Cynlluniau rheoli tail a maetholion
Mae asesu a rheoli'r risgiau sy'n gysylltiedig â thail da byw yn hanfodol er mwyn atal niwed i'r amgylchedd a phobl.
Diffinnir tail organig mewn deddfwriaeth fel unrhyw wrtaith sy’n deillio o ffynonellau anifeiliaid, planhigion neu ddynol. Mae’r diffiniad hwn yn cynnwys tail a slyri da byw.
Gallai peidio â rheoli cyfradd rhoi tail a slyri da byw ar dir arwain at risg o niwed i’r amgylchedd. Pan gaiff deunydd o’r fath ei or-ddefnyddio, caiff ei ddosbarthu fel gwastraff ac mae’n ddarostyngedig i reoliadau gwastraff.
Cynlluniau rheoli tail
Mae cynlluniau rheoli tail yn offeryn pwysig wrth reoli’r risgiau sy’n gysylltiedig â chasglu, storio, trin a defnyddio tail organig (gan gynnwys tail da byw) a slyri a dylent gynnwys manylion y cyfeintiau a gynhyrchir / a fewnforir a sut y cânt eu storio a’u defnyddio.
Rhaid i bob deiliad yn y gadwyn gyflenwi (cynhyrchydd, allforiwr, cludwr, mewnforiwr a defnyddiwr) gael cynllun rheoli tail sy’n caniatáu cadwyn ddiogel o gadwraeth ar gyfer y tail a slyri organig o’r broses gynhyrchu i’r defnydd terfynol. Mae’n debygol y bydd y gofynion hyn yn fwy na gofynion y rheoliadau amaethyddol gan eu bod yn berthnasol yn ehangach na dim ond i’r allforiwr a’r mewnforiwr.
Sut i greu cynllun rheoli tail
Bydd deall faint o dail a slyri y bydd eich system da byw a ffermio yn eu cynhyrchu o gymorth ar gyfer eu rheoli a chyfrifo cynhwysedd at ddiben storio a defnyddio
Gellir cyfrifo faint o dail a slyri da byw a gynhyrchir o nifer y da byw sy’n cael eu cadw mewn buarthau neu adeiladau a mannau eraill sy’n cynhyrchu slyri. Mae hwn yn ofyniad o dan y Rheoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol a gellir dod o hyd i ganllawiau manwl yma: Rheoliadau rheoli llygredd amaethyddol: canllawiau | LLYW.CYMRU
Gwiriwch fod gennych ddigon o le storio
Pan fyddwch chi’n cynllunio ar gyfer faint o’r holl dail a slyri organig a gynhyrchir ar eich fferm ac yn cyfrif am unrhyw ddeunydd a fewnforir, rhaid i chi sicrhau bod digon o le storio o ystyried y gofynion rheoleiddiol. Bydd gofynion a chylchdroeon cnydau, y pridd, amodau tywydd a chyfnodau statudol pan na ellir gwasgaru yn effeithio ar amseroedd a chyfeintiau storio. Rhaid i ddarpariaeth storio hefyd gynnwys cynhwysedd ar gyfer yr holl sylweddau eraill a gesglir ac a gynhwysir yn y system honno – er enghraifft, glawiad. Darllenwch Rheoli rheoliadau llygredd amaethyddol: canllawiau | LLYW.CYMRU am ganllawiau manwl.
Gellir lleihau’r swm sy’n cael ei storio drwy gadw glawiad glân allan o’ch system cyn belled ag y bo modd.
Deall sut a ble rydych chi’n mynd i ddefnyddio’r tail a slyri organig
Rhaid i chi ystyried a ellir defnyddio’r holl dail a slyri organig mewn ffordd gyfreithlon heb achosi niwed i’r amgylchedd. Os ydych chi’n mynd i’w defnyddio ar eich tir, yna rhaid i chi ddatblygu cynllun rheoli maethynnau (gweler isod). Rhaid i hyn gynnwys yr holl faethynnau a roddir ar dir a map o’r risgiau gwasgaru i nodi’r tir sydd ar gael i wasgaru arno o ystyried ardaloedd lle nad oes gwasgaru yn digwydd, cyfyngiadau gwasgaru, ac anghenion pridd a chnydau
Mae hyn yn bwysig gan y gall allforwyr i fyny’r gadwyn gyflenwi ac ati ofyn i chi am hyn os ydych chi’n mewnforio eu tail a’u slyri da byw. Bydd angen hyn arnyn nhw i ddangos y gellir defnyddio’r tail a’r slyri da byw maen nhw’n eu cynhyrchu at ddibenion buddiol.
Yn ogystal â chynllun rheoli maethynnau, rhaid i chi sicrhau nad yw gwasgaru eich tail a’ch slyri organig yn effeithio ar gynefinoedd a rhywogaethau, yn enwedig y rhai sy’n sensitif i allyriadau amonia.
Os ydych chi’n bwriadu anfon eich tail a/neu slyri organig i fferm arall i’w gwasgaru ar dir, yna dylech chi ofyn am eu cynllun rheoli maethynnau a sicrhau y gellir defnyddio’r tail neu slyri yn gyfreithlon ar eu tir a chofnodi manylion popeth a allforir. Mae hyn yn berthnasol hyd yn oed os ydych chi’n gwerthu eich tail a’ch slyri organig.
Os ydych chi’n anfon eich tail neu slyri organig i’w trin ymhellach (megis treulio anaerobig), mae angen i chi sicrhau bod gan y safle derbyn y caniatadau cywir. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae tail a slyri yn wastraff os ydyn nhw’n cael eu trin. Bydd angen i chi gadw cofnod o’r wybodaeth hon, a rhaid i’r cofnod hwn fod ar gael i’w archwilio. Mae hwn yn ofyniad o dan y ddyletswydd gofal Gwastraff a bydd hefyd yn rhan o’ch cofnodion allforio, sy’n ofyniad o dan Reoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) 2021.
Darllenwch fwy am sut i ddefnyddio tail a slyri yn briodol.
Cynlluniau Rheoli Maetholion
Mae’r cynllun rheoli maethynnau yn rhan o’r cynllun rheoli tail trosfwaol ac mae’n cynnwys gwybodaeth ychwanegol am gynnwys maethynnau’r tir a gofynion maethynnau’r cnydau rydych chi’n bwriadu eu tyfu.
Mae pedwar cam sylfaenol i gynhyrchu cynllun rheoli maethynnau.
Cam 1 – Cynnwys maethynnau’r pridd
Cyn rhoi unrhyw beth ar dir, dylech ddadansoddi eich pridd am pH, ffosfforws (P), potasiwm (K) a magnesiwm (Mg) ac asesu cyflenwad y nitrogen yn y pridd (SNS). Bydd hyn yn eich helpu i ddeall a oes angen cywiro’r pH a beth yw’r cronfeydd maethynnau sydd yn eich pridd a pha faethynnau ychwanegol a allai fod yn ofynnol o wasgariadau organig ac anorganig.
Cam 2 – Anghenion y cnwd
Yn dibynnu ar y cnwd rydych chi’n bwriadu ei dyfu a’r cynnyrch rhagweledig, bydd angen cyfuniad penodol o faethynnau arnoch chi ar gyfer y tyfiant gorau posibl. Bydd yr wybodaeth hon, ynghyd â dadansoddiad pridd, yn eich helpu i ddeall pa faethynnau sydd eu hangen ar eich cnwd, yr hyn y gallai fod angen i chi ei roi i wneud y mwyaf o’r cynnyrch, a sut i leihau colledion i’r amgylchedd.
Cam 3 – Deall beth all eich tail a’ch slyri organig ei ddarparu
Mae eich tail a’ch slyri organig yn adnodd gwerthfawr, ac mae’n bwysig gwybod cynnwys maethynnau’r holl dail a slyri organig sy’n cael eu rhoi ar y tir. Mae ffigurau safonol wedi’u cyhoeddi mewn deddfwriaeth a’r Canllaw Rheoli Maethynnau (RB209) | AHDB ond mae’n debygol y bydd cynnwys maethynnau tail a slyri da byw yn amrywio’n sylweddol, yn dibynnu ar ffynhonnell a rheolaeth y deunydd felly argymhellir dadansoddi bob amser.
Gall gwybod pa faethynnau sydd ar gael helpu i gyfrifo unrhyw ddiffyg a all effeithio ar gynnyrch cnydau ac atal gor-ddefnyddio a fydd yn achosi colledion i’r amgylchedd.
Heb gynllun rheoli maethynnau a chofnodion gwasgaru, mae’n debygol y bydd eich tail a’ch slyri organig yn cael eu hystyried yn ddeunydd gwastraff, gan nad oes gennych dystiolaeth sy’n dangos na fydd eu defnyddio yn arwain at niwed i’r amgylchedd.
Cam 4 – Deall a oes angen ffynonellau gwrtaith anorganig arnoch
Mae tail organig yn ffynhonnell dda o wrtaith a, lle bo’n addas, fe’i ystyrir fel yr opsiwn gorau os gellir ei ddefnyddio mewn ffordd na fydd yn arwain at golledion i’r amgylchedd. Mae gan wrteithiau anorganig (wedi’u gweithgynhyrchu) rôl i lenwi’r ‘bwlch’ a nodwyd yn eich cynllun rheoli maethynnau.
Isafswm amlder profi
Dadansoddwch eich tail a’ch slyri yn rheolaidd fel eich bod chi’n gwybod pa faethynnau sydd ynddynt. Bydd hyn o gymorth pan fyddwch chi’n cynllunio eich defnydd o faethynnau ac yn gwneud y gorau o’ch tail.
Dadansoddwch eich pridd am pH, ffosfforws (P), potasiwm (K) a magnesiwm (Mg) a gwnewch asesiad o gyflenwad y nitrogen yn y pridd (SNS). Bydd hyn yn eich helpu i ddeall a oes angen cywiro’r pH a beth yw’r cronfeydd maethynnau sydd yn eich pridd.
Mae amrywiaeth eang o ffynonellau gwybodaeth i’ch helpu chi i asesu’r gofyniad nitrogen ar gyfer cnydau, gan gynnwys cynghorwyr cymwys y Cynllun Ardystio a Hyfforddi Cynghorwyr am Wrteithiau a’r Canllaw Rheoli Maethynnau (RB209).
Mae teclyn wedi’i ddatblygu i helpu ffermwyr yng Nghymru i gynllunio a chofnodi defnydd maethynnau. Mae’r offeryn cynllunio rheoli maethynnau (NMPT-GB) yn hawdd ei ddefnyddio ac ar gael ar-lein am ddim, ac mae’n cael ei gadw’n gyfredol gyda’r argymhellion diweddaraf o Ganllaw Rheoli Maethynnau AHDB (RB209).
Cynllunio a rheoli’r defnydd o faethynnau– NMPTGB – GOV.UK (Dolen allanol, Saesneg yn unig)
Anghenion tystiolaeth
Rhaid i fanylion cynhyrchu a storio tail organig, cynllun rheoli nitrogen, a chofnodion – er enghraifft, y map risg a’r cofnodion mewnforion, allforion a gwasgariadau sy’n ofynnol o dan y Rheoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol – fod ar gael ar gais ac yn ystod archwiliad gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Am fanylion llawn, gweler Rheoliadau rheoli llygredd amaethyddol: canllawiau | LLYW.CYMRU
Er mwyn dangos bod tail a slyri da byw wedi’u storio a’u defnyddio ar gyfer anghenion pridd a chnydau, bydd angen i chi allu darparu tystiolaeth megis cofnodion llawn ar gyfer cynllunio rheoli maethynnau a gwasgaru, mewnforio ac allforio i ddangos bod y maethynnau a oedd yn y tail a’r slyri da byw wedi’u storio a’u defnyddio heb achosi niwed i’r amgylchedd.
Os ydych yn dod â thail organig i'ch fferm, yna bydd angen i chi gadw gwybodaeth i ddangos bod angen y maetholion ar gyfer y cnwd arfaethedig ar y tir lle rydych yn bwriadu taenu.