Cofleidio llawenydd y gaeaf gyda'ch dysgwyr

Ionawr 2023

Mwynhau hud y gaeaf gyda’ch dysgwyr

child plays in snow

Nid yw'r ffaith ei bod hi’n oer y tu allan yn golygu bod eich dysgwyr wedi colli eu hegni na’u hawydd i chwarae. Mae plant yn dal i dyfu, hyd yn oed yn y gaeaf, ac nid yw cyfnodau hir o aros yn llonydd yn gwneud lles i ddatblygiad eu cyhyrau. Mae'r gaeaf yn cynnig amrywiaeth o ffyrdd i ysgogi dychymyg trwy chwarae. O adael aeron a dail mewn mowldiau i rewi dros nos i greu addurniadau iâ i dynnu lluniau ac ysgrifennu mewn eira a rhew - mae’r misoedd oer yn cynnig llu o gyfleoedd dysgu newydd. 

Wrth edrych drwy’r ffenest, rydych chi’n gweld diwrnod llwydaidd a dwl ac yn teimlo awel oer yn dod drwy’r drws wrth ei agor. “Awn ni allan yfory” meddech chi. Mae’n hawdd peidio â thrafferthu mynd allan i’r amgylchedd naturiol gyda’ch dysgwyr pan fo’r tymheredd yn gostwng, ond gyda digon o waith paratoi a dealltwriaeth o dywydd y gaeaf, gall dysgwyr gael cymaint o hwyl yn yr oerni ag y maent yn ei gael yn yr haul!  Edrychwch ar ein hawgrymiadau ar sut i fwynhau'r awyr agored gyda'ch dysgwyr yn ystod y misoedd oerach.

Er mwyn manteisio ar egni’r dysgwyr a’u cadw i symud, beth am ofyn iddynt egni eich dysgwyr a'u cadw i symud, a all eich dysgwyr gwblhau  Helfa Sborion neu gydweithio i ddod o hyd i briciau i godi Tŵr.   Archwiliwch sut mae rhai anifeiliaid gwaed cynnes yn defnyddio gaeafgysgu er mwyn goroesi gyda’n gêm gaeafgysgu.  'Ffenestri gwydr dwbl, wedi'i inswleiddio'n dda gyda golygfeydd sy'n wynebu'r de', a all eich dysgwyr adeiladu cartref clyd i gadw anifail tegan yn gynnes drwy'r gaeaf gyda'n gweithgaredd 'Cartrefi anifeiliaid'?   Gofynnwch i'ch dysgwyr ddyfalu pa fath o frigyn yw’r gorau ar gyfer ras hwyliog i lawr yr afon.  Hir a thenau neu fyr a mwy trwchus?  Dewch o hyd i ddarn addas a diogel o'r afon i ganfod yr ateb! 

Anogwch eich dysgwyr i ddod i adnabod y coed yn eich lleoliad. Ar ôl colli eu dail, bydd yn llawer haws i'ch dysgwyr weld gwir siâp coed llydanddail.  O fesur uchder coed i ddarganfod oedran coeden, edrychwch ar ein gweithgareddau mesur coed a gofynnwch i'ch dysgwyr roi cynnig ar wneud eu pecyn mesur coed eu hunain gan ddefnyddio ein templed

Ydych chi wedi clywed am koselig?  Cysyniad o Norwy yw kselig sy’n golygu teimlad o fodlonrwydd dwfn a geir gan berson, lle neu awyrgylch - profi hapusrwydd a llesiant personol trwy gyfuniad o natur, cwmnïaeth a chysur.  Mae’n arbennig o bwysig i fwynhau’r eiliadau bach yn ystod y gaeaf.  Mae cadw meddylfryd positif a mwynhau pob elfen yn hanfodol wrth i’r gaeaf ddal ei afael ar yr amgylchedd naturiol.  Mae treulio amser yn yr awyr agored a pharhau i symud yn gallu rhoi hwb i’r hwyliau, eich helpu i gysgu’n well a lleihau gorbryder.

Ar yr amod eu bod yn  gwisgo mewn dillad cynnes, beth am roi cynnig ar ein gweithgaredd ymwreiddio 'man arbennig'?  Gofynnwch i'ch dysgwyr eistedd, sefyll neu orwedd yn dawel.  Esboniwch y gallant ddewis edrych o gwmpas y fan a'r lle, gan ganolbwyntio ar y manylion lleiaf neu beidio â meddwl am unrhyw beth.  Dewiswch amserlen addas ar gyfer eich grŵp ac ar ôl gorffen, rhowch amser i bawb ddod at ei gilydd. Trafodwch sut roedd yr amser tawel yn gwneud iddyn nhw deimlo a'r hyn y gwnaethon nhw ei arsylwi yn ystod eu hamser yn y man arbennig. Hyd yn oed ar y dyddiau tywyllaf neu yn nyfnder y gaeaf, mae harddwch i'w gael ym myd natur. O eirlys bach yn gwthio eu ffordd drwy’r dail ar y llawr i flodeuo, i fflach o gen melyn yn goleuo wal gerrig, anogwch eich dysgwyr i gymryd eiliad i sylwi ar yr hyn sydd o’u cwmpas.  

Felly ewch amdani - ymrwymwch i dreulio rhywfaint o amser yn yr amgylchedd naturiol ar antur gaeaf gyda’ch dysgwyr yn ystod y misoedd oer sydd i ddod... hyd yn oed am gyfnod byr, a byddwch chi a’ch dysgwyr yn elwa. 

 

Dysgu yn ein hamgylchedd naturiol, dysgu amdano a dysgu ar ei gyfer

 

Chwilio am ragor o adnoddau dysgu, gwybodaeth, neu ddata? Cysylltwch ag:

addysg@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk neu ewch i https://cyfoethnaturiol.cymru/dysgu

Am fformatau gwahanol; print bras, neu ieithoedd gwahanol, cysylltwch ag:

ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk  

0300 065 3000

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru