Trwyddedu coredau ar gyfer cynlluniau ynni dŵr
Croniadau dŵr yw coredau ac maent yn rhwystro neu'n atal llif naturiol dŵr mewn afon neu nant ond maent yn angenrheidiol i reoli dŵr ar gyfer y rhan fwyaf o dyniadau dŵr ar gyfer cynlluniau ynni dŵr. Gall yr adeileddau hyn newid natur cwrs dŵr i fyny’r afon ac i lawr yr afon, gan ddatgysylltu hydoedd afonydd ac aflonyddu ar brosesau naturiol. Gallant hefyd newid morffoleg a chynefinoedd sianel ac amharu ar symudiad naturiol gwaddod ac organebau ar hyd ecosystem afon.
Mae'n annhebygol y byddwn yn trwyddedu cored newydd oni bai ei bod mewn nant neu afon sefydlog, bach a serth a bod modd ei lleoli a'i dylunio mewn modd sensitif i fod yn risg isel i amgylchedd yr afon.
Rheoliadau’r Amgylchedd Dŵr (Y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr)
Darn pwysig o gyfraith amgylcheddol sy'n llywodraethu sut rydym yn trwyddedu croniadau dŵr yw Rheoliadau’r Amgylchedd Dŵr. Mae Rheoliadau'r Amgylchedd Dŵr (Y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr) (Cymru a Lloegr) 2017 yn rhoi cyfrifoldeb statudol i ni weithredu mesurau i ddiogelu a gwella'r amgylchedd dŵr.
At ddibenion Rheoliadau’r Amgylchedd Dŵr, rhennir dyfroedd yn gyrff dŵr. Mae gan bob corff dŵr ddalgylch diffiniedig. Caiff amrywiaeth o elfennau biolegol ac anfiolegol eu samplu i benderfynu ar statws ecolegol cyfredol y corff dŵr. Gosodir amcanion ar gyfer pob corff dŵr, yn seiliedig ar y statws rydym yn ei ddisgwyl i'r elfennau ei gyflawni erbyn dyddiad penodol. Prif nod Rheoliadau’r Amgylchedd Dŵr yw cyflawni safonau amgylcheddol ar gyfer statws ecolegol da neu botensial am statws ecolegol da drwy atal dirywiad a gweithredu rhaglen o fesurau gwella dalgylchoedd.
Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i ni ddeall sut mae cynnig ynni dŵr yn effeithio ar amgylchedd yr afon ac ni ddylent ddyrannu trwyddedau ar gyfer cynlluniau oni bai ein bod yn gwybod na fyddant yn achosi dirywiad yn y statws ecolegol cyfredol neu atal corff dŵr rhag cyflawni amcanion corff dŵr yn y dyfodol. Wrth wneud hyn, mae'n rhaid i ni ystyried sut gall cynllun ynni dŵr effeithio ar ansawdd dŵr, llif afonydd, geomorffoleg ac ecoleg. Mae'n rhaid i ni hefyd ystyried nid yn unig effeithiau gan weithgareddau unigol, ond effeithiau cronnus ar y cyd â datblygiadau a gweithgareddau eraill.
Coredau cyfredol
Mae cynlluniau ynni dŵr a gynigir ar goredau cyfredol yn fwy tebygol o gael eu trwyddedu lle:
- mae angen y gored gyfredol ar gyfer defnydd trwyddedig a hanfodol cyfredol
- nid yw'r gored o fewn safle dynodedig ar gyfer cadwraeth natur nac yn effeithio ar safle o’r fath
- mae amcanion Rheoliadau’r Amgylchedd Dŵr yn cael eu cyflawni ac nid yw cyflawniad yn y dyfodol yn cael ei beryglu gan bresenoldeb y gored
- nid oes risg o ddirywiad i statws ecolegol cyrff dŵr oherwydd y gwaith arfaethedig
Rydym yn annhebygol o dderbyn cynigion ar gyfer cynlluniau ynni dŵr sy'n cynnwys codi uchder neu gynyddu ôl troed cored gyfredol neu sydd angen ailadeiladu hen gored yn sylweddol. Os nad oes gan gored gyfredol ddefnydd cyfredol, ac mae'n achosi neu'n cyfrannu at fethiant o ran cyflawni amcanion corff dŵr, yna efallai y byddwn yn ceisio ei diddymu neu ei addasu fel rhan o raglen adfer afonydd.
Coredau newydd
Rydym yn annhebygol o drwyddedu croniadau dŵr newydd ar gyfer cynlluniau ynni dŵr mewn afonydd a nentydd sy’n rhan o ddalgylch yn yr iseldir. Mae hydoedd afonydd yn yr ardaloedd hyn yn dueddol o fod yn fwy sensitif i newidiadau mewn llif a geomorffoleg ac maent yn bwysig o ran cynnal cysylltedd ecolegol â gweddill y system afon i fyny’r afon.
Rydym yn cydnabod y gall cyrsiau dŵr mwy serth yn yr ucheldir fod yn llai sensitif i newidiadau mewn llif ac, oherwydd eu lleoliad mewn dalgylchoedd blaendyfroedd bychain, gall y rhannau hyn fod yn llai sensitif o ran cysylltedd ecolegol oherwydd bod effeithiau cynlluniau ynni dŵr yn debygol o fod yn gyfyngedig o ran gofod. Gall coredau ynni dŵr newydd gael eu trwyddedu mewn nentydd sefydlog a serth yn yr ucheldir lle maent wedi'u lleoli a'u dylunio'n ofalus i leihau eu heffaith ar geomorffoleg ac ecoleg yr afon.
Mae ein hegwyddorion lleoli a dylunio wedi'u nodi yn, Lleoli cored mewnlif ar gyfer cynllun ynni dŵr, ac
darllen, Egwyddorion cynllunio ar gyfer adeileddau ynni dŵr.
Rydym hefyd yn annhebygol o ddyrannu trwyddedau ar gyfer croniadau dŵr newydd mewn safleoedd dynodedig a'u cynefinoedd cynhaliol.
Asesiadau Rheoliadau'r Amgylchedd Dŵr
Ar gyfer y rhan fwyaf o gynlluniau ynni dŵr risg isel ar raddfa fechan sydd wedi'u lleoli a'u dylunio yn unol â'n canllawiau a lle bo'r drefn tynnu dŵr arfaethedig yn gyson â'n dull parthau ar gyfer cyfraddau tynnu dŵr, rydym yn annhebygol o fod angen unrhyw wybodaeth arbennig i fodloni gofynion Rheoliadau’r Amgylchedd Dŵr. Dylem fod yn gallu asesu cydymffurfiaeth â'r rheoliadau yn y rhan fwyaf o achosion ar sail yr wybodaeth a ddarparwyd gyda chais, sy'n cynnwys data hydroleg sylfaenol, arolwg lluniau geomorffoleg, y lleoliad, a lluniadau peirianneg.
Rydym yn debygol o ofyn am wybodaeth ychwanegol i gefnogi cais am gynlluniau mwy a chymhleth, cynlluniau lle nad yw’r gwaith tynnu dŵr yn gyson â'n safonau llif parth, a lle nad yw adeileddau wedi'u lleoli a'u dylunio yn unol â'n canllawiau. Yn yr achosion hyn, efallai y byddwn yn gofyn am arolygon a dadansoddiadau ecolegol, geomorffegol a hydrolegol ychwanegol i'n helpu i ddeall a yw cynnig yn peri unrhyw risg i amcanion y corff dŵr. Byddwn yn eich cynghori am ba wybodaeth a gwaith dadansoddi bydd eu hangen.