Casglu abwyd – ymchwil i helpu ardaloedd morol gwarchodedig
Wrth i brosiect ddatblygu i ddeall pa effaith y gall gwahanol ddulliau o gasglu abwyd pysgota ei gael ar rwydwaith Ardaloedd Morol Gwarchodedig Cymru, mae Dewi Evans o CNC yn esbonio mwy:
Mae pysgota yn weithgaredd poblogaidd y mae llawer o bobl ledled Cymru yn ei fwynhau. Ac yn aml mae pysgota yn gofyn am abwyd.
Bydd rhai pysgotwyr yn prynu eu habwyd, tra bydd eraill yn casglu eu habwyd eu hunain.
Mae sawl ffordd wahanol o gasglu abwyd, e.e. cloddio am bryfed genwair neu fwydod, troi clogfeini (i ganfod crancod) a defnyddio teiars i ddal crancod. Yma mae gwrthrych fel teiar yn cael ei gladdu mewn tywod i ddenu crancod sy'n chwilio am gysgod, sy'n caniatáu iddynt gael eu casglu'n hawdd.
Ac fel rhan o'r prosiect Rhwydweithiau Natur hwn, rydym yn awyddus i ddeall a yw casglu abwyd yn Ardaloedd Morol Gwarchodedig Cymru yn effeithio ar y cynefinoedd yn y safleoedd hyn.
Mae llawer o gasglwyr abwyd cyfrifol eisoes yn cymryd camau i leihau’r difrod a achosir gan gasglu, er enghraifft ail-lenwi tyllau ar ôl cloddio am fwydod.
Ond mae angen i ni gael gwell dealltwriaeth i helpu i asesu a oes angen mesurau rheoli i helpu i ddiogelu rhai ardaloedd a dyna beth fydd y prosiect hwn yn ein helpu i'w wneud.
Un ardal lle mae gennym ddealltwriaeth o'r fath yw'r Gann, yn Ardal Cadwraeth Arbennig Forol Sir Benfro.
Mae'r Gann, cynefin gwaddod cymysg cysgodol prin, o werth ecolegol uchel. Mae tystiolaeth gwaith monitro wedi dangos bod cloddio dwys am abwyd yn y lleoliad hwn wedi arwain at ddirywiad cynefinoedd.
Gan fod casglu abwyd yn y Gann yn cael ei wneud yn bennaf drwy gloddio am fwydod ar lanw isel, mae pryderon y bydd y dirywiad yn iechyd y cynefin yn parhau os na chymerir camau i’w ddiogelu.
Un o agweddau'r prosiect hwn hefyd yw ystyried pa fesurau rheoli y gellid eu cymryd i atal dirywiad pellach yn y cynefinoedd.
Ariennir y prosiect hwn drwy Raglen Rhwydweithiau Natur Llywodraeth Cymru, i gryfhau gwydnwch safleoedd morol a thir gwarchodedig Cymru. Bydd y buddsoddiad hwn yn helpu i atal a gwyrdroi colli a’r dirywiad mewn cynefinoedd a rhywogaethau ac yn rhoi sylfaen gadarn i Gymru ar ei thaith tuag at adferiad natur.