Canllawiau ar gyfer cynhyrchwyr deunydd pacio
Os oes gennych chi drosiant blynyddol o fwy na £2 miliwn a’ch bod yn trin mwy na 50 tunnell o ddeunydd pacio’r flwyddyn, bydd angen i chi fodloni rhwymedigaethau’r cynhyrchydd yn unol â’r rheoliadau deunydd pacio. Bydd gennych rwymedigaethau ailgylchu hefyd os mai chi yw perchennog y deunydd pacio fel rhan o’ch gwaith ac yn ei gyflenwi i rywun arall, neu os ydych chi’n mewnforio’r deunydd pacio.
Nodwch mai Asiantaeth yr Amgylchedd fydd yn parhau i reoli system gofrestru cynhyrchwyr deunydd pacio am y tro ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru. Cyfoeth Naturiol Cymru fydd yn gyfrifol am faterion cydymffurfio a gorfodi.
Sut i gofrestru fel cynhyrchydd deunydd pacio
Ymgofrestrwch yn gynhyrchwr deunydd pecynnu ar y Gronfa Wybodaeth Gwastraff Pecynnu Genedlaethol.
Ymuno â chynllun cydymffurfio cynhyrchwyr
Mae cynlluniau cydymffurfio deunydd pacio yn fusnesau sy’n ysgwyddo rhwymedigaethau cyfreithiol cynhyrchwyr deunydd pacio, ac sy’n gyfrifol am gael tystiolaeth o adfer ac ailgylchu.
Gallwch weld manylion cyswllt y cynlluniau cydymffurfio deunydd pacio ar wefan Gronfa Wybodaeth Gwastraff Pecynnu Genedlaethol.
Cyfrifoldeb Estynedig i Gynhyrchwyr o ran Pecynnau
Mae cyfrifoldeb cynhyrchwyr o ran pecynnau yn newid i gyflwyno ‘cyfrifoldeb estynedig.i gynhyrchwyr’.
Os yw’r cyfrifoldeb estynedig newydd o ran pecynnau yn effeithio arnoch chi, bydd angen i chi ddechrau casglu'r data cywir am becynnau yn 2023.
Mae rhagor o wybodaeth am y gofynion newydd a’r hyn y bydd angen i chi ei wneud ar gael yn paratoi ar gyfer cyfrifoldeb estynedig i gynhyrchwyr (Saesneg yn unig).