Gofod Glas: Archwilio ein cysylltiad â dŵr croyw yn nalgylch Conwy

Yn Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), rydyn ni'n gwybod pa mor bwysig yw dŵr croyw – nid yn unig i natur, ond i bobl hefyd. Dyna pam rydym yn falch o fod yn gweithio mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru a Dyffryn Dyfodol, gyda chefnogaeth gan Sefydliad Esmée Fairbairn, ar Gofod Glas Conwy. Prosiect unigryw a chreadigol yw hwn sy'n archwilio perthynas pobl â dŵr croyw yn ardal Dalgylch Conwy.

Holl ddiben Gofod Glas yw darganfod beth mae dŵr croyw yn ei olygu i'r cymunedau sy'n byw, sy’n gweithio ac sy’n ymweld â dalgylch afon Conwy. Drwy gydweithio, dysgu a rhannu syniadau, rydym yn darganfod ffyrdd newydd a chynaliadwy o fyw ochr yn ochr â’n hafonydd, ein llynnoedd a’n nentydd. Mae Gofod Glas yn ymwneud â chysylltiad, chwilfrydedd a chreadigrwydd – oherwydd mae gan bob diferyn o ddŵr ei stori.

Dechreuodd y prosiect ym mis Ebrill 2024 a bydd yn rhedeg tan fis Gorffennaf 2027, ond rydym yn gobeithio y bydd ei effaith yn para ymhell y tu hwnt i hynny. Dros y misoedd nesaf, bydd Gofod Glas yn parhau i wrando ar bobl leol, casglu syniadau, ac ymateb i anghenion cymunedau. Boed hynny drwy gynnal gweithdai, adrodd straeon, celf, neu sgyrsiau ger glan yr afon, mae Gofod Glas yn ymwneud â dod â phobl ynghyd i gysylltu â'u hamgylcheddau dŵr croyw a gofalu amdanynt.

Ac mae gennym newyddion cyffrous: os oes gennych chi syniad sy'n archwilio ein perthynas â dŵr croyw – boed hynny'n afonydd, llynnoedd neu nentydd – mae Gofod Glas yn cynnig £250 a chefnogaeth i helpu i'w wireddu! Mae hwn yn gyfle ardderchog i wireddu eich syniadau creadigol a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn nalgylch Conwy. Gallwch ddysgu mwy yma

Drwy ein cyfranogiad yn Gofod Glas, bydd CNC yn gwrando ac yn rhannu ein safbwyntiau – gan gynnwys ein gwaith amrywiol gyda dŵr croyw – a bydd yn archwilio sut y gall dulliau creadigol ysbrydoli cymunedau i weithredu dros newid gwirioneddol a pharhaol. Rydym yn cael sgyrsiau pwysig gyda'n partneriaid a'r gymuned ehangach i sicrhau bod Gofod Glas yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.

Mae dyfroedd croyw glân ac iach yn hanfodol i fywyd gwyllt, ar gyfer hamdden, ar gyfer bywoliaeth, ac i'n lles – a thrwy gydweithio, gallwn helpu i'w diogelu am genedlaethau i ddod.

Mwy o wybodaeth ar wefan Gofod Glas.

--

Llun: Gofod Glas

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru