Gwaith Twyni Byw hanfodol yn parhau yn Aberffraw

Mae twyni Aberffraw wedi'u dynodi'n Ardal Cadwraeth Arbennig, a dros y blynyddoedd diwethaf mae prosiect Twyni Byw wedi bod yn gweithio ochr yn ochr ag Ystad Bodorgan, sy'n berchen ar yr ardal ac yn ei rheoli.

Swyddog Prosiect Twyni Byw, Jake Burton, sy’n rhannu cynlluniau cadwraeth hanfodol isod a fydd yn parhau i adfer y safle rhyngwladol bwysig hwn ar Ynys Môn.

Trwy gydol yr haf, byddwn yn rheoli rhosyn Japan, sydd â blodau pinc lliwgar. Mae'n rhywogaeth estron goresgynnol yn ein twyni tywod ac yn gallu ymledu’n gyflym dros ardaloedd agored mawr y mae eu hangen ar fywyd gwyllt brodorol i ffynnu.

Bydd Twyni Byw yn torri rhannau mawr o laswelltir y twyni, i reoli eithin a mieri a chadw llystyfiant yn fyr. Bydd y gwaith rheoli hwn hefyd yn annog cwningod i bori, gan roi hwb i flodau gwyllt y safle a’r amrywiaeth anhygoel o bryfed.

Wrth i fis Medi gyrraedd, byddwn ni'n creu rhicyn yng nghefnen y blaendwyni, sef bwlch siâp V a fydd yn caniatáu i fwy o dywod o'r traeth gael ei symud trwy'r twyni gan wynt. Er y gallai'r gwaith edrych yn ddramatig ar y dechrau, bydd y bwlch yn cael effaith gadarnhaol ar y system twyni tywod ac ar y bywyd gwyllt sy’n byw yno yn y tymor hir.

Fodd bynnag, cyn i ni ddechrau, byddwn yn gweithio gyda’r Ymddiriedolaeth Cadwraeth Amffibiaid ac Ymlusgiaid i wneud gwaith lliniaru pwysig ar gyfer Madfallod y Tywod, sydd wedi ailsefydlu yn Nhywyn Aberffraw dros y degawd diwethaf.  Fel ymlusgiad prinnaf Cymru a Rhywogaeth a Warchodir gan Ewrop, mae'n hanfodol sicrhau nad oes unrhyw unigolion yn yr ardal gloddio cyn y gwaith, felly byddwn ni’n strimio’r llystyfiant yn ofalus i'w gwasgaru, a bydd unrhyw Fadfallod Tywod sydd ar ôl yn cael eu symud gan arbenigwyr, i leoliad ychydig gannoedd o fetrau i ffwrdd er mwyn i'r unigolion hynny barhau i ffynnu yma.

Er mwyn gwella cynefin Madfallod y Tywod ar draws y blaendwyni, byddwn yn creu mosaig o ddarnau moel bach o dywod o fewn y moresg trwchus a fydd yn cynhyrchu cynefin amrywiol i hybu cyfleoedd i ddodwy wyau a hela.

Cyflwynir holl waith Twyni Byw gyda'r uchelgais o gadw cynefin twyni tywod bendigedig Tywyn Aberffraw yn iach. Cadwch lygad ar ein ffrydiau cyfryngau cymdeithasol lle byddwn yn parhau i roi’r diweddaraf am ein gwaith. Gallwch ein dilyn ni ar @TwyniByw ar Twitter, Instagram, a Facebook neu drwy chwilio Twyni Byw / Sands of LIFE.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru