Parhau i ofalu am ein hamgylchedd er gwaethaf Covid 19
Tra byddwch allan yn eich ardal leol yn gwneud eich ymarfer corff dyddiol, mae’n debyg y byddwch yn dal i weld ein staff a'n cerbydau o amgylch y lle yn gwneud gwaith hanfodol yn ein hafonydd, yn ein coedwigoedd, ac ar ein gwarchodfeydd.
Fel pob sefydliad, mae llawer o'n timau wedi addasu i weithio gartref, ond mae rhai agweddau hanfodol ar ein gwaith sy’n gofyn inni fod allan yn y maes – wrth ymateb i achosion o lygru difrifol, rheoli’r gwaith o gwympo coed heintiedig, a chadw pobl yn ddiogel rhag llifogydd.
Dyma rai o’r aelodau tîm sydd allan o hyd yn gwarchod yr amgylchedd yn ystod y cyfnod ansicr a phryderus hwn.
Michael Cresswell, Arweinydd Tîm Gweithrediadau Coedwigaeth Canolbarth Cymru
"Mae fy nhîm i’n helpu i reoli a gofalu am rai o goedwigoedd Canolbarth Cymru ar ran Llywodraeth Cymru. Mae’r coronafeirws wedi effeithio ar bob un ohonom ni, ar lefel bersonol a phroffesiynol.
"Mae llawer o’r gwaith a wneir gan CNC yn darparu gwasanaeth hanfodol i bobl Cymru, a dyna pam y gallech weld rhai o’n timau allan yn gweithio o hyd.
"Mae ein coedwigoedd yn darparu pren ar gyfer ystod eang o gynnyrch pwysig gan gynnwys paledi pren, deunydd pecynnu a phapur sy’n helpu i gynnal y diwydiannau bwyd a gofal iechyd. Mae hefyd yn darparu sglodion pren a pheledi pren i gynhesu ysbytai, cartrefi gofal a chartrefi pobl.
"Mae iechyd a diogelwch y bobl sy’n byw yn ardal ein coedwigoedd, ynghyd â’n contractwyr a’n timau sy’n gwneud y gwaith, yn wirioneddol bwysig i ni.
"Rydyn ni’n cadw at weithdrefnau cadw pellter cymdeithasol ac yn teithio pan fydd hynny’n hanfodol yn unig. Rydyn ni’n golchi ein dwylo’n rheolaidd i ddiogelu ein hunain ac eraill, ac rydyn ni’n cadw mewn cysylltiad agos ag Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae pob un o’n safleoedd yn cael eu gwirio’n llym i sicrhau fod unrhyw waith yn digwydd yn ddiogel."
“Fel y rhan fwyaf o sefydliadau, mae ein ffordd o weithio wedi cael ei throi ben i waered yn llwyr dros y mis a mwy diwethaf. Rydyn ni wedi newid ein lleoliad gwaith arferol am lofftydd sbâr neu ystafelloedd bwyta ac mae byrddau coffi bellach yn gweithredu fel desgiau! Rydyn ni’n dal yma o hyd, serch hynny, ac yn gwneud ein gorau glas i addasu ein ffyrdd o weithio er mwyn gallu parhau i warchod yr amgylchedd hardd sydd gennym yma yng Nghymru.
Un o’r newidiadau mwyaf i fi yw gorfod dilyn mesurau gwarchod am fy mod i’n byw gyda rhywun a allai fod mewn perygl pe baen nhw’n dal Covid-19. Mae hyn yn golygu nad yw fy rôl i mewn ymateb i ddigwyddiadau yn ymwneud mwyach ag ymchwilio’n uniongyrchol i ddigwyddiadau, ond yn hytrach â chefnogi fy nghydweithwyr sydd allan ar lawr gwlad.
Ar ôl treulio’r pum mlynedd ddiwethaf ynghanol digwyddiadau llygredd, mae’n dipyn o newid, ond mae’n waith y mae angen ei wneud. Nid dim ond dibynnu ar eu gwybodaeth eu hunain y bydd y swyddogion a welwch chi ar lawr gwlad yn ymateb i ddigwyddiad. Bydd staff cynorthwyol hefyd yn helpu i ddarparu gwybodaeth werthfawr ynghylch safleoedd anghyfeillgar lle gallai llygru fod wedi digwydd. Maen nhw hefyd yn darparu gwybodaeth ar gyfer derbynyddion sensitif fel safleoedd dynodedig neu safleoedd tynnu dŵr yfed, gan sicrhau bod gan staff yr holl offer sydd eu hangen arnynt ar gyfer eu diogelwch ac er mwyn casglu tystiolaeth.
Dyw swyddogion sy’n mynychu digwyddiadau ddim yn teithio yno gyda’i gilydd mewn cerbydau mwyach, er mwyn cydymffurfio â chanllawiau cadw pellter cymdeithasol. Er nad yw hyn yn swnio fel fawr o newid, mae’n golygu nad yw swyddogion yn cael y cyfle i gael trafodaethau allweddol er mwyn cynllunio’u hymateb wrth iddynt yrru.
Mae llawer o’r digwyddiadau y byddwn ni’n ymdrin â nhw yn cynnwys sylweddau fel slyri a charthion, sy’n gallu cario pob math o firysau a allai achosi clefydau. Mae diheintio ein cerbydau a’n hoffer yn rheolaidd, yn ogystal â defnyddio dulliau ataliol fel gwisgo menig, a sicrhau nad ydyn ni’n gwneud dim sy’n peri ein bod yn lledu’r pethau hyn, wedi bod yn ail natur i ni erioed!
Er na fyddwch chi efallai’n gweld cynifer o’n swyddogion o gwmpas ag o’r blaen, rydyn ni’n gwneud ein gorau glas i ofalu am amgylchedd Cymru i sicrhau y bydd yn dal i fod yma i chi ei fwynhau pan fydd y cyfyngiadau’n dechrau cael eu llacio."
Mae PC Mathew Andrews ar secondiad gyda CNC o Dîm Troseddu Gwledig Heddlu Gwent
"Dwi wedi bod yn gweithio gyda fy nghydweithwyr yn Nhîm Troseddu Gwledig Heddlu Gwent i feddwl am ffyrdd newydd o gefnogi CNC yn ystod y cyfnod anarferol hwn.
"Mae'r tîm wedi bod yn defnyddio technoleg drôn i gynorthwyo gydag ymchwiliadau gwastraff, sydd wedi’n galluogi i gael gafael ar dystiolaeth ffotograffig gan gadw pellter cymdeithasol ar dir comin. Lansiodd swyddogion y ddyfais i fynd i'r afael ag adroddiadau am droseddu gwastraff posibl yn ne-ddwyrain Cymru.
"Mae'r ‘nenwyliwr’ yma’n casglu ffotograffau manylder uchel sy'n caniatáu i swyddogion gwastraff weld beth sy'n digwydd mewn lleoliadau anghysbell neu leoliadau lle byddai'n rhaid i swyddogion ddyblu eu nifer fel arfer i ymchwilio. O'r delweddau a gafwyd, mae swyddogion gwastraff a'r heddlu wedi gallu casglu tystiolaeth i gyd-fynd ag adroddiadau a chudd-wybodaeth.
"Rydyn ni hefyd wedi bod yn cynorthwyo CNC gyda phatrolau ar hyd glannau afonydd, ac wedi dal a rhoi gwybod am ddyn a oedd yn pysgota heb drwydded ar Afon Rhymni. Mae dyn arall yn cael ei erlyn o dan Atodlen un o'r ddeddf dwyn am bysgota ar ddyfroedd preifat. A archwiliwyd 10 o bysgotwyr llyswennod ifanc yn ddiweddar ar batrolau nos.
"Mae mapiau a mannau poblogaidd mewn Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) wedi'u cynhyrchu a'u dosbarthu i swyddogion yn ardaloedd Gwent a Heddlu De Cymru lle mae defnyddio beiciau mewn modd gwrthgymdeithasol yn broblem.
"Mae dronau yn dal i fod yn dechnoleg newydd i'r heddlu ac mae angen llawer o ystyriaeth a chynllunio o ran eu defnydd. Mae gallu eu defnyddio nhw i gasglu tystiolaeth ac ymateb i ddigwyddiadau sy'n datblygu wedi bod yn allweddol o ran helpu CNC i barhau â'i waith rheoleiddio a gorfodi yn ystod y cyfnod hwn."
Dros yr wythnosau diwethaf rydyn ni wedi gweld cynnydd yn nifer y digwyddiadau sy’n cael eu hadrodd i ni. Byddwn ni’n gwneud ein gorau glas i ymchwilio i unrhyw ddigwyddiadau a’u rheoli yn ystod yr amser heriol hwn.
I gael gwybodaeth am ba ddigwyddiadau y byddwn ni’n ymdrin â nhw, ewch i’n tudalen Rhoi Gwybod i Ni ar ein gwefan