Asesiadau amonia a nitrogen ar gyfer datblygiadau amaethyddol a threulio anaerobig y mae angen trwydded neu ganiatâd cynllunio arnynt

Rydym wedi adolygu GN020, ein canllawiau ar gyfer asesu amonia a nitrogen ar gyfer datblygiadau amaethyddol sy angen trwydded amgylcheddol neu ganiatâd cynllunio.

O ganlyniad, rydym wedi gwneud y newidiadau canlynol:

  • Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a gynhyrchwyd ar gyfer yr asesiad o'r effaith amgylcheddol sy’n ofynnol o dan y Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref i bennu trwydded, gan ddefnyddio'r un trothwyon ble mae'r wybodaeth honno ar gael
  • Byddwn yn defnyddio amrywiaeth o bellterau sgrinio yn seiliedig ar y math o ddatblygiad a nifer y lleoedd i anifeiliaid sy'n cael eu cynnig, gan leihau'r pellter ar gyfer yr unedau llai a’i gynyddu ar gyfer yr unedau mwy o faint
  • Byddwn yn cynhyrchu map o leoliadau rhywogaethau a chynefinoedd lle mae rheolaethau llym iawn a modelu manwl yn debygol o fod yn ofynnol; gallai'r map gynnwys, ond heb fod o reidrwydd yn gyfyngedig i, safleoedd Natura 2000
  • Byddwn yn tynnu'r trothwy sgrinio ansylweddol o 1% ar gyfer asesiadau cyfunol
  • Byddwn yn defnyddio'r lefel gritigol i benderfynu a fydd y datblygiad arfaethedig yn niweidio’r rhywogaeth neu gynefin
  • Rydym yn tynnu OGN 41 yn ôl ac yn defnyddio GN 020 yn unig
  • Byddwn yn gwneud y canllawiau yn hygyrch a choladu'r holl wybodaeth angenrheidiol o fewn un ffynhonnell
  • Bydd y canllawiau yn berthnasol i bob datblygiad sy'n allyrru amonia ac sydd angen naill ai caniatâd cynllunio neu drwydded amgylcheddol

Yr hyn rydym yn ymgynghori yn ei gylch

Hoffem ichi roi eich barn i ni am y newidiadau arfaethedig uwchben. Gallwch weld manylion llawn yn y ddogfen ymgynghori a chanllaw ddrafft sydd ar gael i lwytho i lawr isod.

Sut i ymateb

Cynhelir ymgynghoriad hwn tan 30 Tachwedd 2020.

Ebostiwch eich sylwadau i

IRPP.Queries@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

neu ysgrifennwch atom.

Ar ol hyn, byddwn yn ystyried yr holl ymatebion yn ofalus ac yn wneud unrhyw newidiadau angenrheidiol i’n canllawiau drafft. Rydym yn rhagweld y bydd y canllawiau terfynol yn cael eu cyhoeddi ym mis Ionawr 2021. Byddwn yn adolygu ac yn diweddaru’r canllaw yn achlysurol yn y dyfodol.