Gwneud cais i ddefnyddio tir yr ydym yn ei reoli

Ni allwn brosesu unrhyw gais i ddefnyddio tir yr ydym yn ei reoli yn ne-orllewin Cymru a dderbynnir rhwng 9 Ebrill a 1 Mehefin 2024.

Mae hyn oherwydd bod galw mawr ar y gwasanaeth.


Dewch yn ôl at y dudalen i weld diweddariadau.

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i wneud rhywbeth ar dir CNC, er enghraifft:

  • marchogaeth
  • ffilmio
  • cynnal digwyddiad
  • fforio 
  • arolygon
  • addysg
  • wneud gwaith ar y tir

Faint o amser mae’n ei gymryd

Byddwn yn dechrau prosesu ceisiadau ar ôl derbyn yr holl wybodaeth.

Trwydded marchogaeth ceffylau yn Niwbwrch - hyd at 10 diwrnod gwaith.

Ceisiadau ffilmio - o leiaf 3 wythnos.

Pob cais arall - hyd at 12 wythnos.

Cyn ymgeisio

Bydd angen i chi roi’r wybodaeth ganlynol i ni:

  • gwybodaeth am eich sefydliad
  • person cyswllt
  • gwybodaeth am yr hyn yr hoffech ei wneud (ar gyfer arolygon, bydd angen gwybodaeth am y rhywogaethau)
  • pa dir yr hoffech ei ddefnyddio a phryd
  • nifer y bobl fydd ar y safle
  • a oes angen i chi addasu’r amgylchedd (e.e. torri coed)
  • a oes angen mynediad unigryw arnoch i’r tir
  • gwybodaeth am ddefnyddio dronau
  • a oes angen i chi fynd â cherbydau ar y tir

Dogfennau sydd angen i chi eu rhannu gyda ni

Os ydych chi’n gwneud cais am drwydded marchogaeth ceffylau, dim ond tystiolaeth o yswiriant atebolrwydd cyhoeddus sydd ei angen.

Ar gyfer pob cais arall, bydd angen y canlynol:

  • map
  • tystiolaeth o yswiriant atebolrwydd cyhoeddus yn dangos y canlynol:

    • eich enw
    • dyddiadau’r yswiriant
    • cyfanswm yr yswiriant (isafswm o £5 miliwn)
  • asesiad risg
  • cynllun mewn argyfwng
  • yswiriant atebolrwydd cyhoeddus, asesiad risg a manylion trwydded sy’n cwmpasu defnyddio drôn

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i wneud rhywbeth ar dir CNC, er enghraifft:

  • marchogaeth
  • ffilmio
  • cynnal digwyddiad
  • fforio 
  • arolygon
  • addysg

Gallwch hefyd ddefnyddio’r gwasanaeth hwn os oes angen i chi wneud gwaith ar y tir (gwaith amaethyddol, telathrebu, cynnal a chadw er enghraifft).
 

 

Cytundebau hirdymor i ddefnyddio'n tir

Os ydych yn bwriadu cynnal prosiect sy’n para am dros flwyddyn, cysylltwch â Llais y Goedwig: NRWpermissions@llaisygoedwig.org.uk. Gallan nhw:

  • eich helpu i gwblhau eich cais
  • rhoi cyngor am gyllid
  • helpu gyda chynaliadwyedd
  • eich cyflwyno i rwydwaith o brosiectau coetiroedd cymunedol yng Nghymru

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf