Cyngor Cadwraeth ar gyfer Safleoedd Morol Ewropeaidd (Rheoliad 37)
Pam fod angen rheoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig?
Er mwyn gwarchod ein cynefinoedd a’n rhywogaethau morol anhygoel, ac i sicrhau dyfodol i’r holl ddiwydiannau sy’n ddibynnol ar ein moroedd, mae’n hanfodol bod defnydd o’r amgylchedd morol yn cael ei reoli.
Mae arfordiroedd a moroedd Cymru yn cynnal ystod eang o gynefinoedd a rhywogaethau, maent yn cynhyrchu incwm i’r economi Gymreig ac yn rhan allweddol o’n diwylliant, ein hanes, a’n tirwedd.
Ein rôl ni wrth gynnig cyngor cadwraeth
Cynhyrchir cyngor cadwraeth fel rhan o reol 37 (3) o’r Rheoliadau Cynefinoedd. Mae’r rheoliad yn datgan cyn gynted ag sy’n bosibl ar ôl i safle gael ei benodi’n safle morol Ewropeaidd, dylai’r corff cadwraethol priodol gynghori’r awdurdodau perthnasol ynglŷn ag-
- yr amcanion cadwraethol ar gyfer y safle; ac
- unrhyw weithgareddau allai achosi dirywiad yn y cynefinoedd naturiol sy’n gysylltiedig â’r safle, neu gynefinoedd y rhywogaethau sy’n gysylltiedig â’r safle, neu darfu ar y rhywogaethau hynny
Cynhyrchwyd y set gyntaf o gyngor cadwraeth ar gyfer ein safleoedd yn 2003/04, a’r ail set yn 2009. Mae’r fersiynau diweddaraf a gyhoeddwyd yn 2017 a 2018 yn ddiweddariadau o gyngor 2009 er mwyn cynnwys newidiadau yn yr awdurdod cymwys a newidiadau deddfwriaeth.
Cyngor ar weithredoedd
Mae’r Rheoliadau Cynefinoedd hefyd yn galw ar CNC i ddarparu gwybodaeth ar weithredoedd allai beri difrod i nodwedd neu nodweddion safle. Mae’r wybodaeth yn cael ei gynnwys o fewn y pecyn cyngor cadwraeth (Dogfen Rheoliad 37).
Cyngor ar Reoliad 37
Gall ein pecynnau cyngor cadwraeth fod yn ddefnyddiol os ydych yn:
- Datblygu, cynnig, neu asesu gweithgaredd, cynllun, neu brosiect allai effeithio ar nodweddion gwarchodedig Safle Morol Ewropeaidd (EMS)
- Paratoi Asesiadau Rheoliadau Cynefinoedd neu Asesiadau Effaith ar yr Amgylchedd ar gyfer cynlluniau neu brosiectau arfaethedig allai effeithio ar nodweddion yr EMS
- Cynllunio mesurau i gynnal neu adfer EMS a’i nodweddion gwarchodedig
- Gwneud unrhyw weithred allai effeithio ar nodweddion gwarchodedig yr EMS ac angen gwybod sut i weithredu yn unol â’r gyfraith; neu
- Monitro a/neu asesu cyflwr y nodweddion gwarchodedig
Mae digon o wybodaeth ar gael ynglŷn â chyngor cadwraeth i ddatblygwyr. Mae’r Cydbwyllgor Cadwraeth Natur (JNCC) yn cynnig gwybodaeth ddefnyddiol ar eu gwefan.
Ardal Morol Gawrchodedig | Dogfen Rheoliad 37 | Map | JNCC |
---|---|---|---|
ACA Afon Menai a Bae Conwy |
|||
ACA Penrhyn Llŷn a’r Sarnau |
|||
ACA Bae Ceredigion |
|||
ACA Sir Benfro Forol |
|||
ACA Bae Caerfyrddin a’r Aberoedd |
|||
AGA Gogledd Bae Ceredigion |