Beth sy'n arbennig am Dalacre?
Dysgwyr Ysgol Pen Barras sy’n ymchwilio i pam mae arfordir Cymru yn lle gwych i ddysgu ynddo, dysgu amdano a dysgu ar ei gyfer.
Pam ymweld â Thalacre? Dyna’r cwestiwn a ofynnwyd i ddysgwyr o Ysgol Pen Barras, Rhuthun, Sir Ddinbych yn ddiweddar.
Treuliodd y dysgwyr o'r ysgol wyth wythnos yn ymchwilio i'r hyn sy'n gwneud Talacre, Sir y Fflint yn hafan i bobl a bywyd gwyllt. Arweiniodd y thema at ymweliad â thraeth hir, euraidd Talacre sydd ar Lwybr Arfordir Cymru ac yn ymestyn o flaen ehangder o dwyni tywod.
Yr athrawes Elen Jones o’r ysgol, sy’n rhannu’r hyn y mae’r dysgwyr wedi’i ddarganfod a sut y gwnaeth y dysgu helpu i gyflawni yn erbyn Pedwar Diben y Cwricwlwm i Gymru.
Bûm yn ddigon ffodus i fynd ar hyfforddiant 'Bonjour Talacre' fis Mehefin diwethaf, fel rhan o weledigaeth ein hysgol i ddefnyddio mwy o'r awyr agored yn ein haddysgu. Roeddwn yn gobeithio cael syniadau a phrofiadau mewn addysgu yn yr awyr agored, gan ei fod o fudd aruthrol i’r dysgwyr a’u lles. Fel ysgol, rydym yn ceisio gwella ein hardal tu allan yn CA2 a rhoi mwy o amser i’r plant ddysgu trwy brofiad a chwarae yn yr awyr agored.
Ar ôl bod ar y cwrs, awgrymais i weddill y staff y gallwn ddilyn y thema 'Bonjour Talacre' fel adran, gan olygu y byddai disgyblion blynyddoedd 3, 4, 5 a 6 yn dilyn yr un thema dros yr hanner tymor. Fel athrawon, daethom at ein gilydd i edrych ar yr adnoddau a oedd ar gael i’w defnyddio o’r cwrs ac ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru. Fe wnaethom gynllunio a rhannu pa weithgareddau y byddem yn eu dilyn trwy ein tymor 8 wythnos.
Fe wnaethom gyflwyno’r pwnc i’r plant yn union sut y cyflwynodd CNC o i ni ar y cwrs! Gwisgodd Mrs Williams (un o’n hathrawon gwych blwyddyn 5 a 6) fel Madame Normané, Pennaeth ysgol o Ffrainc, a alwodd i mewn i’n gwasanaeth uned. Roedd Madame Normané yn bwriadu ymweld â thref arfordirol Talacre, ond roedd wedi cael newyddion drwg bod y lle yn ddiflas, yn ddifywyd ac yn anaddas ar gyfer ymwelwyr! Yna gosododd hyn broblem i'n dysgwyr, cawsant y dasg o brofi Madame Normané yn anghywir cyn diwedd y tymor! Arweiniodd yr holl waith a gwblhawyd gan y plant dros yr hanner tymor at y cynnyrch terfynol, sef hysbysebu'r holl wybodaeth anhygoel yr oeddent wedi’i ddysgu am ardal Talacre.
Buom yn edrych ar isbynciau amrywiol a chymharu arfordir Talacre â Llydaw, yn Ffrainc. Edrychodd y plant ar y gwahanol fathau o gregyn, bywyd y môr a bywyd gwyllt yn Nhalacre ac fe wnaethon greu pamffledi i adnabod cregyn. Rydym wedi gallu cysylltu’r hyn a ddysgwyd â’r cysyniad o gynefinoedd drwy edrych ar y bywyd gwyllt sy’n byw yn y twyni tywod. Mae'r plant wedi eu swyno'n fawr yn y llyffantod cefnfelyn prin sy'n byw yn y twyni tywod. Mi wnaethon nhw ysgrifennu adroddiad ar y bywyd gwyllt a ddarganfuwyd yn Nhalacre a buont yn ymchwilio i bwysigrwydd y twyni tywod. Yn ystod ein hymweliad â thraeth Talacre, bu’r plant yn cymryd rhan mewn gweithgareddau cadwyn fwyd, gan ddysgu am ysglyfaethwyr ac ysglyfaeth, a sut mae egni’n cael ei symud rhyngddynt. Roedd yr adnoddau ar wefan CNC yn gwneud hyn mor hawdd.
Rydym hefyd wedi bod yn ddigon ffodus i gael siaradwyr gwadd i ddod i mewn i’r ysgol i siarad â’r plant am y fferm wynt môr yn Nhalacre ac i drafod gefeillio ein tref leol Rhuthun, gyda Brieg yn Llydaw. Mae’r plant wedi dysgu am hanes yr Ail Ryfel Byd yn Nhalacre ac wedi ysgrifennu dyddiadur, o safbwynt Anita Marsden yn byw yn y twyni tywod yn ystod y rhyfel. Roedd y ddolen fideo ar hanes bywyd Anita ar wefan CNC yn ddefnyddiol iawn i ddod â'r pwnc yn fyw i'r plant!
Sylwadau rhai o’r disgyblion ar y thema:
“Rwyf wedi elwa o'r profiad hwn oherwydd ni wyddwn am hanes Talacre ac am yr holl anifeiliaid diddorol sy'n byw yn y Twyni. Roeddwn i wrth fy modd yn ymweld â Thalacre a gweld y twyni a'r goleudy.” Mared
“Doeddwn i ddim yn sylweddoli bod y twyni tywod mor fawr! Cefais gymaint o syndod pan ymwelon ni â Thalacre. Does ddim syndod bod gymaint o anifeiliaid gwyllt yn byw ynddynt. Fy hoff ran o’r daith oedd cerdded drwy’r twyni tywod, a mynd ar goll ynddynt!” Livi
“Dwi wedi mwynhau dysgu am fywyd Anita Marsden yn y twyni a dysgu am hanes yr Ail Ryfel Byd yn Nhalacre. Roedd yn rhaid i ni hyd yn oed adeiladu lloches Anderson yn yr ysgol!” Lefi
Mae'r plant i gyd wedi dysgu cymaint am yr amgylchedd naturiol yn ystod y thema hon! Mae'r plant wedi cael profiadau go iawn yn ymweld â Thalacre, yn casglu a didoli cregyn, gweld y bywyd gwyllt a chael profiad o gerdded drwy'r twyni tywod. Mae hyn wedi tanio diddordeb yn ein dysgwyr i fod eisiau dysgu mwy am ein hamgylchedd naturiol. Heb y cwrs hyfforddi, ni fyddwn wedi gwybod i edrych ar wefan CNC am yr holl adnoddau a syniadau gwych hyn! Mae'r cwrs wedi rhoi'r hyder i mi roi cynnig ar ddull gwahanol o addysgu, yn yr amgylchedd naturiol a thrwy blotio 'her' i'r plant gyda Madame Normane. Mae’r cwrs hefyd wedi rhoi’r wybodaeth i mi am ba mor bwysig yw hi i’r plant gael profiad o ddysgu yn yr awyr agored a chysylltu â byd natur. Mae bod allan gyda natur yn rhoi cymaint o hwb i les a hunanhyder y plant.
Yn ystod y cwrs hyfforddi, cawsom amser mewn grwpiau i fapio’r gweithgareddau i’r 6 Maes Dysgu a Phrofiad. Roedd hwn yn amser hollbwysig i ni fel athrawon i eistedd i lawr a thrafod y gweithgareddau hyn yn fanwl. Sylweddolom yn syth fod hwn yn syniad thema gwych a fyddai’n ffitio’n hawdd i bob maes dysgu a phrofiad! Roedd y gweithgareddau'n cysylltu'n dda â'i gilydd ac yn rhoi golwg gytbwys ar bob maes. Cefais fy synnu o weld faint o waith mathemateg a rhifedd ddaeth i mewn i'r gweithgareddau, o fesur gwaith gyda cilomedrau a milltiroedd, i greu graffiau a thablau o gasglu data cregyn. Mae thema 'Bonjour Talacre' yn cyd-fynd yn llwyr â phob maes dysgu a gellir ei addasu'n hawdd i bob grŵp oedran.
Mae’r thema a'r syniadau am weithgareddau hefyd wedi helpu'r dysgwyr i wneud cynnydd yn erbyn y 4 diben dysgu:
- Mae'r plant yn gweithio tuag at fod yn ddinasyddion gwybodus a moesegol sy'n gofalu am ein hamgylchedd naturiol ac yn gwarchod ein bywyd gwyllt hanfodol.
- Mae ein disgyblion yn unigolion iach a hyderus sy’n mwynhau dysgu yn yr awyr agored.
- Maent yn ddysgwyr galluog, uchelgeisiol sydd wedi tanio’r eisiau i ddysgu am eu hamgylchedd ac eisiau bod yn greadigol yn yr awyr agored, gan ddysgu trwy brofiadau a gweithgareddau ymarferol.
- Mae’r plant yn gyfranwyr creadigol a mentrus sy’n dymuno cymryd rhan yn eu cymuned trwy warchod yr amgylchedd naturiol o’n cwmpas.
Mae’r pedwar diben yn weledigaeth a rennir ar gyfer pob plentyn yn ein hysgol, ac mae’r gweithgareddau hyn wedi bod o gymorth mawr i ni weithio tuag atynt.