Beth i'w ddarparu gyda'ch cais cynllunio

Fel y gallwn ymateb i ymgynghoriad cais cynllunio, rhaid i chi ddarparu'r canlynol:

  • cynllun lleoliad gyda Chyfeirnod Grid Cenedlaethol gan yr Arolwg Ordnans
  • disgrifiad o'r datblygiad a'r rheswm/rhesymau dros eich cynnig datblygu, e.e. i gefnogi ffordd newydd neu well o reoli gwrtaith organig, i ymdopi â chynnydd yn niferoedd da byw neu'r gallu i gynyddu nifer y da byw trwy ddarparu seilwaith ychwanegol, i gefnogi lles anifeiliaid neu gydymffurfedd deddfwriaethol
  • nifer y stoc bresennol a’r math o stoc a gaiff eu magu ar y fferm, ac unrhyw newidiadau sy'n gysylltiedig â'r datblygiad arfaethedig
  • cynllun safle a dyluniad manwl o’r datblygiad arfaethedig a’r holl gydrannau perthnasol, e.e. cyfleusterau rheoli tail organig, sianeli a thanciau elifiant
  • manylion yr holl dderbynyddion sensitif a allai fod mewn perygl o ganlyniad i'r datblygiad arfaethedig, a thystiolaeth i ddangos sut y gellir mynd i’r afael ag unrhyw risgiau a nodwyd

Dywedwch wrthym am effeithiau posibl y cynnig ar dderbynyddion amgylcheddol sensitif

Gall effeithiau posibl y cynlluniau arfaethedig gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, golli neu ddarnio cynefinoedd, tarfu ar rywogaethau a warchodir, neu effeithiau posibl ar ardaloedd gwarchodedig, dynodiadau cadwraeth natur statudol (e.e. o ganlyniad i allyriadau i’r awyr, neu ollyngiadau i ddŵr neu dir o’r cynllun arfaethedig).

Darllenwch fwy am y materion sensitif y mae angen i chi eu hystyried a'r pynciau rydym yn cynnig cyngor arnynt

Bydd gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol dderbynyddion sensitif eraill i'w hystyried ac rydym yn eich cynghori i gysylltu ag ef hefyd.

Os yw eich datblygiad o fewn dalgylch afon mewn Ardal Cadwraeth Arbennig, neu os ydych yn bwriadu gwasgaru unrhyw dail organig canlyniadol o fewn dalgylch, efallai y bydd yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn gofyn i chi ddarparu gwybodaeth i lywio ei Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd.

Darllenwch ein cyngor i awdurdodau cynllunio ar gyfer ceisiadau cynllunio sy'n effeithio ar afonydd mewn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig sy’n sensitif i ffosfforws.

Gollyngiadau amonia

Os oes perygl y bydd eich datblygiad yn rhyddhau amonia atmosfferig i safleoedd sensitif cyfagos, bydd angen i chi asesu ei effeithiau a dangos bod yr allyriadau amonia i'r awyr a’i ddyddodiad ar safleoedd sensitif yn dderbyniol.

Darllenwch ein cyngor ar asesiadau amonia.

Dywedwch wrthym am eich cynllun draenio presennol a'ch cynllun arfaethedig

Bydd disgwyl i chi ddangos bod eich cynllun draenio yn briodol er mwyn rheoli’r dŵr glân a’r dŵr halogedig a gynhyrchir gan eich datblygiad.

Fel rhan o’ch cais cynllunio, dylech wneud y canlynol:

  • nodi’r trefniadau draenio presennol ar gyfer rheoli dŵr glân a dŵr halogedig a darparu cadarnhad bod y system bresennol yn gweithio’n gywir
  • nodi unrhyw ddraeniau glân a budr, newydd a phresennol, eu lleoliad, eu llwybr, cyfeiriad y llif a chysylltiadau
  • nodi unrhyw gydrannau a nodweddion allweddol i reoli dŵr, gan gynnwys draeniad cynaliadwy, cynwysyddion a thanciau, ffosydd cerrig adeiledig, draeniau Ffrengig, pantiau, gwelyau cyrs, pyllau gwaddodi, draeniau tir, ffosydd a chyrsiau dŵr
  • nodi'r trefniadau draenio arfaethedig ar gyfer rheoli'r gwaith o wahanu dŵr glân a dŵr halogedig
  • nodi unrhyw adeiladau ac adeileddau arfaethedig, gan gynnwys unrhyw doeau a fydd yn defnyddio'r cynllun draenio arfaethedig
  • nodi'r defnydd a wneir o unrhyw arwynebeddau presennol neu newydd, e.e. ierdydd agored, ferandâu, ac ardaloedd crwydro a ddefnyddir gan ddofednod. Bydd angen i chi nodi hefyd sut y caiff yr ardaloedd hyn eu rheoli a'u draenio.

Darllenwch gyngor Llywodraeth Cymru ar geisiadau i Gorff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy ar gyfer adeiladau amaethyddol, gorchuddion ac ierdydd glân i'ch helpu i benderfynu p'un a oes angen ymgorffori draenio cynaliadwy yn eich cynllun fel rhan o'r datblygiad.

Dywedwch wrthym os ydych yn cynhyrchu unrhyw dail organig

Os yw eich datblygiad yn cynhyrchu unrhyw dail organig neu olchiadau iard neu barlwr, dylech nodi maint a math y tail organig solet a slyri (gan gynnwys dŵr halogedig) a fydd yn cael ei gynhyrchu.

Dywedwch wrthym os ydych yn storio neu'n symud unrhyw dail organig

Fel rhan o’ch cais cynllunio, dylech wneud y canlynol:

  • darparu cynllun lleoliad a chynllun gosodiad i raddfa sy'n nodi'r holl dderbynyddion sensitif mewn perthynas â'r cyfleuster storio tail organig a'i gydrannau
  • darparu manylion ar sut y bydd tail organig, slyri a dŵr halogedig yn cael eu storio
  • darparu manylion ynghylch sut y bydd y tail organig, slyri a/neu ddŵr halogedig yn cael eu symud o’r man cynhyrchu i’w storio, os yn berthnasol
  • dangos bod unrhyw adeileddau newydd neu adeileddau sydd wedi’u newid yn sylweddol yn cydymffurfio â gofynion Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd) (Silwair a Slyri) (Cymru) 2010 a Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021
  • darparu tystiolaeth, yn achos adeileddau storio, gan gynnwys cyfrifiadau manwl, y gall yr adeiledd gydymffurfio â’r cynhwysedd storio sy’n ofynnol o dan y rheoliadau uchod

Dywedwch wrthym am eich cynigion ar gyfer lagwnau storio gyda banciau pridd

Os yw eich datblygiad yn adeiladu lagŵn storio gyda banciau pridd, dylech ddarparu'r canlynol:

  • dyfnder (mewn metrau) gwaelod y lagŵn
  • manylion am nodweddion pridd a phrofion hydreiddedd
  • manylion am ymchwiliadau a chanlyniadau i bennu dyfnder y lefel trwythiad (dylid mesur lefelau dŵr yn ystod amser gwlypaf y flwyddyn)
  • tystiolaeth bod dyfnder gwaelod y lagŵn o leiaf un metr uwchlaw’r lefel trwythiad er mwyn diogelu dyfroedd a reolir ac i hwyluso’r gwaith adeiladu

Dywedwch wrthym am eich storfa silwair

Fel rhan o’ch cais cynllunio, dylech wneud y canlynol:

  • darparu cynllun lleoliad a chynllun gosodiad i raddfa sy'n nodi'r holl dderbynyddion sensitif mewn perthynas â'r cyfleuster storio silwair a'i gydrannau
  • darparu manylion ar sut y caiff elifiant silwair ei storio
  • dangos bod unrhyw adeileddau newydd neu adeileddau sydd wedi’u newid yn sylweddol yn cydymffurfio â gofynion Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd) (Silwair a Slyri) (Cymru) 2010 a Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021
  • darparu tystiolaeth, yn achos tanciau elifiant, gan gynnwys cyfrifiadau manwl, y gall yr adeiledd gydymffurfio â’r cynhwysedd storio sy’n ofynnol o dan y rheoliadau uchod

Darllenwch ein cyngor ar storio silwair a slyri mewn perthynas â lleoliad, adeiladwaith gofynnol a chynhwysedd, gan gynnwys storfeydd gyda banciau pridd.

Dywedwch wrthym sut y byddwch yn rheoli tail organig ar eich daliad

Os ydych yn cynhyrchu, storio, symud neu'n defnyddio unrhyw dail organig a gynhyrchir gan y datblygiad arfaethedig, dylech nodi sut y bydd yn cael ei reoli.

Os bydd y datblygiad yn cynhyrchu tail organig, bydd disgwyl i chi ddarparu tystiolaeth ysgrifenedig, a elwir yn Gynllun Rheoli Maethynnau, sy’n dangos y canlynol:

  • tystiolaeth yn dangos ble y bydd y tail organig yn cael ei ddefnyddio
  • y gall swm y tail organig sydd i’w wasgaru ar dir ddiwallu anghenion pridd a chnydau o ran y maethynnau sy'n hawdd eu cyrchu pan gaiff ei wasgaru
  • cydymffurfedd â gofynion deddfwriaethol presennol ar gyfer gwasgaru tail organig (Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021)

Paratoi map risg ar gyfer eich daliad

Os yw eich datblygiad yn cynnwys gwasgaru unrhyw dail organig, slyri a/neu ddŵr halogedig ar gyfer anghenion pridd neu gnydau, dylech baratoi map risg ar gyfer eich fferm. Dylai'r map nodi faint o dir sy'n addas ar gyfer gwasgaru tail a chyfansoddion anorganig, ac ardaloedd lle na ddylid gwasgaru tail a chyfansoddion anorganig.

Darllenwch fwy ar ein tudalen ‘Cynlluniau rheoli tail a maetholion’

Lawrlwythwch ganllawiau Llywodraeth Cymru ar sut i gynhyrchu map risg ar gyfer ffermwyr a rheolwyr tir

Dywedwch wrthym sut y byddwch yn trin a/neu allforio tail organig

Os ydych yn bwriadu trin unrhyw dail organig yn y man cynhyrchu, e.e. trwy dreuliad anaerobig neu gompostio, neu ei allforio'n barhaol oddi ar y safle, dylech ddarparu manylion llawn.

Dywedwch wrthym am eich cynllun ardal crwydro ar gyfer ffermio dofednod

Dylai ceisiadau am gynlluniau sy'n ymwneud â dofednod gael eu cefnogi gan gynllun ardal crwydro er mwyn asesu'r risg bosibl o ddŵr ffo yn llygru derbynyddion sensitif, ynghyd â mesurau lleihau a lliniaru.

Dylai’r map hwn gynnwys y canlynol ond heb fod yn gyfyngedig iddynt:

  • cyfanswm yr ardal crwydro gyflawn a'i ffiniau
  • ardaloedd o amgylch pwyntiau mynediad da byw
  • cyfeiriad y goleddf
  • math o bridd
  • derbynyddion sensitif
  • mesurau lliniaru, er enghraifft, tir clustog, rheolaethau dŵr ffo, cynigion ar gyfer rheoli gorchudd pridd a chnydau, yn enwedig o amgylch pwyntiau mynediad da byw, megis tyllau yn y ffyrdd a ferandâu

Cyn i chi adeiladu storfa silwair neu slyri newydd

Rhaid i chi ein hysbysu 14 diwrnod cyn i chi fynd ati i adeiladu storfa newydd ar gyfer slyri neu silwair, gan gynnwys safleoedd silwair cae, neu wrth wneud newidiadau sylweddol i storfa bresennol.

Darllenwch fwy am adeiladu, ehangu neu ail-greu storfeydd silwair a slyri

Sut i gael cyngor rhagarweiniol

Cyn i chi wneud cais cynllunio, gallwch wneud cais am farn ragarweiniol yn rhad ac am ddim a chyngor ychwanegol gan ein Gwasanaeth Cynllunio Dewisol.

 

Diweddarwyd ddiwethaf