Cyflawniadau LIFE
Dr Rhoswen Leonard yw Prif Gynghorydd Arbenigol Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer y Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar fawndiroedd.
Fel rhan o'i gyrfa hyd yn hyn, mae hi wedi gweithio ar ddau brosiect LIFE arloesol, yma mae'n egluro beth mae Rhaglen LIFE yr UE wedi galluogi'r prosiectau i'w gyflawni a beth yw'r cyfleoedd ar gyfer y dyfodol.
Rhaglen LIFE yw offeryn cyllido'r Undeb Ewropeaidd (UE) ar gyfer yr amgylchedd a gweithredu yn yr hinsawdd a grëwyd ym 1992. Hyd yma mae wedi ariannu dros 4,500 o brosiectau, gan gyfrannu dros £5biliwn at ddiogelu'r amgylchedd a gweithredu yn yr hinsawdd.
Gall prosiectau dderbyn hyd at 75% o gostau prosiect gyda’r nod o wella statws cadwraeth cynefinoedd neu rywogaethau â blaenoriaeth a restrir yng Nghyfarwyddebau Adar a Chynefinoedd yr UE a datblygu, gweithredu a rheoli rhwydwaith Natura 2000.
Yng Nghymru mae sawl prosiect LIFE ar waith ar hyn o bryd, maent yn cynnwys Prosiect Cyforgorsydd Cymru LIFE, Twyni Byw LIFE, Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru a Dee LIFE.
Rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i weithio ar ddau brosiect LIFE, prosiect LIFE Corsydd Môn a Llŷn a ddaeth i ben yn 2014, yn ogystal â phrosiect cyfredol Cyforgorsydd Cymru LIFE.
Gwaith ‘LIFE’ hyd yn hyn
Gadewais Brifysgol Aberystwyth yn 2008 gyda gradd mewn Gwyddoniaeth Amgylcheddol ac roeddwn yn ddigon ffodus i gael swydd ar brosiect LIFE Corsydd Môn a Llŷn, a dyna le cychwynnodd fy angerdd am weithio ar fawndiroedd.
Fe wnes fwynhau gweithio fel rhan o dîm rhyfeddol a brwdfrydig ar brosiect uchelgeisiol ac arbrofol.
Mae cynefinoedd ffen yn brin iawn ac yn dibynnu ar gydbwysedd rhwng dŵr a ffynhonnau calchfaen. Ond roedd y cynefinoedd hyn yng ngogledd Cymru wedi dioddef dros nifer o flynyddoedd.
Fel rhan o dîm y prosiect buom yn gweithio gyda pherchnogion tir a ffermwyr i adfer y cynefin trwy gael gwared â phrysgwydd. Yna wnaethom cyflwyno pori gyda gwartheg a merlod er mwyn rheoli tyfiant y prysgwydd a glaswellt.
Fe wnaethom hefyd reoli lefelau dŵr trwy ail-broffilio ffosydd draenio a grëwyd ar gyfer torri mawn yn y gorffennol. Gwnaethom adfer llwybrau cyflenwi dŵr daear i arafu cyfradd dŵr llifogydd mewn ardaloedd oedd dan risg Llifogydd. Ar yr un pryd fe wnaethon ni lanhau miliynau o litrau o ddŵr mewn cyrsiau dwr.
Daethpwyd â dros 200 hectar o dir i reolaeth gadwraeth a gwellwyd mynediad i’r cyhoedd hefyd. Sawl blwyddyn yn ddiweddarach ac mae'r gwaith yn golygu fod planhigion wedi’u canfod nad ydyn nhw wedi'u gweld yno ers dros 120 o flynyddoedd.
Prosiect LIFE Corsydd Môn a Llŷn oedd y prosiect adfer gwlyptir mwyaf yng Nghymru ar y pryd. Fe wnaeth adfer 750 hectar o'r cynefin ffen alcalïaidd a chalchaidd prin iawn hwn yn llwyddiannus.
Caru corsydd
Yn 2013, penderfynais ddychwelyd i astudio a dechreuais PhD mewn ‘Ecohydrology Peatland’ ym Mhrifysgol Birmingham. Ar gyfer fy PhD, bûm yn gweithio ar fawndiroedd yn Canada ac roeddwn yn ffodus i gael profiad o wyddoniaeth a gwaith adferiad arbrofol ar raddfa enfawr yng Nghanada.
Fe wnes i gydbwyso cwblhau fy PhD efo ddechrau gwaith gyda Phrosiect Cyforgorsydd Cymru LIFE. Roedd y cyfle i weithio ar brosiect adfer mawndir arbenigol uchelgeisiol arall ar raddfa fawr, a hynny yn agos i adref, yn benderfyniad rhwydd.
Fel Swyddog Prosiect a Monitro efo prosiect Cyforgorsydd Cymru LIFE, un o fy mhrif safleoedd oedd Gwarchodfa Natur Genedlaethol (GNG) Cors Caron. Cors Caron yw un o'r cyforgorsydd mwyaf yn iseldiroedd Prydain - gyda mawn hyd at 10 metr o ddyfnder mewn mannau.
Mae cyforgorsydd yn un o gynefinoedd prinnaf a phwysicaf Cymru ac, oherwydd eu nodweddion a'u pwysigrwydd amgylcheddol, fe'u dynodir yn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA). Dim ond saith cyforgors yng Nghymru sydd wedi'u dynodi'n ACA, ac mae'r rhain yn cael eu hadfer fel rhan o brosiect Cyforgorsydd Cymru LIFE.
Mae'r saith safle wedi dioddef oherwydd draenio a thorri mawn yn y gorffennol ac mae hyn wedi achosi i blanhigion ymledol gymryd drosodd a sychu'r safleoedd. Bydd gwaith adfer yn canolbwyntio ar wella lefelau dŵr naturiol y mawndir, cael gwared ar rywogaethau goresgynnol a phrysgwydd a chyflwyno pori ysgafn.
Mae cyforgorsydd yn gartref i blanhigion a bywyd gwyllt prin, maen nhw'n storio carbon o'r atmosffer ac yn helpu yn y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd. Gallant storio dŵr i atal llifogydd a helpu i wella ansawdd dŵr trwy buro a hidlo dŵr. Maent hefyd yn lleoedd gwych i bobl ymweld a mwynhau natur ar ei gorau.
Uchafbwynt ac isafbwynt LIFE
Fy uchafbwynt o weithio ar brosiect LIFE Corsydd Môn a Llŷn, yw dychwelyd i weld y safle 10 mlynedd ar ôl ei adfer a'i weld yn llawn rhywogaethau prin a phwysig.
Gyda phrosiect Cyforgorsydd Cymru LIFE mwynheais ochr ymgysylltu'r rôl yn fawr. Nid yw gwerth mawndiroedd yn cael eu gwerthfawrogi ac mae gen i angerdd gwirioneddol am gynyddu ymwybyddiaeth o hyn gyda’r cyhoedd ac ymwelwyr i’r safleoedd.
Roedd gweithio gyda chymuned Tregaron a Ceredigion i egluro rhyfeddodau GNG Cors Caron a'n safleoedd eraill yn heriol ond yn werth chweil. Mae gweld y syndod ar wynebau pobl pan rydyn ni'n arddangos dyfnder mawn, neu i wrando ar atgofion pobl o’r gors yn anhygoel.
Isafbwynt y prosiect oedd y straen pan fyddai peiriannau'n mynd yn sownd! Mae hyn yn anochel ar brosiect adfer mawndir, ac nid oeddwn yn medru gorffwys nes bod y peiriannau'n ddiogel eto.
Dyfodol mawndiroedd Cymru
Dylai cyforgorsydd, gorgorsydd a ffeniau fod yn rhai o'r tirweddau mwyaf bioamrywiol yn y DU. Ond mae diffyg rheolaeth, gorbori, llosgi, draenio a thorri mawn yn golygu bod 80% o fawndir ar hyn o bryd mewn cyflwr gwael. Mae mwy o wybodaeth ar wefan IUCN Peatland.
Mawndiroedd yw ein storfa garbon fwyaf ac felly mae gwella a chreu mawndiroedd iach yn hanfodol yn y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd.
Wrth symud ymlaen, rwy'n credu y gallwn ddisgwyl gweld llawer mwy o adfer mawndir yng Nghymru. Mae yna ymrwymiad Gweinidogol clir i “ddod â phob math o fawn sy'n cynnal cynefin lled-naturiol o dan reolaeth gynaliadwy.”
Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, mae Llywodraeth Cymru yn ariannu Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i ddatblygu a chyflawni Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar adfer mawndiroedd yn 2020-2021. Bydd hyn yn rhoi hwb i adfer y cynefinoedd pwysig hyn ar raddfa genedlaethol.
Hyd yn hyn, mae Rhaglen LIFE yr UE wedi chwarae rhan sylweddol wrth weithredu prosiectau amgylcheddol mawr yma yng Nghymru ac mewn mannau eraill yn y DU. Dechreuodd y rhaglen LIFE bresennol yn 2014 ac mae'n para tan 2020, gyda chyllideb o dros £3biliwn.
Ym mis Mehefin 2018 cyhoeddwyd y bydd y gyllideb ar gyfer y rhaglen LIFE newydd sy'n cwmpasu'r cyfnod 2021-2027 yn cael ei chodi i £4.79biliwn, mae hyn yn newyddion da i'r amgylchedd, bywyd gwyllt a phobl.
I ddarganfod mwy am brosiect Cyforgorsydd Cymru LIFE dilynwch y prosiect ar Facebook @CyforgorsyddCymruWelshRaisedBogs neu Twitter @Welshraisedbog