Cyfleoedd newydd cyffrous i ymuno â #ThîmCyfoeth yn ein Gwasanaeth Cymorth Rheoli Contract
Rydym wrthi’n cyflogi! Mae gennym gyfle hynod gyffrous i bobl ymuno â’n Gwasanaeth Cymorth Rheoli Contractau newydd sbon, sydd wedi ei sefydlu i ddarparu cyngor arbenigol a chefnogaeth a chymorth uniongyrchol i’n rheolwyr contractau ym mhob rhan o CNC.
Beth am ymuno â’n Gwasanaeth Cymorth Rheoli Contractau?
Fel sefydliad, rydym yn delio ag ystod amrywiol o gontractau rhanddeiliaid a chontractau masnachol yn ddyddiol gan gwsmeriaid, cyflenwyr, a phartneriaid cyflenwi.
O gontractau caffael a chytundebau fframwaith ar gyfer gweithgareddau megis rheoli perygl llifogydd, adfer tir a physgodfeydd, i'n contractau ynni a gwerthu pren, rydym yn gysylltiedig ag ystod eang o weithgareddau sy'n helpu i wasanaethu a diogelu'r amgylchedd a phobl ledled Cymru.
Rydym yn bwriadu sefydlu Gwasanaeth Cymorth Rheoli Contractau a fydd yn helpu i wella'r ffordd yr ydym yn rheoli contractau, sy'n cynnig cysondeb ac yn rhoi gwell arweiniad a chefnogaeth i staff, gan ddatblygu CNC yn sefydliad rhagorol a fydd yn ein helpu i gyflawni gwerth o fewn ein cytundebau, ac yn ein helpu i gyflawni ein dyletswydd gyhoeddus o reoli ein hadnoddau naturiol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Yma, mae Dawn Beech, un o’n Huwch Gynghorwyr ar Fwrdd Gwarchod Afon Dyfrdwy, yn sôn mwy am ei phrofiad fel rheolwr contractau:
Fi yw’r Uwch Gynghorydd ar Fwrdd Gwarchod Afon Dyfrdwy ar gyfer CNC yn ein rôl fel yr Harbwr Statudol a’r Awdurdod Goleudy Lleol ar gyfer Aber Afon Dyfrdwy, sydd yn y bôn yn golygu ein bod ni’n rheoli mordwyaeth ddiogel yn Aber Afon Hafren.
Dydyn ni ddim yn meddu ar y sgiliau i gyflawni’r cyfrifoldebau morol hyn yn fewnol, felly mae gennym ni gontractau gyda chyflenwyr allanol ar gyfer gwasanaethau Harbwr Feistri a gwasanaethau Peirianneg Forol. Fi yw’r rheolwr contractau ar gyfer y ddau gontract.
Mae’r gwasanaethau hyn sy’n cael eu darparu gan gyflenwyr allanol yn hanfodol i’n gallu ni i gydymffurfio â gofynion y codau ymarfer morol a deddfwriaeth sy’n ymwneud â rheoli porthladdoedd. Mae ein Harbwr Feistr a’n Peiriannydd Morol hefyd yn darparu cysylltiadau hanfodol rhwng CNC a’i bartneriaid morol. Mae hyn yn sicrhau ein bod ni’n gweithredu’n effeithiol ac yn effeithlon, a’n bod ni’n cydweithio â phartneriaid allweddol ar waith cynllunio ac ymateb i ddigwyddiadau ac argyfyngau o fewn Aber Afon Hafren.
Beth fydd y tîm yn ei wneud?
Byddwch yn gyfrifol am ddarparu cymorth parhaus i'n rheolwyr contract sy'n ymwneud ag amrywiaeth o fathau o gontractau, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i’r canlynol:
- Contractau caffael a chytundebau fframwaith
- Grantiau a phartneriaethau
- Gwerthiannau pren
- Ynni a chontractau
- Prydlesi a chytundebau rheoli
Mae cyflawni'r gwaith a wneir drwy ein contractau yn llwyddiannus yn greiddiol i bopeth a wneir gan CNC ac rydym yn chwilio am bobl sydd â sgiliau cyfathrebu rhagorol, sgiliau a phrofiad o reoli contractau a all helpu i yrru'r gwaith hanfodol hwn yn ei flaen.
Pa swyddi sydd ar gael?
Isod ceir rhestr o'r rolau sydd ar gael ar hyn o bryd ac y gallwch wneud cais amdanynt. Byddwn yn diweddaru'r rhain wrth i swyddi newydd ddod ar gael felly cofiwch ddod yn ôl i chwilio a chadw llygad ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol am ddiweddariadau newydd.
Rydym yn croesawu ceisiadau am sawl swydd (un ffurflen gais ar gyfer pob swydd). Os oes gennych ddiddordeb, trafodwch â’ch cyflogwr a chysylltwch â CNC cyn gynted ag y bo modd.
Uwch-gynghorydd, Llywodraethu a Chydymffurfiaeth, Gwasanaeth Cymorth Rheoli Contractau
Fel yr Uwch-gynghorydd, Llywodraethu a Chydymffurfio, byddwch yn adrodd yn uniongyrchol i'r rheolwr CMSS a byddwch yn gyfrifol am sicrhau bod canllawiau, polisïau, offerynnau a thempledi rheoli contractau'n bodloni gofynion deddfwriaethol perthnasol, gan alinio ein prosesau â safonau ac arfer da cydnabyddedig. Drwy ddehongli dogfennau hynod gymhleth a manwl, bydd disgwyl i chi ddefnyddio dull yn seiliedig ar risg wrth gefnogi'r busnes a chwarae rôl allweddol yng ngweithrediaeth a rheolaeth barhaus prosesau newydd i'r tîm ac ar draws y sefydliad ehangach.
Uwch-gynghorydd, Gwasanaeth Cymorth Rheoli Contractau x 3
Fel uwch-gynghorydd, byddwch yn darparu cyngor a chymorth proffesiynol i reolwyr a chydweithwyr gweithredol ynghylch gofynion risg ar lefel ganolig i uchel ar draws ystod eang o fathau o gontractau, gan gynnwys ond nid yn gyfyngedig i gaffael, consesiynau, gwerthiannau pren a chontractau ynni, yn ogystal â grantiau, prydlesi a threfniadau rheoli.
Byddwch yn cefnogi staff ar gamau allweddol o gylchred bywyd rheoli contractau, gan gyfrannu at gwmpasu'r gofyniad, diffinio a chytuno ar fesurau perfformiad y contract, trefniadau ysgogi a chyflawni’r contract, ymgysylltiad â rhanddeiliaid, datblygiad partneriaid cyflenwi a chyflawni, rheoli risg/newid, a chynllunio ar gyfer gadael/pontio.