Gwneud cais i ganslo eich trwydded tynnu neu gronni dŵr

Sut mae canslo (dirymu) trwydded

Tynnu dŵr

Os nad ydych bellach yn tynnu dŵr ac eisiau dirymu eich trwydded tynnu dŵr,


Mae angen gwneud tyllau turio a ffynhonnau nad oes eu hangen bellach ar gyfer tynnu dŵr yn ddiogel, yn adeileddol ddiogel, a'u llenwi a'u selio i atal llygredd dŵr daear. Rydym yn argymell eich bod yn gofyn am gyngor gan gontractiwr arbenigol i benderfynu'r ffordd orau o ddatgomisiynu eich twll turio neu ffynnon.

Cronni dŵr

Os ydych eisiau dirymu eich trwydded cronni dŵr, mae'r math o gais sydd ei angen yn dibynnu ar p'un a yw'r adeiledd wedi'i adeiladu a ph'un a oes trwydded ar waith.

Os oes gennych drwydded cronni dŵr a'r adeiledd wedi'i adeiladu, cysylltwch â ni am gyngor pellach yn defnyddio ein gwasanaeth ymholi cyn gwneud cais.

Os oes gennych chi drwydded cronni dŵr ac nad yw'r adeiledd wedi'i adeiladu, gwnewch gais am amrywiad gweinyddol i ddirymu y drwydded.


Os nad oes trwydded ar waith ar gyfer adeiledd sy'n bodoli eisoes, mae hon yn broses dau gam. Yn gyntaf, mae angen i chi wneud cais am drwydded cronni dŵr newydd i symud yr adeiledd. Unwaith y bydd y drwydded honno wedi'i rhoi a'r adeiledd wedi'i symud, gallwch wneud cais am amrywiad gweinyddol i ddirymu'r drwydded.

Faint fydd yn ei gostio?

Mae'n rhad ac am ddim i ddirymu eich trwydded ac rydym yn anelu i wneud penderfyniad o fewn 20 diwrnod.

Mae ffi ymgeisio yn daladwy os oes angen i chi wneud cais am drwydded cronni dŵr i symud adeiledd cronni.

Diweddarwyd ddiwethaf