"Yfory, bydd y byd yn gwneud yr hyn y mae Cymru'n ei wneud heddiw" - Nikhil Seth, Ysgrifennydd Cyffredinol Cynorthwyol y Cenhedloedd Unedig

 

Gan ddefnyddio nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol fel canllaw, gall Cymru bontio'r bwlch rhwng ble mae hi nawr a ble mae angen iddi fod er mwyn sicrhau dyfodol cynaliadwy.

 

Drwy fabwysiadu ystyriaeth o gapasiti amgylcheddol, sydd wrth wraidd economi atgynhyrchiol a chymdeithas fwy cyfartal, gallai Cymru fod yn wlad â chyfoeth o adnoddau naturiol. Gallai Cymru fyw o fewn ei chyfran deg o gapasiti'r Ddaear a bod yn gartref i gymunedau sy’n ffynnu, gan ddod yn Gymru sy'n cyflawni ei nodau llesiant.

 

Bendigeidfran by Margaret Jones - National Library of Wales


Lluniad pin ac inc o Fendigeidfran gan Margaret Jones - Llyfrgell Genedlaethol Cymru ©

 

 

'A fo ben, bid bont'

 

Yn hanes y Brenin Bendigeidfran o'r ddeuddegfed ganrif, yn y Mabinogi, daeth y Cymry at afon a oedd yn rhy llydan i'w chroesi a heb bont i adael iddynt gyrraedd yr ochr arall. Pan ofynnwyd iddo pa gyngor y byddai'n ei roi, dywedodd y cawr "Dim ond hyn: a fo ben bid bont. Mi fydda i'n bont".

 

Heddiw, mae Cymru'n wynebu rhwystr y mae'n ymddangos na ellir ei bontio: sut i gyflawni'r newid trawsnewidiol sydd ei angen i ateb her yr argyfyngau natur a hinsawdd. Arweiniodd Cymru'r ffordd yn y chwyldro diwydiannol cyntaf ac mae'n ceisio arwain y ffordd o ran trosglwyddo i gynaliadwyedd.

 

Mae Cymru'n dechrau pontio'r bwlch tuag at gynaliadwyedd, drwy ddefnyddio'r nodau llesiant a ffyrdd o weithio o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru), ynghyd â'r Egwyddorion SMNR o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) i oleuo'r llwybr ymlaen.

 

Wrth basio Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru), mae Cymru'n unigryw yn y ffordd y mae'n archwilio sut i bontio'r bwlch tuag at gynaliadwyedd. Ynghyd â Deddfau Amgylchedd a Chynllunio Cymru mae gan Gymru'r fframwaith cyfreithiol i drawsnewid pethau.

 

Fel y dywedodd Syr David Attenborough ar y rhaglen deledu A Life On Our Planet "Mae angen i ni ddysgu sut i weithio gyda natur, yn hytrach nag yn ei herbyn".  Nid yw fframio'r dyfodol hwn fel dim ond cynnal ein hunain a galluogi ecosystemau i wrthsefyll y pwysau a roddwn arnynt yn weledigaeth ysbrydoledig. Gall pobl wneud mwy na dim ond goroesi. Gellir rhoi lle i natur lle gall wneud mwy na dim ond bod yn wydn a dal ei gafael rhag darfod.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig



SoNaRR20: Dadlwythwch yr adroddiad cryno (PDF)

SoNaRR20: Geirfa (PDF)

Darllenwch nesaf