Gwelliannau Ecolegol i Strwythurau Arfordirol
Mae newid hinsawdd yn cael effaith sylweddol ar arfordir a chymunedau Cymru. Mae’n mynd yn fwy pwysig byth i amddiffyn cymunedau rhag effeithiau cynnydd yn lefel y môr a llifogydd, ac i gynnal amwynderau i bobl eu mwynhau. Rhaid hefyd gyfyngu ar effeithiau colled bioamrywiaeth yn sgil gwasgfa arfordirol a ffactorau eraill. Dros y 5 mlynedd diwethaf, mae datrysiadau seiliedig ar natur wedi dod yn ffordd bwysig o fynd i’r afael â’r problemau hyn.
Er mwyn cefnogi’r anghenion hyn, fe wnaethom gomisiynu Arup i lunio adroddiad canllaw a phecyn cymorth hyfforddiant i randdeiliaid a staff sy’n amlinellu sut i wneud newidiadau i strwythurau arfordirol i wella bioamrywiaeth o amgylch ein harfordir. Dyma’r canllaw cyntaf o’i fath ar gyfer gwelliannau ecolegol i strwythurau arfordirol a bydd yn cynnig mewnwelediadau ymarferol a gwerthfawr i ymarferwyr.
Bu’r tîm amlddisgyblaethol yn gweithio gyda staff CNC, Llywodraeth Cymru, Dŵr Cymru, amryw Awdurdodau Lleol, Asiantaeth yr Amgylchedd, Network Rail a rhanddeiliaid eraill i lunio’r canllaw gam-wrth-gam ar gyfer ymarferwyr yn y maes.
Mae’r canllaw’n dangos beth yw gwelliannau ecolegol, a’r sylfaen dystiolaeth hyd yma ynghylch eu defnydd. Mae’n mynd i’r afael â rhai o’r rhwystrau sydd ar hyn o bryd yn eu hatal rhag cael eu defnyddio, ac yn cynnwys prosesau mewn camau i gefnogi sefydliadau i roi’r gwelliannau ecolegol ar waith o fewn eu prosiectau, gan gynnwys ystyriaethau mewn perthynas â chaniatâd a thrwyddedu. Mae’n amlygu nifer o achosion achos ble mae’r nodweddion hyn wedi’u defnyddio hyd yma, gan gynnwys prosiect peilot teils Wal Fôr y Mwmbwls ac ym Mhenrhyn ble bydd nifer o byllau llanw yn cael eu gosod ar wahanol lefelau ar y blaendraeth.
Nod y canllaw yw codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd cynyddol gwelliannau ecolegol. Ac yn bwysig, helpu ymarferwyr, peirianwyr, rheoleiddwyr, rheolwyr asedau, a’r rhai eraill sy’n gwneud penderfyniadau i ddechrau defnyddio gwelliannau ecolegol yn ehangach.
Wrth i ni ddatblygu ein profiad o ran gweithredu, monitro a’r sylfaen dystiolaeth dros y blynyddoedd nesaf, bydd y canllaw yn cael ei ddatblygu i adlewyrchu hynny, fel y gall sefydliadau barhau i’w ddefnyddio fel y prif adnodd ar gyfer gwelliannau ecolegol ar hyd yr arfordir.