Ein taliadau
Rydym yn ceisio eich barn ar gynlluniau i ddiweddaru ein ffioedd ar gyfer rhai o'n trwyddedau a’n gweithgareddau cydymffurfio ar gyfer 2024 - 2025.
Mae'r ymgynghoriad ar gael ar-lein a bydd yn cau ddydd Llun 8 Ionawr 2024.
Ffioedd cynhaliaeth blynyddol 2023-2024
Y ffioedd cynhaliaeth yw’r ffioedd blynyddol ar gyfer rheoli eich trwyddedau. O 1 Ebrill 2023, bydd ein ffioedd cynhaliaeth blynyddol yn cynyddu 6% yn y meysydd canlynol:
- Adnoddau Dŵr
- Ansawdd Dŵr
- Rheoleiddio sylweddau ymbelydrol nad ydynt yn rhai niwclear
- Cydymffurfiaeth ym maes cronfeydd dŵr
- Trwyddedu ym maes gweithgarwch perygl llifogydd
- Cynllun Masnachu Allyriadau'r Deyrnas Unedig
- Rheoli Peryglon Damweiniau Mawr (COMAH)
- Cyfleusterau ailgylchu deunyddiau.
Bydd yr holl ffioedd cynhaliaeth eraill yn aros yr un fath ar gyfer 2023-2024.
Ffioedd Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol
Bydd y ffioedd newydd yn weithredol ar gyfer ceisiadau a ddaw i law ar ôl 00:00 ar 1 Gorffennaf 2023.
Ffioedd Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol 2023-24 (Saesneg yn unig)
Mae cynllun codi tâl Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol yn ymdrin â’r gwahanol fathau o weithrediadau sydd angen trwydded neu ganiatâd o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol gan gynnwys:
- cyfleusterau gwastraff
- gosodiadau
- gweithrediadau gwastraff mwyngloddio
- offer symudol
- ansawdd dŵr (gollyngiadau i ddŵr a dŵr daear)
- sylweddau ymbelydrol
- gweithgareddau perygl llifogydd
- Cyfarwyddeb Gweithfeydd Hylosgi Canolig a rheolaethau Generaduron Penodedig
Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth am ffioedd ar gyfer:
- cludwyr, broceriaid a delwyr gwastraff
- gweithrediadau gwastraff wedi’u heithrio
- cyfrifoldeb cynhyrchwyr
- cludo llwythi o wastraff yn rhyngwladol
Asesiad Risg Gweithredol (OPRA)
Er mwyn cyfrifo'ch tâl am Drwydded Amgylcheddol, bydd angen i chi lenwi taenlen Asesiad Risg Gweithredol (OPRA).
Ymgynghoriad ar yr offeryn newydd i ddisodli OPRA ar gyfer ffioedd gosod
Yn dilyn adborth ein hymgynghoriad ar ein hofferyn arfaethedig i fandio risg ar gyfer ceisiadau am drwyddedau gosodiadau, rydym bellach wedi lansio ymgynghoriad ar wahân i ddarparu gwybodaeth ychwanegol ar gyfer y maes hwn (trwyddedau pwrpasol haen 3).
Yn amodol ar ganlyniadau'r ymgynghoriad, rydym yn bwriadu rhoi’r offeryn bandio newydd a'r taliadau cysylltiedig ar waith cyn diwedd 2023.
Ffioedd tynnu dŵr
Mae Ffioedd Cynhaliaeth (Ffi Uned Safonol) 2023-2024 wedi cynyddu 6%
Bydd y ffioedd newydd yn weithredol ar gyfer ceisiadau a ddaw i law ar ôl 00:00 ar 1 Gorffennaf 2023.
Ar hyn o bryd rydym yn adolygu ein cynlluniau ffioedd Tynnu Dŵr ar gyfer 2023-2024 yn sgil penderfyniadau gweinidogol diweddar a byddwn yn cyhoeddi’r rhain cyn gynted ag sy’n ymarferol bosibl. Bydd yr anfonebau cynhaliaeth blynyddol yn cael eu hanfon o ddiwedd mis Mai 2023 ar y cynharaf.
Pennir ffioedd ar gyfer trwyddedau tynnu dŵr a chronni dŵr i dalu ein costau wrth sicrhau bod adnoddau dŵr yn cael eu rheoli'n gynaliadwy.
Mae gwybodaeth am ffioedd tynnu dŵr ar gael ar ein tudalen Cynllun Taliadau Tynnu Dŵr. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am ein ffioedd ymgeisio am drwyddedau tynnu dŵr a chronni dŵr a manylion am sut mae cydrannau'r ffioedd blynyddol ar gyfer trwyddedau tynnu dŵr yn gweithio, gan gynnwys y Tâl Uned Safonol a Thaliadau Uned Gwella'r Amgylchedd. Mae rhagor o wybodaeth am drwyddedau tynnu dŵr a chronni dŵr ar gael ar y dudalen Trwyddedau Tynnu Dŵr A Chronni Dŵr.
