Hochtief (UK) Construction Limited - Cais i amrywio trwydded tynnu dŵr
Deddf Adnoddau Dŵr 1991 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Dŵr 2003)
Hysbysir trwy hyn, yn unol ag Adran 37 Deddf Adnoddau Dŵr 1991 a Rheoliad 6 Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Tynnu a Chronni Dŵr) 2006 i gais gael ei wneud i Cyfoeth Naturiol Cymru gan Hochtief (UK) Construction Limited i amrywio trwydded lawn i dynnu dŵr, rhif cyfres WA/065/0006/0023, sy’n awdurdodi tynnu dŵr o haen danddaearol ddienw o fewn yr ardal a ffurfiwyd gan linellau syth rhwng Cyfeirnodau Grid Cenedlaethol SH 59377 38672, SH 59439 38703, SH 59380 38665 a SH 59443 38695. Gofynnwyd am yr amrywiad ar gyfer y canynol:
- ychwanegu’r diben o dynnu dŵr ar gyfer cynhyrchu growt concrid yn ôl y cyfraddau canlynol: 3.6 metr ciwbig yr awr, 40 metr ciwbig y dydd a 8,000 metr ciwbig y flwyddyn, hyd at 01 Rhagfyr 2026,
- newid faint o ddŵr sy’n cael ei dynnu at ddibenion disbyddu i: 21.82 metr ciwbig yr awr, 570 metr ciwbig y dydd a 214,650 metr ciwbig y flwyddyn,
- cael gwared o Bwynt gollwng R a newid Pwynt gollwng Q i SH 58891 38978; a
- newid pwyntiau monitro: Pwynt A i SH 59359 38617, Pwynt B i SH 59395 38762 a Phwynt C i SH 59440 38659.
Gallwch weld y dogfennau cais yn rhad ac am ddim, o'n cofrestr gyhoeddus arlein. Neu gallwch ofyn am gopi o'r wybodaeth gennym ni. Gall hyn gymryd amser i'w brosesu a gellid codi tâl am hynny.
Os ydych am ofyn am gopi neu dymunwch wneud sylwadau ynghylch y cais, rhaid ichi wneud hynny yn ysgrifenedig, gan ddyfynnu enw’r ymgeisydd a’r Cyfeirnod PAN-026179 wrth
Cyfoeth Naturiol Cymru,
Gwasanaeth Trwyddedu,
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru,
Parc Cathays,
Rhodfa’r Brenin Edward VII,
Caerdydd,
CF10 3NQ
neu drwy ebost i permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk erbyn 27/11/2024 fan bellaf.
Er mwyn cael rhagor o wybodaeth, gweler adran ymgynghoriadau ein gwefan http://naturalresources.wales/?lang=cy neu ffoniwch ein Canolfan Gofal Cwsmeriaid 0300 0653000 (Dydd Llun-Gwener, 9-5).