Gwella’r Gwasanaeth Rhybydd Llifogydd: Byddwch yn barod

Ystyrir gan lawer mai llifogydd yw’r bygythiad mwyaf yn ymwneud â’r hinsawdd sy’n wynebu’r DU. Gall ddinistrio cartrefi a difetha busnesau dros nos ac effeithio ar gymunedau cyfan.

Yng Nghymru, mae 1 o bob 8 (245,000) eiddo mewn perygl o lifogydd, a dyna pam mae cymaint o ymdrechion Cyfoeth Naturiol Cymru wedi’u hanelu at leihau’r perygl hwnnw i gymunedau Cymru – boed hynny drwy fodelu a mapio ardaloedd sydd mewn perygl o lifogydd, cynghori ar benderfyniadau cynllunio, adeiladu a chynnal amddiffynfeydd llifogydd neu rybuddio a hysbysu pobl sydd mewn perygl trwy ein Gwasanaeth Rhybuddion Llifogydd.

Gyda Chymru ar fin profi digwyddiadau tywydd mwy eithafol yn y dyfodol, mae Tom Baker, Prif Gynghorydd Arbenigol yn y tîm Rhybuddio a Hysbysu yn CNC yn tynnu sylw at sut mae newidiadau i’n negeseuon Rhybuddion Llifogydd yn helpu i sicrhau bod y gwasanaeth rhybuddion llifogydd yng Nghymru yn fwy effeithlon ac yn grymuso pobl â mwy o wybodaeth i baratoi ac ymateb i berygl llifogydd yn eu cymunedau.

Ein rôl

Un o brif swyddogaethau CNC yw lleihau a rheoli perygl llifogydd o brif afonydd ac arfordir Cymru. Gwnawn hynny drwy adeiladu a chynnal amddiffynfeydd rhag llifogydd, gwella mynediad at wybodaeth am berygl llifogydd a chynghori ar benderfyniadau cynllunio. Rydym hefyd yn rhybuddio ac yn hysbysu pan fydd llifogydd yn bygwth, yn ogystal â lleoli ein timau gyda’n hasedau ar lawr gwlad a gweithio gyda phartneriaid er mwyn lleihau effeithiau llifogydd mewn cymunedau.

Mae’r Gwasanaeth Rhybuddion Llifogydd a weithredir gan CNC yn elfen allweddol o’r gwasanaeth rheoli perygl llifogydd gaiff ei ddarparu gennym. Mae’r gwasanaeth rhad ac am ddim hwn yn darparu gwybodaeth hanfodol i gwsmeriaid sydd wedi cofrestru, a hynny mewn ardaloedd sydd mewn perygl o lifogydd o afonydd a’r môr, gan roi rhybudd ymlaen llaw ac felly amser i bobl gymryd camau i amddiffyn eu hunain a’u heiddo.

Bydd llawer o bobl sy’n byw mewn ardaloedd lle mae perygl llifogydd yn gyfarwydd â’r tair lefel o rybuddion a gyhoeddwn – Llifogydd: Byddwch yn Barod, Rhybudd Llifogydd a Rhybudd Llifogydd Difrifol.

Bryd hyn wrth ysgrifennu, mae gennym 134,619 eiddo wedi'u cofrestru gyda'r Gwasanaeth, ac mae’r rhain yn derbyn rhybuddion wedi'u teilwra ar y risg benodol i'w hardaloedd trwy alwadau ffôn awtomataidd, e-bost a neges destun.

Mae gweithrediad y gwasanaeth yn dibynnu ar systemau technegol a setiau data rhyng-gysylltiedig, offer a gweithdrefnau ac arbenigedd staff arbenigol.

Gwelliannau dros amser

Mae lefel y gwasanaeth i gwsmeriaid wedi gwella'n sylweddol dros amser ers i ni gymryd y cyfrifoldeb o ddarparu rhybuddion llifogydd oddi wrth yr Heddlu ym 1996. Rydym wedi ehangu'r cwmpas ac wedi gwneud gwelliannau o ran cywirdeb, datrysiad ac amser arweiniol yn sgil datblygiadau technolegol mewn monitro, rhagweld a chyfathrebiadau.

Mae ein gwelliannau hefyd wedi bod yn seiliedig ar ddysgu parhaus o ddigwyddiadau llifogydd blaenorol e.e. llifogydd dinistriol mis Chwefror 2020, ac o ganlyniad i fwy o gydweithio sefydliadol gyda’r Swyddfa Dywydd a’r Ganolfan Darogan Llifogydd ar y cyd.

Mae hyn wedi gwella ein gallu i gynhyrchu rhagolygon mwy effeithiol, ar amseroedd arwain hwy (hyd at bum niwrnod ar gyfer llifogydd afonol ac arfordirol) a chyfathrebu risg llifogydd sy’n datblygu i bartneriaid proffesiynol a’r cyhoedd trwy’r Datganiad Canllawiau Llifogydd a’r rhagolygon perygl llifogydd 5 diwrnod ar gyfer Cymru ar ein gwefan.

Mae’r gwelliannau a wnaed i’r gwasanaethau digidol ar wefan CNC bellach hefyd yn golygu y gallwn rannu ein gwybodaeth arbenigol seiliedig ar ddata gyda phobl, cymunedau a pherchnogion busnes.

Mae’r gwasanaeth i wirio eich perygl llifogydd hirdymor yn ôl cod post, a’r gallu i gael mynediad amser go iawn i lefel yr afon, glawiad a lefel y môr, yn golygu bod pobl bellach wedi’u grymuso’n fwy nag erioed â’r wybodaeth sydd ei hangen arnynt i ddeall eu perygl llifogydd ac i baratoi ar gyfer unrhyw effeithiau yn y dyfodol.

At ei gilydd, mae pob cam a chydweithio wedi gwella’n sylweddol effeithiolrwydd y Gwasanaeth Rhybuddion Llifogydd i gwsmeriaid. Ond rydym yn parhau i ddysgu ac i roi gwelliannau ar waith er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i fod yn addas at y diben ac yn gadarn yn wyneb heriau'r dyfodol - gan gynnwys yr argyfwng hinsawdd.

Beth yw rhybudd Llifogydd: Byddwch yn barod?

Defnyddir rhybudd Llifogydd: Byddwch yn barod i rybuddio pobl am y posibilrwydd o lifogydd a'u hannog i fod yn effro, i aros yn wyliadwrus a gwneud unrhyw baratoadau angenrheidiol ar gyfer llifogydd posibl. Cyhoeddir Rhybudd Llifogydd: Byddwch yn barod yn gynt na Rhybudd Llifogydd, er mwyn rhoi rhybudd ymlaen llaw i gwsmeriaid o'r posibilrwydd o lifogydd, ond cyn gwneud hynny rydym yn gwbl hyderus y disgwylir llifogydd mewn Ardaloedd Rhybuddion Llifogydd.

Defnyddir Rhybuddion Llifogydd hefyd gan amrywiaeth o gwsmeriaid a allai gael eu heffeithio gan y llifogydd ar dir isel yn hytrach nag mewn eiddo, er enghraifft ffermwyr y mae angen eu rhybuddio am y posibilrwydd y bydd afonydd yn gorlifo ar dir fferm er mwyn iddynt allu symud da byw.

Cânt eu cyhoeddi fel arfer ar raddfa dalgylch mwy cyffredinol na'r Rhybuddion Llifogydd cymuned-benodol, er bod rhai Rhybuddion Llifogydd: Byddwch yn barod yn cael eu cyhoeddi ar raddfa gymunedol mewn rhannau o Gymru. 

Beth sy'n newid?

Er bod gwerth i'n negeseuon Llifogydd: Byddwch yn barod, maent hefyd yn cymryd amser i'w hystyried a'u cyhoeddi.

Tynnodd adolygiad CNC o’i ymateb i lifogydd mis Chwefror sylw at sut yr oedd yr ymdrech a wnaed i ystyried rhybuddion Llifogydd: Byddwch yn barod yn y dyddiau cyn anterth y stormydd wedi gorddefnyddio capasiti staff a hynny cyn adegau prysuraf y digwyddiadau.

Argymhellwyd adolygu gwerth rhybuddion Llifogydd: Byddwch yn barod i gwsmeriaid ar gyfer pob ffynhonnell lifogydd ac yna chwilio am gyfleoedd i gyflawni’r gwaith dadansoddi, gwneud penderfyniadau a chyhoeddi rhybuddion Llifogydd: Byddwch yn barod yn fwy effeithlon.

