Er mwyn i'r sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector yng Nghymru ysgogi newid i fynd i'r afael â'r argyfyngau natur a hinsawdd, mae angen iddynt ganolbwyntio ar y systemau sy'n cefnogi bywyd bob dydd.

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn darparu'r fframwaith i sicrhau newid integredig ar draws cymdeithas, economi a'r amgylchedd. Er mwyn edrych ar sut y gellir gwneud hyn, rydym wedi ystyried sicrhau newid amgylcheddol drwy'r meysydd cymdeithasol, economaidd ac ecosystemau.

Er bod gweithredu ym maes ecosystemau a'r maes economaidd yn canolbwyntio ar liniaru'r effeithiau y mae pobl yn eu cael ar y blaned, yn y maes cymdeithasol ac mewn cymdeithas sifil y gall Cymru fynd i'r afael ag achosion dirywiad amgylcheddol wrth eu gwraidd. Mae hynny'n golygu edrych ar y ffordd y mae pobl yn byw fel y gall amrywiaeth o sectorau ysgogi newid cymdeithasol a diwylliannol a sefydlu gwell perthynas rhwng pobl a'r amgylchedd yn gyflym.

 

 

Ffigur 1: Tri sffêr ein system economaidd-gymdeithasol.

Dangosir y byd mewn tri sffêr. Sffêr cymdeithasol yn y canol wedi'i amgylchynu gan y cylch economaidd, sydd wedi'i amgáu gan sffêr yr ecosystem.

Mae llawer o opsiynau ar gael ar gyfer dilyn trywydd datblygu mwy cynaliadwy o fewn y maes cymdeithasol deinamig sy'n newid yn barhaus.

Mae trawsnewidiadau cymdeithasol enfawr yn digwydd o'n cwmpas, drwy'r amser. Erbyn hyn, mae cerbydau awtonomaidd ac ynni adnewyddadwy yn bygwth diwydiannau sefydledig olew, nwy, glo a cheir. Gwelwyd cynnydd o 40% o flwyddyn i flwyddyn yng ngwerthiannau byd-eang ceir trydan yn ystod y flwyddyn ddiwethaf (Rhagolygon Cerbydau Trydanol Byd-eang 2020). Mae Cymru'n archwilio sut i ddefnyddio newidiadau technolegol a chymdeithasol o'r fath, er mwyn lleihau ei heffaith ar y blaned.

Mae dadansoddiad o sut mae ffyrdd o fyw ledled Ewrop yn ysgogi dirywiad amgylcheddol wedi dod i'r casgliad bod angen newidiadau dwfn er mwyn byw o fewn terfynau amgylcheddol (Amgylchedd Ewrop – cyflwr a rhagolygon2020). Mae angen cyffredinol i leihau lefelau cynhyrchu a defnyddio yn unol â nod 12 datblygiad cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig i 'sicrhau patrymau defnydd a chynhyrchu cynaliadwy ', wrth geisio economi atgynhyrchiol. Man cychwyn amlwg yw canolbwyntio ar y systemau craidd sy'n rhoi'r pwysau mwyaf ar ecosystemau. Mae'r rhain yn seiliedig ar fwyd, ynni a thrafnidiaeth (Asiantaeth yr Amgylchedd Ewrop, 2019).

 

 

Ffigur 2: Ecosystemau a systemau cynhyrchu–defnydd.

Y systemau ynni, symudedd a bwyd a ddangosir y tu mewn i'r we o systemau cynhyrchu a defnydd, pob un wedi'i dangos y tu mewn i'r ecosystemau.

© Asiantaeth yr Amgylchedd Ewrop, 2019

Mae edrych ar y systemau bwyd, ynni a thrafnidiaeth fel enghreifftiau o systemau cynhyrchu a defnyddio cymdeithas yn caniatáu ystod ehangach o bwyntiau ysgogi nag a ddefnyddiwyd yn draddodiadol i reoleiddio'r amgylchedd. Mae enghreifftiau'n cynnwys edrych ar werthoedd, ymddygiadau a gwahanol fathau o wybodaeth, yn ogystal â'r ffocws mwy traddodiadol ar elfennau technegol ac economaidd.

Ar y lefel ficro, er enghraifft, defnyddiwyd 'mewnwelediad ymddygiadol' ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat i wella dealltwriaeth o weithredoedd pobl, ac i sicrhau gwell canlyniadau drwy ddylanwadu ar ymddygiad dynol. Mae'r dull hwn yn darparu dealltwriaeth wyddonol o'r ffactorau sy'n gyrru ymddygiad dynol, yn enwedig prosesau nad ydynt yn ymwybodol fel arferion ac emosiynau. Mae hefyd yn rhoi cipolwg ar sut y gellir newid yr amgylchedd cymdeithasol a chorfforol i ddylanwadu ar ymddygiad, er enghraifft drwy newid yr 'opsiwn diofyn' i un sydd o fudd i'r amgylchedd, gan wneud ymddygiadau o blaid yr amgylchedd y dewis hawsaf.

Ar y lefel facro, gellir defnyddio polisi traws-sectoraidd i helpu i ailgynllunio'r systemau ynni, symudedd a bwyd, i sicrhau bod cymdeithas yn gweithredu'n unol â chapasiti amgylcheddol. Mae llywodraethau lleol a chenedlaethol yn cydgysylltu'r ystyriaeth integredig o weithgareddau traws-sectoraidd o amgylch gwahanol leoedd. Mae cynllunio gofodol yn ystyried defnydd tir gwledig a threfol ar raddfeydd lleol, rhanbarthol a chenedlaethol, i edrych ar faterion amgylcheddol ac economaidd-gymdeithasol.

Bydd cynllunio systemau trefol gwell, gan ddod â mewnbwn technegol a chreadigol at ei gilydd, yn galluogi cydweddu gwell â'r systemau naturiol y maent yn dibynnu arnynt. Awgrymwyd y dylai 'Cynllunwyr sy'n ceisio dylunio systemau trefol gwydn ddechrau drwy astudio ecoleg systemau naturiol' (Dinasoedd Adfywiol, World Future Council).

Byddai dysgu o sut mae systemau naturiol yn addasu i newid ac ailgylchu deunydd yn helpu i adeiladu economi atgynhyrchiol, un sy'n gweithredu o fewn terfynau planedol.

Daw adroddiad IPBES i'r casgliad fod newid i fyd cynaliadwy yn dechnegol ac yn economaidd bosibl, ond y bydd angen creadigrwydd cyfunol ac unigol i ailddychmygu'r ffordd rydym yn byw (Adroddiad asesu byd-eang ynghylch gwasanaethau bioamrywiaeth ac ecosystemau’r Llwyfan Gwyddoniaeth-Polisi Rhynglywodraethol ar Wasanaethau Bioamrywiaeth ac Ecosystemau).

O osod y systemau ynni, symudedd a bwyd wrth wraidd dadansoddiad SoNaRR o'r wyth ecosystem eang a'r pwysau arnynt, rydym yn dangos mai'r rhain yw'r pwyntiau ysgogi allweddol ar gyfer newid.

Ffigur 3: Y systemau ynni, symudedd a bwyd a osodwyd yng nghyd-destun ecosystemau a themâu trawsbynciol SoNaRR

Darllenwch nesaf

SoNaRR2020: Trawsnewid y system fwyd

SoNaRR2020: Trawsnewid y system ynni

SoNaRR2020: Trawsnewid y system drafnidiaeth

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

SoNaRR20: Geirfa (PDF)

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf