera)
- Ffugalaw crych (Lagarosiphon major)
- Pidyn-y-gog Americanaidd (Lysichiton americanus)
- Pluen parot (Myriophyllum aquaticum)
Anifeiliaid
- Gwydd yr Aifft (Alopochen aegyptiacus)
- Cranc manegog Tsieina (Eriocheir sinensis)
- Carw mwntjac (Muntiacus reevesi)
- Cimwch afon arwyddol (Pacifastacus leniusculus)
- Gwiwer lwyd (Sciurus carolinensis)
- Holl isrywogaethau (Trachemys scripta) math o derapin
Mae’r rhestr o rywogaethau o anifeiliaid a phlanhigion sy’n destun pryder arbennig ar gael ar wefan Gov.uk.
Mesurau rheoli cyffredinol
Ni fydd angen trwydded o dan Orchymyn Rhywogaethau Estron Goresgynnol (Gorfodi a Thrwyddedu) 2019 ar gyfer camau rheoli nad ydynt yn cynnwys gweithgareddau cyfyngedig.
Er enghraifft:
- camau uniongyrchol i gael gwared ar rywogaethau sydd wedi lledaenu'n eang o'r amgylchedd e.e. gwaith wedi’i dargedu i gael gwared ar Jac y Neidiwr (Impatiens glandulifera) i helpu i atal lledaeniad pellach o fewn dalgylch.
- cludo rhywogaeth o bryder arbennig i gyfleusterau yng nghyd-destun dileu.
Dylai unrhyw gamau rheoli ddilyn arferion gorau a chanllawiau bioddiogelwch (dolenni Saesneg yn unig).
Noder y gallai deddfwriaeth arall, fel deddfwriaeth ar gyfer gwastraff, fod yn berthnasol yn dibynnu ar y gweithgaredd.
Gweler canllawiau GOV.UK ar y rheolau ar gyfer anifeiliaid o bryder arbennig (Saesneg yn unig).
Gweler canllawiau GOV.UK ar y rheolau ar gyfer planhigion o bryder arbennig (Saesneg yn unig).
Trwyddedau ar gyfer cimwch afon arwyddol
Rhaid cael awdurdodiadau trapio ar gyfer cimychiaid afon arwyddol gan CNC cyn y gellir rhoi trwydded mesur rheoli ar gyfer gweithgareddau cyfyngedig. Ystyrir awdurdodiad at ddibenion cadwraeth, gwyddonol, neu reoli pysgodfeydd.
Gweler tudalen we Pysgota â Rhwydi a Thrapiau CNC i weld sut i wneud cais am awdurdodiad trapio ar gyfer cimychiaid afon arwyddol.
Rhyddhau
Ni ddyfernir unrhyw drwyddedau sy'n caniatáu rhyddhau anifeiliaid rhestredig a gedwir at ddibenion adfer. Rhaid cymryd pob rhagofal er mwyn cadw'r anifeiliaid yn ddiogel a'u hatal rhag bridio neu ddianc i'r gwyllt. Byddwn ond yn ystyried ceisiadau newydd i ryddhau rhywogaethau rhestredig mewn amgylchiadau eithriadol.
Gwneud cais am drwydded
Os ydych yn meddwl bod angen trwydded arnoch i reoli rhywogaeth sy'n destun pryder arbennig, lawrlwythwch a chwblhewch y ffurflen gais am drwydded mesur rheoli.
Rhaid i ddatganiad dull manwl fod ynghlwm â’r cais. Lawrlwythwch dempled o ddatganiad dull.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â thrwyddedau ar gyfer rhywogaethau rhestredig, cysylltwch â ni ar trwyddedrhywogaeth@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
neu ffoniwch 0300 065 3000.
Dychwelwch y ffurflenni wedi'u llenwi trwy e-bost neu i:
Trwyddedu Rhywogaethau
Cyfoeth Naturiol Cymru
Maes y Ffynnon
Penrhosgarnedd
Bangor
Gwynedd
LL57 2DW