Ers hynny, rydym wedi bod yn asesu ein defnydd o’r datblygiadau diweddaraf mewn technoleg rhagweld a monitro a bydd hyn yn ein gweld yn mabwysiadu dull seiliedig ar hyder wrth gyhoeddi rhybuddion Llifogydd: Byddwch yn barod. Mae hyn yn golygu y gallai rhybuddion Llifogydd: Byddwch yn barod gael eu cyhoeddi ar sail hyder ym manylion y rhagolygon a chyn i'r glaw ddechrau disgyn. Dylai hyn roi hysbysiad cynharach i gwsmeriaid gan ganiatáu mwy o amser iddynt baratoi ar gyfer llifogydd posibl a galluogi dull gweithredu mwy cyson ar draws Cymru.

Bydd hefyd yn rhoi’r amser a’r gallu i’n Swyddogion Dyletswydd Rhybuddio Llifogydd ganolbwyntio ar fonitro a chyhoeddi Rhybuddion Llifogydd a Rhybuddion Llifogydd Difrifol wrth i’r sefyllfa ddatblygu, gan sicrhau ein bod yn darparu Gwasanaeth Rhybuddio Llifogydd cyffredinol gwell - yn enwedig pan yw’r perygl yn cynyddu.

Rydym hefyd wedi teilwra cynnwys ein negeseuon ffôn, e-bost a’n negeseuon testun i sicrhau bod cysondeb ar draws Cymru, gan hysbysu pobl am y perygl a’u cyfeirio at ein gwefan lle gallant ddod o hyd i ragor o wybodaeth am sut i baratoi. Bydd hyn yn cynnwys dolen i’n tudalennau ‘Lefel Afon, Data Glawiad a Môr’  mewn amser go iawn bron, ar ein gwefan, gan osod y wybodaeth sydd ei hangen ar gwsmeriaid i fonitro amodau yn eu hardal leol ar flaenau eu bysedd. Mae'r dudalen yn galluogi cwsmeriaid i weld yr arsylwadau diweddaraf ar lefel afon a'r môr, gan ddangos a ydynt yn codi neu'n gostwng, sut mae lefelau'n cymharu â lefelau nodweddiadol, a'r lefelau uchaf ac isaf a gofnodwyd.

At ei gilydd, mae’r gwelliannau’n golygu y gallwn ganolbwyntio ar sicrhau bod y gwasanaeth yn effeithlon a bod modd inni ddarparu rhybudd amserol o lifogydd posibl Llifogydd : byddwch yn barod a Rhybudd Llifogydd amserol i’r rhai sydd mewn perygl o effeithiau llifogydd mwy difrifol, gan rymuso cwsmeriaid ar yr un pryd â’r wybodaeth sydd gennym i’w helpu i baratoi ar gyfer effeithiau llifogydd.

Caiff y newidiadau eu cyflwyno o 2 Mawrth 2022 a byddant yn rhan o raglen ehangach o gynlluniau i wella’r Gwasanaeth Rhybuddion Llifogydd. Bydd y newidiadau’n effeithio’n unig ar y rhai hynny sydd wedi ymrwymo i dderbyn rhybuddion Llifogydd: Byddwch yn barod. Bydd ymwelwyr â’n tudalennau rhybuddion llifogydd ar ein gwefan hefyd yn gweld newidiadau i lefel y wybodaeth a rennir yn ein negeseuon rhybuddion llifogydd.

Gallwch ddarllen mwy am sut rydym yn rhagweld llifogydd, yn cyhoeddi rhybuddion ac yn asesu perygl llifogydd ar ein gwefan yma. here.

Gall pobl ganfod eu perygl llifogydd yn syml trwy nodi cod post ar ein gwefan. Mae ein gwefan hefyd yn cynnwys gwybodaeth am beth i'w wneud cyn, yn ystod ac ar ôl llifogydd a sut i gofrestru’n rhan o’r system rhybuddion llifogydd rhad ac am ddim. Gall y rhai sydd eisoes wedi cofrestru wirio eu cofrestriad trwy fewngofnodi i'ch cyfrif neu drwy gysylltu â ni.

Mae ein Map Llifogydd newydd ar gyfer Cynllunio hefyd yn cynnwys gwybodaeth am sut y bydd newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar berygl llifogydd dros y ganrif nesaf.

I rannu eich adborth ar y gwasanaeth, cysylltwch â warning.informing_national@naturalresourceswales.gov.uk

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru