Ar gyfer y cyfnod o 1af Ebrill 2026 rydym wedi cadw ein ffioedd rheoleiddiol ar y lefelau presennol cyn belled ag y bo modd. Roedd angen yr addasiadau canlynol i reoli pwysau chwyddiant a mynd i'r afael â diffygion mewn cyfundrefnau penodol.

Ffioedd trwyddedu (cais)

Cynnydd o 3% yn y meysydd trwyddedu canlynol yn unol â chwyddiant a phwysau eraill o ran costau:

  • Adnoddau Dŵr (Tynnu a Chronni)
  • Gosodiadau Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (EPR) (gan gynnwys Cyfarwyddeb Gweithfeydd Hylosgi Canolig (MCPD))
  • Gwastraff EPR
  • Ansawdd Dŵr EPR (hefyd yn cynnwys ffioedd Deddf y Diwydiant Dŵr)
  • Anniwclear EPR
  • Trwyddedu Rhywogaethau
  • Diogelwch Cronfeydd Dŵr.

Ffioedd Cynhaliaeth Blynyddol (gweithgaredd cydymffurfio)

Cynnydd o 3% yn y meysydd canlynol yn unol â chwyddiant a phwysau eraill o ran costau:

  • Gosodiadau EPR (gan gynnwys MCPD)
  • Ansawdd Dŵr EPR
  • Llwythi Gwastraff Rhyngwladol EPR
  • Diogelwch Cronfeydd Dŵr
  • Trwyddedau Gweithgarwch Perygl Llifogydd (FRAPs).

Cynnydd uwchlaw chwyddiant yn y meysydd canlynol, yn unol â chwyddiant ac i reoli diffygion parhaus mewn cyllid:

  • Taliadau Uned Safonol Adnoddau Dŵr - Rydym yn bwriadu cynyddu'r Tâl Uned Safonol gan 7% i reoli'r diffyg yn y maes hwn.
  • Gwastraff EPR - Rydym yn cynnig cynnydd o 8.5% ar gyfer 2026-27 i reoli'r diffyg yn y maes hwn.
  • EPR – Anniwclear – Rydym yn cynnig cynnydd o 8.5% i reoli'r diffyg yn y maes hwn.
  • EPR - Cyfleusterau Ailgylchu Deunyddiau - Rydym yn cynnig cynnydd o 8.5% ar gyfer 2026-27 i reoli'r diffyg yn y maes hwn.
  • EPR - Cludwyr, Broceriaid a Delwyr Gwastraff - Rydym yn cynnig cynnydd o 8.5% ar gyfer 2026-27 i reoli'r diffyg yn y maes hwn.

Incwm Rheoleiddiol Rhagamcanol ar gyfer 2026-27

Mae'r tabl canlynol yn dangos yr incwm rhagamcanol y bydd CNC yn ei godi dros y flwyddyn ariannol nesaf i dalu am weithgareddau rheoleiddio:

Cyfundrefn Ceisiadau (£) Cynhaliaeth (£) Cyfunol (£) Cyfanswm
Adnoddau Dŵr 251,546 25,207,190 0 25,458,736
Ansawdd Dŵr 828,585 8,195,000 0 9,023,858
Gosodiadau (gan gynnwys y Gyfarwyddeb Cyfarpar Hylosgi Canolig) 677,000 3,700,000 0 4,377,000
Gwastraff 432,000 2,100,000 0 2,532,000
Cludwyr, Broceriaid a Delwyr Gwastraff 0 0 350,000 350,000
Cynllun Masnachu Allyriadau'r Deyrnas Unedig 0 0 441,000 441,000
Trwyddedu Rhywogaethau 285,000 0 0 285,000
Trwydded Gwialen 1,135,068 0 0 1,135,068
Cydymffurfiaeth ym maes cronfeydd dŵr 1,207 69,000 0 70,207
Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr 0 0 472,390 472,390
Niwclear 0 818.348 0 818,348
Anniwclear 38,746 150,000 0 188,746
Cyfleusterau Adfer Deunyddiau 0 65,000 0 65,000
Trwyddedu Morol 300,000 0 0 300,000
Llwythi Gwastraff Rhyngwladol 0 0 270,000 270,000
Gwastraff Peryglus 0 0 900,000 900,000
Trwyddedau Gweithgarwch Perygl Llifogydd (FRAPs) 0 0 77,250 77,250
Cais cyn-ymgeisio dewisol 115,000 0 0 115,000
Trwydded bysgota cocos 108,907 0 0 108,907
Rheoli Peryglon Damweiniau Mawr (COMAH) 0 0 160,000 160,000
Cyfanswm 4,173,332 40,304,538 2,670,750 47,148,620

 

Mae ffioedd rheoleiddio yn talu am weithgareddau trwyddedu a chynhaliaeth blynyddol (cydymffurfiaeth) y mae CNC yn cyflawni.

Darllenwch am rai o'r gweithgareddau y mae ein staff yn eu cyflawni.

Rydym yn defnyddio canllawiau Llywodraeth Cymru 'Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru' (Pennod 6) wrth osod ffioedd i adennill ein costau.

Yn ogystal â thalu am gostau uniongyrchol fel staff a chontractau trydydd parti, mae ein ffioedd hefyd yn adennill elfen o wasanaethau cymorth sy’n:

  • cael eu hailasesu bob blwyddyn
  • amrywio rhwng cyfundrefnau codi ffi
  • cynrychioli cyfartaledd o 18% o gyfanswm y ffi, fel arfer.

Yn ogystal, bydd y ffi’n talu am ddarpariaeth dyledion drwg a chost cyfalaf (dibrisiant asedau).

 

Ffioedd Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol

Ffioedd Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol 2026-27 (Saesneg yn unig)

Mae cynllun codi tâl Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol yn ymdrin â’r gwahanol fathau o weithrediadau sydd angen trwydded neu ganiatâd o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol gan gynnwys:

Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth am ffioedd ar gyfer:

  • cludwyr, broceriaid a delwyr gwastraff
  • gweithrediadau gwastraff wedi’u heithrio
  • cyfrifoldeb cynhyrchwyr
  • cludo llwythi o wastraff yn rhyngwladol

Asesiad Risg Gweithredol (OPRA)

Defnyddiwch ein teclyn codi tâl cais newydd i gyfrifo'ch tâl am unrhyw fath o gais am drwydded osod.

Caniatâd o dan Adran 166 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991

Mae'r gwasanaeth hwn ar gyfer cwmnïau dŵr sydd angen gollwng dŵr wedi'i drin, neu ddŵr heb ei drin, i gwrs dŵr o bibell sy'n fwy na 229mm mewn diamedr.

Gwneud cais am ganiatâd o dan Ddeddf y Diwydiant Dŵr

Ffioedd tynnu dŵr

Pennir ffioedd ar gyfer trwyddedau tynnu dŵr a chronni dŵr i dalu ein costau wrth sicrhau bod adnoddau dŵr yn cael eu rheoli'n gynaliadwy.

Mae gwybodaeth am ffioedd tynnu dŵr ar gael ar ein tudalen Cynllun Taliadau Tynnu Dŵr. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am ein ffioedd ymgeisio am drwyddedau tynnu dŵr a chronni dŵr a manylion am sut mae cydrannau'r ffioedd blynyddol ar gyfer trwyddedau tynnu dŵr yn gweithio, gan gynnwys y Tâl Uned Safonol a Thaliadau Uned Gwella'r Amgylchedd. Mae rhagor o wybodaeth am drwyddedau tynnu dŵr a chronni dŵr ar gael ar y dudalen Trwyddedau Tynnu Dŵr A Chronni Dŵr.

Rheoli Peryglon Damweiniau Mawr (COMAH)

Mae ffioedd COMAH yn cwmpasu ein rôl reoleiddio fel rhan o'r awdurdod cymwys sydd â'r dasg o reoli peryglon damweiniau mawr. Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a'r Swyddfa Rheoleiddio Niwclear, sy’n ffurfio Awdurdod Cymwys COMAH Cymru. 

Rydym yn sicrhau bod deiliaid dyletswydd yn cymryd yr holl gamau angenrheidiol i atal damweiniau mawr a chyfyngu ar eu canlyniadau ar gyfer iechyd pobl a'r amgylchedd.

Rydym yn codi tâl i adennill costau cyflawni swyddogaethau Rheoliadau COMAH 2015, yn seiliedig ar ddull amser a deunyddiau. Rydym yn codi anfonebau o fewn 30 niwrnod o 31 Mawrth a 30 Medi bob blwyddyn. Ein cyfradd codi tâl bellach yw £202 fesul awr arolygydd oni nodir yn wahanol.

Nodir y ffioedd sy'n daladwy gan weithredwyr i’r awdurdod cymwys yn Rheoliad 28 o Reoliadau COMAH 2015. Golyga hyn y gall Awdurdod Cymwys COMAH godi tâl am gyflawni unrhyw swyddogaeth a nodir gan Reoliadau COMAH 2015 ac eithrio:

  1. unrhyw ymchwiliad troseddol neu erlyniad a gafwyd, yn y naill achos neu’r llall, o'r dyddiad y ceir unrhyw wŷs oddi wrth Lys Ynadon;
  2. swyddogaethau'r awdurdod cymwys sy'n gysylltiedig â pharatoi Cynlluniau Argyfwng Allanol dan Reoliad 13.

Ffioedd System Masnachu Allyriadau’r DU

Mae Cynllun Masnachu Allyriadau y DU wedi disodli cyfranogiad y DU yng Nghynllun Masnachu Allyriadau’r Undeb Ewropeaidd ers 1 Ionawr 2021.

Datblygodd Cyfoeth Naturiol Cymru gynllun codi tâl ar gyfer System Masnachu Allyriadau’r DU y buom yn ymgynghori arno yn gynnar yn 2021 ac a weithredwyd o 1 Gorffennaf 2021. Ceir rhagor o wybodaeth ar ein tudalen System Masnachu Allyriadau’r DU

Diogelwch Cronfeydd Dŵr

Nod Deddf Cronfeydd Dŵr 1975 yw amddiffyn pobl, eiddo a seilwaith trwy leihau'r perygl o lifogydd a achosir oherwydd methiant argaeau neu gronfeydd dŵr. Mae'n ddyletswydd arnom i sicrhau bod perchnogion a gweithredwyr cyforgronfeydd dŵr mawr yn eu rheoli’n briodol.

Rydym yn adennill cyfran o'n costau drwy ffioedd cofrestru cychwynnol, sy’n cynnwys cost pennu lefel risg y gellir ei briodoli i’r gronfa ddŵr. Mae cost y gwaith ychwanegol o fonitro cronfeydd risg uchel yn cael ei hadennill drwy daliadau blynyddol sy’n cael eu codi ar berchnogion neu weithredwyr cronfeydd dŵr. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalen Diogelwch cronfeydd dŵr.

Rheoleiddio Niwclear yng Nghymru

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn cynnal rhywfaint o waith rheoleiddio niwclear ar safleoedd yng Nghymru ar ran CNC. Mae'r ffioedd yn rhan o ffioedd a thaliadau CNC, ond mae cynllun ffioedd Asiantaeth yr Amgylchedd yn effeithio arnynt. Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn ymgynghori ar wahân ar ei ffioedd a'i thaliadau.

Taliadau am drwyddedau sylweddau ymbelydrol anniwclear

Trwyddedu Rhywogaethau (Newydd)

Rydym yn rheoli trwyddedu gweithgareddau a fyddai fel arall yn anghyfreithlon i'w cyflawni oherwydd eu heffaith debygol ar rywogaethau a warchodir gan Ewrop neu'r DU.

Mae trwyddedau ar gyfer Rhywogaethau a Warchodir gan Ewrop yn ymwneud yn bennaf â datblygiadau, ond rydym hefyd yn derbyn ceisiadau 'domestig' yn ymwneud â’r rhywogaethau hyn. Yn gyffredinol, mae’r rhain ar gyfer gwaredu ystlumod o anheddau am resymau iechyd, yn ogystal â gwaith ar raddfa fach, isel ei effaith ar eiddo domestig.

