Adrodd a dadansoddi hydrolegol ar gyfer cynlluniau ynni dŵr
Pam bod angen i mi ddarparu gwybodaeth hydrolegol?
Mae angen data hydrolegol arnom i weld faint o ddŵr sydd mewn dalgylch lle mae cynllun ynni dŵr arfaethedig a pha effaith fydd tynnu dŵr yn ei chael ar amgylchedd yr afon.
Pa wybodaeth ddylech chi ei darparu?
Os bydd eich cynllun yn tynnu dŵr yn unol â'n safonau llif ar gyfer Parthau 2 a 3, bydd angen i chi fel arfer ond darparu’r canlynol:
- map o derfyn y dalgylch gyda maint y dalgylch; ac
- amcangyfrifon llif afon ar ffurf ystadegau hyd llif tymor hir ar gyfer eich man tynnu dŵr.
Os yw eich cynllun ym Mharth 1 (yn effeithio ar safleoedd dynodedig ar gyfer cadwraeth natur, cynefin cynhaliol, rhywogaethau a warchodir neu ardaloedd silio eogiaid) neu eich bod yn cynnig trefn tynnu dŵr amgen (gan fod eich dalgylch â hydroleg gymhleth neu at ddibenion gwarchod yr amgylchedd, hamdden neu dirwedd penodol), yna ar gyfer y man tynnu dŵr ac unrhyw hydoedd arall o'r afon lle mae nodweddion sensitif i lif yn bresennol, bydd angen i chi ddarparu’r canlynol:
- map o derfyn y dalgylch gyda maint y dalgylch
- ystadegau hyd llif gweddilliol naturiol ac wedi'i ddylanwadu
- amcangyfrifon llif gweddilliol
- hydrograffiau cyfres amser blwyddyn gyfartalog a sych sy'n dangos llif gweddilliol naturiol ac wedi'i ddylanwadu
Mae'r rhain i ddangos sut bydd llifau'r afon yn cael eu haddasu mewn hydoedd lle mae nodweddion sensitif i lif yn bresennol. Rydym hefyd yn gofyn i chi ddarparu adroddiad amgylcheddol sy'n asesu sut y gallai newidiadau i lifau afon effeithio ar gynefinoedd a warchodir, nodweddion a mannau perthnasol eraill o fewn yr hyd sydd wedi'i ddisbyddu sydd yn sensitif i newidiadau i lifau a achosir gan eich tynnu dŵr arfaethedig at ddibenion ynni dŵr.
Ffynonellau data hydrolegol
Bydd y rhan fwyaf o safleoedd ynni dŵr posibl yn anfesuredig. Golygai hyn ei bod yn annhebygol y bydd unrhyw fesuriadau llif sy'n bodoli eisoes mewn hydoedd yr effeithir arnynt gan gynllun ynni dŵr arfaethedig.
Ar gyfer dalgylchoedd anfesuredig bach neu ddalgylchoedd anfesuredig mwy gyda hydroleg syml, byddwn yn derbyn ystadegau hyd llif amcangyfrifiedig a gynhyrchir gan feddalwedd sydd ar gael yn fasnachol.
Yr un a ddefnyddir yn fwyaf cyffredin yw pecyn Low Flows a ddarperir gan Wallingford HydroSolutions. Mae Wallingford HydroSolutions yn darparu gwasanaeth ar gyfer cwsmeriaid i ddarparu ystadegau hyd llif wedi'i fodelu ar gyfer pwyntiau o ddiddordeb anfesuredig.
Ar gyfer dalgylchoedd mesuredig mwy o faint a mwy cymhleth, rydym yn disgwyl i ddatblygwyr ddefnyddio data llif mesuredig mewn dadansoddiadau hydrolegol i ddarparu ystadegau hyd llif a hydrograffiau cyfres amser. Argymhellwn eich bod yn cael cyngor gan hydrolegydd profiadol i wneud hyn.
Lle mae dalgylch yn anfesuredig ond yn gymhleth o ganlyniad i ffactorau megis dylanwad tynnu dŵr i fyny'r afon, cronfeydd dŵr, draenio artiffisial neu ddaeareg, yna dylech gasglu mesuriadau llif penodol i'r safle i lywio dadansoddiad hydrolegol manwl. Argymhellwn eich bod yn cael cyngor gan hydrolegydd profiadol yn yr amgylchiadau hyn.