Rheoli Peryglon Damweiniau Mawr (COMAH)
Diweddariad: Mae’r gyfradd fesul awr ar gyfer 2023-2024 wedi cynyddu 6% i £161/awr.
Mae ffioedd COMAH yn cwmpasu ein rôl reoleiddio fel rhan o'r awdurdod cymwys sydd â'r dasg o reoli peryglon damweiniau mawr. Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a'r Swyddfa Rheoleiddio Niwclear, sy’n ffurfio Awdurdod Cymwys COMAH Cymru.
Rydym yn sicrhau bod deiliaid dyletswydd yn cymryd yr holl gamau angenrheidiol i atal damweiniau mawr a chyfyngu ar eu canlyniadau ar gyfer iechyd pobl a'r amgylchedd.
Rydym yn codi tâl i adennill costau cyflawni swyddogaethau Rheoliadau COMAH 2015, yn seiliedig ar ddull amser a deunyddiau. Rydym yn codi anfonebau o fewn 30 niwrnod o 31 Mawrth a 30 Medi bob blwyddyn. Ein cyfradd codi tâl bellach yw £161 fesul awr arolygydd oni nodir yn wahanol.
Nodir y ffioedd sy'n daladwy gan weithredwyr i’r awdurdod cymwys yn Rheoliad 28 o Reoliadau COMAH 2015. Golyga hyn y gall Awdurdod Cymwys COMAH godi tâl am gyflawni unrhyw swyddogaeth a nodir gan Reoliadau COMAH 2015 ac eithrio:
- unrhyw ymchwiliad troseddol neu erlyniad a gafwyd, yn y naill achos neu’r llall, o'r dyddiad y ceir unrhyw wŷs oddi wrth Lys Ynadon;
- swyddogaethau'r awdurdod cymwys sy'n gysylltiedig â pharatoi Cynlluniau Argyfwng Allanol dan Reoliad 13.
Ffioedd System Masnachu Allyriadau’r DU
Diweddariad: Mae Ffioedd Cynhaliaeth 2023-24 wedi cynyddu 6%; Bydd ffioedd trwyddedu’n aros yr un fath â lefelau 2022-23 am gyfnod 2023-24.
Mae Cynllun Masnachu Allyriadau y DU wedi disodli cyfranogiad y DU yng Nghynllun Masnachu Allyriadau’r Undeb Ewropeaidd ers 1 Ionawr 2021.
Datblygodd Cyfoeth Naturiol Cymru gynllun codi tâl ar gyfer System Masnachu Allyriadau’r DU y buom yn ymgynghori arno yn gynnar yn 2021 ac a weithredwyd o 1 Gorffennaf 2021. Ceir rhagor o wybodaeth ar ein tudalen System Masnachu Allyriadau’r DU
Diogelwch Cronfeydd Dŵr
Diweddariad: Mae Ffioedd Cynhaliaeth 2023-24 wedi cynyddu 6%
Bydd y ffioedd newydd yn weithredol ar gyfer ceisiadau a ddaw i law ar ôl 00:00 ar 1 Gorffennaf 2023
Nod Deddf Cronfeydd Dŵr 1975 yw amddiffyn pobl, eiddo a seilwaith trwy leihau'r perygl o lifogydd a achosir oherwydd methiant argaeau neu gronfeydd dŵr. Mae'n ddyletswydd arnom i sicrhau bod perchnogion a gweithredwyr cyforgronfeydd dŵr mawr yn eu rheoli’n briodol.
Rydym yn adennill cyfran o'n costau drwy ffioedd cofrestru cychwynnol, sy’n cynnwys cost pennu lefel risg y gellir ei briodoli i’r gronfa ddŵr. Mae cost y gwaith ychwanegol o fonitro cronfeydd risg uchel yn cael ei hadennill drwy daliadau blynyddol sy’n cael eu codi ar berchnogion neu weithredwyr cronfeydd dŵr. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalen Diogelwch cronfeydd dŵr.
Rheoleiddio Niwclear yng Nghymru
Diweddariad: Mae'r holl ffioedd niwclear (caniatáu a chynhaliaeth) yn aros yr un fath â lefelau 2022-23 am gyfnod 2023-24.
Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn cynnal rhywfaint o waith rheoleiddio niwclear ar safleoedd yng Nghymru ar ran CNC. Mae'r ffioedd yn rhan o ffioedd a thaliadau CNC, ond mae cynllun ffioedd Asiantaeth yr Amgylchedd yn effeithio arnynt. Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn ymgynghori ar wahân ar ei ffioedd a'i thaliadau.
Trwyddedu Rhywogaethau (Newydd)
Bydd y ffioedd newydd yn weithredol ar gyfer ceisiadau a ddaw i law ar ôl 00:00 ar 1 Gorffennaf 2023.