Rydym hefyd yn derbyn ceisiadau am weithgareddau mewn perthynas â phrosiectau gwyddonol, i helpu cadwraeth, ar gyfer gweithrediadau coedwigaeth, ac ar gyfer amaethyddiaeth. Mae nifer fach yn ymwneud â rheolaeth fiolegol neu ailgyflwyno rhywogaethau.

Rhoddir trwyddedau rhywogaethau gwarchodedig y DU yn bennaf ar gyfer gwaith cadwraeth, gan gynnwys gwaith addysgol, monitro ac arolygu. Mae nifer llai (trwyddedau moch daear yn bennaf) yn ymwneud â datblygiad. Mae rhai ceisiadau yn ymwneud ag iechyd a diogelwch mewn eiddo masnachol neu effaith amaethyddol ac mae nifer fach yn ymwneud â rheolaethau biolegol neu ailgyflwyno.

Ffioedd Trwyddedu Rhywogaethau​

Codi tâl am wybodaeth

Os hoffech wneud cais am wybodaeth, gallwch ddarganfod mwy am y wybodaeth yr ydym yn ei darparu am ddim a'r wybodaeth yr ydym yn codi tâl amdani.

Codi tâl am gyngor

Gallwn ddarparu cyngor sylfaenol neu wedi’i deilwra, a gallwn godi tâl am ein hamser i'w ddarparu.

Rydym yn darparu maint cyfyngedig o gyngor sylfaenol cyn ymgeisio i helpu cwsmeriaid i ddeall beth sydd angen iddynt ei wneud i gydymffurfio a sut i wneud cais am drwyddedau perthnasol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalen Cyngor cyn ymgeisio ar gyfer trwyddedau amgylcheddol neu dudalen y gwasanaeth cyngor cyn ymgeisio ar gyfer trwyddedau tynnu dŵr a chronni dŵr.

Mae cyngor pwrpasol manylach y codir tâl amdano ar gael ar gais drwy ein Gwasanaeth Cyngor Dewisol. Codir tâl am gyngor pwrpasol ar gyfradd o £125 yr awr ynghyd â TAW. 

Pysgodfeydd

Rhagor o wybodaeth am ein taliadau am y canlynol;

Taliadau electronig

Os ydych am dalu am eich trwydded neu am eich cais am drwydded trwy drosglwyddiad electronig, defnyddiwch yr wybodaeth isod i wneud eich taliad.

  • Enw'r cwmni: Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Cyfeiriad y cwmni: Adran Incwm, BLWCH SP 663, Caerdydd, CF24 0YD
  • Banc: RBS
  • Cyfeiriad: National Westminster Bank Plc, 2 ½ Devonshire Square, London, EC2M 4BA
  • Cod didoli:60-70-80
  • Rhif cyfrif: 10014438

Gall fod y manylion a roddwyd ar eich ffurflen gais am drwydded wedi newid ers i chi ei derbyn. Byddwn yn diweddaru ein ffurflenni cyn gynted â phosibl, ond defnyddiwch y wybodaeth isod wrth wneud taliadau electronig o hyn ymlaen.

Gwneud taliadau o'r tu allan i'r Deyrnas Unedig

Mae'r manylion hyn wedi newid. Os ydych yn gwneud eich taliad o'r tu allan i'r Deyrnas Unedig (rhaid inni ei dderbyn mewn sterling), ein rhif IBAN yw GB70 NWBK6070 8010 014438 a'n rhif SWIFT/BIC yw NWBKGB2L.

Anfon eich manylion talu / eich hysbysiad talu atom dros yr e-bost

E-bostiwch eich manylion talu a manylion y math o daliad (megis 'Amrywiad Gwastraff' neu 'Ansawdd Dŵr Newydd') i online@naturalresourceswales.gov.uk neu online@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Mae'n rhaid i chi gynnwys enw eich cwmni a rhif/cyfeirnod yr anfoneb. Os oes modd, dylech anfon hysbysiad talu hefyd. Bydd hyn yn sicrhau bod eich taliad yn cael ei brosesu’n gywir.

Dylech gynnwys y cyfeirnod talu BACS ar y ffurflen gais ei hun o hyd.

Os na fyddwch yn dyfynnu eich cyfeirnod talu, efallai y bydd oedi wrth brosesu eich taliad a’ch cais.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Diweddarwyd ddiwethaf