Dathlu 10 mlynedd o Lwybr Arfordir Cymru
Yn CNC, rydym yn dathlu degawd o gydlynu un o’r llwybrau gorau yng Nghymru.
Am 10 mlynedd, mae tîm Llwybr Arfordir Cymru wedi gweithio’n agos gydag awdurdodau lleol arfordirol, Parciau Cenedlaethol Eryri ac Arfordir Sir Benfro, Llywodraeth Cymru a Croeso Cymru i ddatblygu, cynnal a hyrwyddo’r llwybr.
Yma, mae Eve Nicholson o dîm Llwybr Arfordir Cymru’n sôn mwy am y llwybr arbennig hwn.
Mae Llwybr Arfordir Cymru’n dathlu ei ddeng mlwyddiant eleni. Os nad ydych chi wedi ymweld eto, efallai mai 2022 fydd y flwyddyn y byddwch chi’n profi’r llwybr hwn sy’n hollol fythgofiadwy (yn ôl rhai!).
Beth yw Llwybr Arfordir Cymru?
Mae Llwybr Arfordir Cymru yn llwybr cerdded 870 milltir (1,400 km) o hyd. Mae'n un o’r ychydig o lwybrau yn y byd sy’n dilyn arfordir gwlad.
Mae'r llwybr yn cysylltu llawer o lwybrau arfordirol adnabyddus a hanesyddol fel Ynys Môn, Ceredigion a Sir Benfro.
Mae'r llwybr hefyd yn ymuno â Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa, sef llwybr 177 milltir o hyd ar hyd y ffin rhwng Cymru a Lloegr, sy'n golygu y gallwch gerdded o amgylch Cymru gyfan. Mae hynny'n 1,047 milltir (1,685 km)!
Beth allwch chi ei wneud ar y llwybr?
Nid yn unig y gallwch gerdded y llwybr cyfan, gallwch feicio rhywfaint ohono hefyd, oherwydd mae'r llwybr hefyd yn rhedeg ochr yn ochr â pheth o'r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol.
Mae rhannau o'r llwybr hefyd yn berffaith ar gyfer cadeiriau olwyn a bygis. Edrychwch ar ein Teithiau Cerdded Mynediad Hwylus ar wefan Llwybr Arfordir Cymru i weld lleoedd sy'n addas ar gyfer olwynion.
Un llwybr, llu o gyfleoedd
Er ei fod yn llwybr di-dor, rydym wedi'i rannu'n 8 rhanbarth gwahanol, pob un yn cynnig persbectif gwahanol o'r arfordir:
- Arfordir Gogledd Cymru ac Aber Afon Dyfrdwy
2. Ynys Môn
3. Arfordir Pen Llŷn ac Eryri
4. Ceredigion
5. Llwybr Arfordir Sir Benfro
6. Sir Gaerfyrddin
7. Gŵyr a Bae Abertawe
8. Arfordir De Cymru ac Aber Afon Hafren
Mae'r llwybr yn cynnig cymaint o gyfleoedd i archwilio llefydd yng Nghymru nad ydych efallai wedi sylweddoli eu bod ar garreg eich drws.
Pam y dylech ymweld
O olygfeydd arfordirol heb eu hail, i lwybrau trawiadol ar ben clogwyni, i forlin trefol prysur – mae amrywiaeth eang o dirweddau i chi eu mwynhau. Gall yr her o gerdded i fyny ac i lawr y clogwyni arfordirol eich gadael yn fyr eich gwynt ond yn gyfnewid am eich gwaith caled fe gewch rai o'r golygfeydd arfordirol gorau yn y DU.
Ar hyd y ffordd, byddwch yn dod ar draws llawer o bentrefi a threfi sy'n cynnig llu o gyfleoedd i ddysgu mwy am ddiwylliant a threftadaeth gyfoethog Cymru drwy dirwedd ac iaith. Mae stori i'w hadrodd ar bob tro.
Rydym i gyd yn gwybod fod bod allan yn yr awyr iach yn dda i'n lles corfforol a meddyliol. Mae'r llwybr yn ffordd wych o gael ymarfer corff, teimlo awel y môr ar eich gruddiau neu eistedd a gwrando ar y tonnau. O dro hamddenol i rywbeth mwy heriol, gall y llwybr gynnig profiad bythgofiadwy i chi.
Cynlluniwch eich ymweliad
Yn ein barn ni, y ffordd orau o ddathlu deng mlwyddiant y llwybr yw ymweld ag ef.
Mae llawer o bobl yn dechrau gyda’r rhan o’r llwybr sydd agosaf at eu cartref ac yn mynd yn chwilfrydig am beth arall sydd i’w weld.
Cymerwch eich cam cyntaf i ddarganfod un o ryfeddodau Cymru:
Cam 1: Edrychwch ar ein tudalen Cynllunio’ch ymweliad i weld adnoddau defnyddiol fel tablau pellter a map arfordirol rhyngweithiol sy’n gadael i chi gynllunio eich taith.
Cam 2: Edrychwch ar ein teithiau cerdded ysbrydoledig i weld ble y gallwch chi gerdded. Mae gennym deithiau cerdded byr thematig sy’n cymryd hyd at hanner diwrnod, a theithiau cerdded amlddydd sy’n berffaith ar gyfer penwythnos hir o gerdded.
Cam 3: Ewch allan i’r llwybr a mwynhewch ei arlwy amrywiol. Gallwch ymuno â’r llwybr lle bynnag y gwelwch arwyddbyst gyda’n logo “draig-gragen” melyn a glas.
Gobeithio y gwelwn ni chi ar y llwybr yn fuan!