Rydym yn rheoli trwyddedu gweithgareddau a fyddai fel arall yn anghyfreithlon i'w cyflawni oherwydd eu heffaith debygol ar rywogaethau a warchodir gan Ewrop neu'r DU.
Mae trwyddedau ar gyfer Rhywogaethau a Warchodir gan Ewrop yn ymwneud yn bennaf â datblygiadau, ond rydym hefyd yn derbyn ceisiadau 'domestig' yn ymwneud â’r rhywogaethau hyn. Yn gyffredinol, mae’r rhain ar gyfer gwaredu ystlumod o anheddau am resymau iechyd, yn ogystal â gwaith ar raddfa fach, isel ei effaith ar eiddo domestig.
Rydym hefyd yn derbyn ceisiadau am weithgareddau mewn perthynas â phrosiectau gwyddonol, i helpu cadwraeth, ar gyfer gweithrediadau coedwigaeth, ac ar gyfer amaethyddiaeth. Mae nifer fach yn ymwneud â rheolaeth fiolegol neu ailgyflwyno rhywogaethau.
Rhoddir trwyddedau rhywogaethau gwarchodedig y DU yn bennaf ar gyfer gwaith cadwraeth, gan gynnwys gwaith addysgol, monitro ac arolygu. Mae nifer llai (trwyddedau moch daear yn bennaf) yn ymwneud â datblygiad. Mae rhai ceisiadau yn ymwneud ag iechyd a diogelwch mewn eiddo masnachol neu effaith amaethyddol ac mae nifer fach yn ymwneud â rheolaethau biolegol neu ailgyflwyno.
Ffioedd Trwyddedu Rhywogaethau
Codi tâl am wybodaeth
Os hoffech wneud cais am wybodaeth, gallwch ddarganfod mwy am y wybodaeth yr ydym yn ei darparu am ddim a'r wybodaeth yr ydym yn codi tâl amdani.
Codi tâl am gyngor
Gallwn ddarparu cyngor sylfaenol neu wedi’i deilwra, a gallwn godi tâl am ein hamser i'w ddarparu.
Rydym yn darparu maint cyfyngedig o gyngor sylfaenol cyn ymgeisio i helpu cwsmeriaid i ddeall beth sydd angen iddynt ei wneud i gydymffurfio a sut i wneud cais am drwyddedau perthnasol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalen Cyngor cyn ymgeisio ar gyfer trwyddedau amgylcheddol neu dudalen y gwasanaeth cyngor cyn ymgeisio ar gyfer trwyddedau tynnu dŵr a chronni dŵr.
Mae cyngor pwrpasol manylach y codir tâl amdano ar gael ar gais drwy ein Gwasanaeth Cyngor Dewisol. Codir tâl am gyngor pwrpasol ar gyfradd o £125 yr awr ynghyd â TAW.
Pysgodfeydd
Rhagor o wybodaeth am ein taliadau am y canlynol;
Taliadau electronig
Os ydych am dalu am eich trwydded neu am eich cais am drwydded trwy drosglwyddiad electronig, defnyddiwch yr wybodaeth isod i wneud eich taliad.
- Enw'r cwmni: Cyfoeth Naturiol Cymru
- Cyfeiriad y cwmni: Adran Incwm, BLWCH SP 663, Caerdydd, CF24 0TP
- Banc: RBS
- Cyfeiriad: National Westminster Bank Plc, 2 ½ Devonshire Square, London, EC2M 4BA
- Cod didoli:60-70-80
- Rhif cyfrif: 10014438
Gall fod y manylion a roddwyd ar eich ffurflen gais am drwydded wedi newid ers i chi ei derbyn. Byddwn yn diweddaru ein ffurflenni cyn gynted â phosibl, ond defnyddiwch y wybodaeth isod wrth wneud taliadau electronig o hyn ymlaen.
Gwneud taliadau o'r tu allan i'r Deyrnas Unedig
Mae'r manylion hyn wedi newid. Os ydych yn gwneud eich taliad o'r tu allan i'r Deyrnas Unedig (rhaid inni ei dderbyn mewn sterling), ein rhif IBAN yw GB70 NWBK6070 8010 014438 a'n rhif SWIFT/BIC yw NWBKGB2L.
Anfon eich manylion talu / eich hysbysiad talu atom dros yr e-bost
E-bostiwch eich manylion talu a manylion y math o daliad (megis 'Amrywiad Gwastraff' neu 'Ansawdd Dŵr Newydd') i online@naturalresourceswales.gov.uk neu online@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Mae'n rhaid i chi gynnwys enw eich cwmni a rhif/cyfeirnod yr anfoneb. Os oes modd, dylech anfon hysbysiad talu hefyd. Bydd hyn yn sicrhau bod eich taliad yn cael ei brosesu’n gywir.
Dylech gynnwys y cyfeirnod talu BACS ar y ffurflen gais ei hun o hyd.
Os na fyddwch yn dyfynnu eich cyfeirnod talu, efallai y bydd oedi wrth brosesu eich taliad a’ch cais.