Datganiad rheoleiddio 118:

Mae’r datganiad rheoleiddio hwn yn ddilys tan 31 Ionawr 2027 a bydd yn cael ei adolygu ar yr adeg honno. Dylech wirio eto bryd hynny i sicrhau bod y datganiad rheoleiddio yn dal yn ddilys. 

Gall Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) dynnu'r datganiad rheoleiddio hwn yn ôl neu ei ddiwygio cyn y dyddiad adolygu os ydym yn ystyried bod angen gwneud hynny. Mae hyn yn cynnwys lle nad yw'r gweithgareddau y mae'r datganiad rheoleiddio hwn yn ymwneud â nhw wedi newid.

Y datganiad rheoleiddio

Mae'r datganiad rheoleiddio hwn yn caniatáu i gynhyrchwyr fabwysiadu'r ystyron diwygiedig sydd ar ddod o "ddeunydd cyfansawdd sy'n seiliedig ar ffibr" a "phapur neu fwrdd" a'u cymhwyso i'w rhwymedigaethau casglu ac adrodd ar gyfer 2025 cyn i'r gwelliannau sydd ar ddod i'r diffiniadau hyn yn Rheoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Pecynwaith a Gwastraff Pecynwaith) 2024 ('Rheoliadau 2024') ddod i rym. 
 
Nid yw'r datganiad rheoleiddio hwn yn newid eich rhwymedigaeth gyfreithiol i gasglu ac adrodd ar ddata deunydd cyfansawdd sy'n seiliedig ar ffibr a phecynwaith papur neu fwrdd yn unol â Rheoliadau 2024, ar gyfer cyfnodau adrodd 2025. Mae hyn o 1 Ionawr i 30 Mehefin 2025 ac 1 Gorffennaf i 31 Rhagfyr 2025 ar gyfer cynhyrchwyr mawr ac 1 Ionawr i 31 Rhagfyr 2025 ar gyfer cynhyrchwyr bach.

Ni fydd CNC yn cymryd camau gorfodi yn eich erbyn os byddwch yn casglu ac yn adrodd ar ddata deunydd cyfansawdd sy'n seiliedig ar ffibr a phecynwaith papur neu fwrdd ar gyfer cyfnodau adrodd 2025, yn seiliedig ar ystyron deunydd cyfansawdd sy'n seiliedig ar ffibr a phapur neu fwrdd sydd wedi'u cynnwys yn y gwelliannau sydd ar ddod i reoliadau 2024, fel a ganlyn: 

Mae deunydd cyfansawdd seiliedig ar ffibr yn golygu deunydd pecynnu sydd — 
(i) wedi'i wneud o fwrdd papur neu ffibrau papur, gydag un neu fwy o haenau o blastig, ac a all hefyd gynnwys haenau o ddeunyddiau eraill, i ffurfio un uned na ellir ei gwahanu â llaw; ac 
(ii) nad yw yn y categori pecynwaith papur neu fwrdd. 

Mae papur neu fwrdd yn cynnwys deunydd pecynnu sydd o fewn y disgrifiad yn is-baragraff (i) o'r diffiniad o ddeunydd cyfansawdd sy'n seiliedig ar ffibr, os gall y cynhyrchydd sy'n cyflenwi'r deunydd pecynnu ddarparu tystiolaeth nad yw ei haen neu haenau o blastig yn fwy na 5% o'r deunydd pecynnu yn ôl màs.

Amodau y mae'n rhaid i chi gydymffurfio â nhw

Nid yw'r datganiad rheoleiddio hwn yn berthnasol i unrhyw rwymedigaethau casglu neu adrodd data eraill o dan Reoliadau 2024 a rhaid i chi sicrhau eich bod yn cydymffurfio'n llawn â'r holl ofynion eraill.

Gorfodi

Nid yw'r datganiad rheoleiddio hwn yn newid nac yn dileu unrhyw un o'ch rhwymedigaethau cyfreithiol o dan Reoliadau 2024.

Fodd bynnag, ni fydd CNC fel arfer yn cymryd camau gorfodi os na fyddwch yn cydymffurfio â'r gofynion cyfreithiol penodol a nodir yn y datganiad rheoleiddio hwn. 

Cyswllt

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y datganiad rheoleiddio hwn, anfonwch e-bost at packaging@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Diweddarwyd ddiwethaf