Gwaith ffensio i ddiogelu a gwella’r cynefinoedd pwysig yng Nghynffig

Mae Laura Bowen, Swyddog Prosiect a Monitro De Twyni Byw, yn ymuno â ni i daflu goleuni ar y gwaith ffensio sydd ar y gweill fel rhan o nod y prosiect i warchod a gwella’r bywyd gwyllt sydd yn galw Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cynffig yn gartref.

Beth sy’n cael ei gynnig?

Mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Corfforaeth Cynffig, mae tîm prosiect Twyni Byw Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn cynnig codi ffens newydd 5km o hyd ar gyfer da byw yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Cynffig er mwyn caniatáu i 200 hectar yn ychwanegol o laswelltir y twyni gael eu pori mewn ffordd gynaliadwy er lles bywyd gwyllt prin.

Pam mae angen y gwaith hwn?

Mae Cynffig wedi’i ddynodi’n Warchodfa Natur Genedlaethol, yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac yn Ardal Cadwraeth Arbennig oherwydd y cynefinoedd a’r rhywogaethau twyni tywod y mae’n eu cefnogi, sy’n brin ac o dan fygythiad.

Mae’r safle’n un pwysig i raddau helaeth oherwydd y cynefinoedd o blanhigion nodweddiadol glaswelltir y twyni a llaciau’r twyni sydd yno, sy’n dirywio o ran eu hansawdd. Mae pori’n helpu i arafu a stopio’r colledion – a fyddai fel arall yn anochel – i’r cynefinoedd hyn sydd o bwys rhyngwladol a’u rhywogaethau prin cysylltiedig.

Mae hefyd yn helpu i reoli gweiriau bras, rhedyn ungoes a phrysgwydd, ac mae anifeiliaid pori hefyd yn gallu creu llecynnau bychain o dir noeth, sy’n hanfodol i’r fflora a’r ffawna arbenigol sydd i’w cael ar y twyni.

Ar hyn o bryd, mae rhan ogleddol y safle’n cael ei phori ac mae hyn wedi bod yn ddull llwyddiannus o ran gwella ansawdd y cynefin, a hynny wedi arwain at fwy o blanhigion blodeuol.

Bydd y ffens newydd yn caniatáu i wartheg bori ar draws ardal fwy nag y mae modd iddynt ar hyn o bryd (206 hectar yn ychwanegol yn rhan ddeheuol y safle). Bydd hyn yn gwella ansawdd cynefinoedd y twyni ac yn helpu i’w diogelu a’u gwella at y tymor hir.

Sut fydd y ffens yn edrych?

Bydd y ffens yn cael ei hadeiladu o byst pren o ffynhonnell gynaliadwy, weiren wedi’i thynhau a netin defaid. Ni fydd weiren bigog yn cael ei defnyddio. Bydd llinell y ffens yn rhedeg o gyfeirnod grid SS806822 ar ffin ogledd-ddwyreiniol Gwarchodfa Cynffig hyd at SS789802 (ger yr arfordir).

Sut byddwn ni’n sicrhau mynediad? 

Bydd digon o gatiau a chamfeydd yn y ffens i alluogi pobl i fynd at y twyni ac i gerdded yn rhydd o amgylch y tir comin.

Mae gatiau wedi’u rhoi ar hyd y llwybrau a ddefnyddir gan bobl – ar Hawliau Tramwy ac ar lwybrau anffurfiol. Ar y llwybr ceffyl, bydd gatiau sy’n hygyrch i geffylau a beiciau’n cael eu defnyddio. Ar lwybrau llai, bydd camfeydd yn cael eu gosod. Mae Twyni Byw wedi gweithio gyda Thîm Hawliau Tramwy Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i sicrhau bod math a lleoliad y gatiau o’r safon ofynnol.

Bydd nifer o ardaloedd y tu allan i’r ffens, a fydd yn rhoi cyfle i bobl gerdded mewn mannau na all y gwartheg fynd atynt.

Pa ganiatâd mae ei angen?

Am fod twyni Cynffig yn Dir Comin Cofrestredig, rhaid cael cydsyniad ar gyfer Tir Comin cyn y gall gwaith gael ei wneud. Mae’r broses hon eisoes yn mynd rhagddi. Mae ceisiadau hefyd yn cael eu gwneud am gydsyniad ar gyfer Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig a thrwydded rhywogaethau a warchodir. Mae caniatâd hefyd yn cael ei geisio gan y Cyngor i ffensio ar draws yr Hawliau Tramwy a chodi gatiau.

Sut fydd y pori’n cael ei reoli?

Bydd y lefelau stoc yn cael eu rheoli a’u rheoleiddio’n ofalus o dan gynllun rheoli cadwraeth i sicrhau bod y safle’n cael ei bori yn unol â hynny. Bydd gwaith monitro ar y da byw yn cael ei gynnal yn rheolaidd gan y porwr, sydd â nifer o flynyddoedd o brofiad yng Nghynffig. Bydd poblogaethau o degeirianau prin a rhywogaethau eraill llaciau’r twyni yn cael eu monitro er mwyn asesu effaith pori dros amser. Bydd tîm Twyni Byw a Chyfoeth Naturiol Cymru yn rhoi gwybod i bobl pan fydd y canlyniadau ar gael.

Rhannwch eich barn chi

Os hoffech rannu eich barn am y ffens arfaethedig, neu os hoffech ragor o wybodaeth, anfonwch e-bost at SoLIFE@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru