Cynllun rheoli perygl llifogydd Rhydaman - drafft o'r cais cynllunio llawn

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn bwriadu cyflawni Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd Rhydaman a fyddai'n cynnwys adeiladu 9 amddiffynfa rhag llifogydd (muriau llifogydd concrid a byndiau pridd) yn Rhydaman. Byddai gwelliannau pellach yn cynnwys mwy o ysgolion pysgod a gwelliannau i ddulliau mesur yng Nghored Tir-y-Dail a gwaith plannu tirwedd ar hyd coridor yr afon a mannau gwyrdd agored cyhoeddus fel Bonllwyn Green.

Yn unol â gofynion Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwygio) 2016 rydym wedi darparu copïau drafft o'r cais cynllunio llawn yn cynnwys cynlluniau/lluniadau a restrir/â’r dolennau isod (Saesneg yn unig).

Rhwng 11 Ionawr a 9 Chwefror 2021, rydym yn gofyn am eich adborth ar y cynigion datblygu hyn cyn cyflwyno'r cais cynllunio i'r Awdurdod Cynllunio Lleol, Cyngor Sir Caerfyrddin.

Anfonwch eich sylwadau ar y cynigion datblygu i CNC drwy:

E-bost: ammanford@naturalresources.wales neu rhydaman@cyfoethnaturiol.cymru

Post: Cynllun Rhydaman, Cyfoeth Naturiol Cymru, Tŷ Cambria, 29 Heol Casnewydd, Caerdydd, CF24 0TP. Bydd yr ymgynghoriad cyn ymgeisio hwn yn rhedeg o 11 Ionawr hyd at 9 Chwefror 2021.

Er mwyn cael crynodeb o’r ceisiadau ewch i we-dudalen y prosiect.