Nid yw byth yn rhy gynnar i ystyried y materion amgylcheddol a allai godi gyda'ch prosiect Coedwigaeth a sut y gallech osgoi neu leihau unrhyw effeithiau. 

Bydd ymchwilio i'r ystyriaethau amgylcheddol a sicrhau cydymffurfiaeth â Safon Coedwigaeth y DU cyn gynted â phosibl yn rhoi mwy o amser i chi ddatblygu a diwygio eich prosiectau er mwyn osgoi problemau yn ddiweddarach. 

Mae cyflwyno eich holl ymchwil i ni yn ein galluogi i ystyried eich prosiect drwy sgrinio i lunio Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol i benderfynu a yw'n debygol y bydd effaith sylweddol ar yr amgylchedd.

Cyngor cyn ymgeisio

Rydym yn eich annog i drafod eich prosiect arfaethedig gyda ni yn gynnar fel y gellir nodi'r risgiau amgylcheddol a llywio datblygiad eich prosiect. Bydd hyn yn eich galluogi i baratoi cynnig coedwigaeth cynaliadwy. 

O ran prosiectau creu coetiroedd, gallwn hefyd gynnig cyngor i chi ar gynefinoedd glaswelltir sydd o fewn ffin arfaethedig eich cynnig fel rhan o'n gwasanaeth cyn ymgeisio. 

Drwy fanteisio ar y cyngor cyn ymgeisio y gallwn ei gynnig i chi a defnyddio'r canllawiau hyn, gallwch gyfuno eich proffesiynoldeb a'ch diwydrwydd dyladwy i gynhyrchu cynnig ar gyfer pob prosiect sy'n uwch ac yn is na'r trothwyon.  

Cysylltwch â ni ar e-bost i gael cyngor cyn ymgeisio sy'n ymwneud â'ch prosiectau.  

Bydd defnyddio ein cyngor cyn ymgeisio, ynghyd â chasglu data arall (hyperddolen i'r adran adnoddau ychwanegol isod) ar gyfer eich prosiect, yn rhoi darlun clir i chi o'r hyn sydd angen ei ystyried yn nyluniad eich prosiect wrth gyflwyno eich cais am farn sgrinio. 

A oes angen Sgriniad Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol (AEA) arnaf?

Os yw eich prosiect yn is na'r trothwy, efallai na fydd angen i chi ofyn am sgriniad AEA, ond gallwn barhau i gynnig yr un cyngor a disgwyl i chi greu cynllun proffesiynol a chydwybodol.  Efallai y byddwch yn torri'r Rheoliadau AEA Coedwigaeth, os nad yw eich cynllun yn dilyn ein cyngor, hyd yn oed os yw'n is na'r trothwyon.  

Efallai y byddai cadw log materion o gamau cynnar eich proses gynllunio o gymorth. Bydd hyn yn eich helpu i gofnodi eich hynt drwy'r broses a gall ddangos trafodaethau gyda rhanddeiliaid, CNC a darparu sail ar gyfer camau dilynol. Bydd defnydd da o'r dogfennau hyn yn dangos dull tryloyw a phroffesiynol a fydd yn helpu i hwyluso’r broses o asesu eich cynnig. Bydd hyn hefyd yn helpu CNC i weld yr holl nodweddion sensitif a materion eraill sy'n bresennol yn eich prosiect a sut yr ymdriniwyd â phob un mewn ffordd glir a chyson. 

Prosiectau, Trothwyon a Lleoliadau

Os yw eich prosiect yn uwch na'r trothwy ardal (Tabl 1), gallwch ddarganfod a oes angen caniatâd AEA arnoch gennym drwy gwblhau a chyflwyno'r ffurflen farn. 


Efallai y bydd yn dal i fod angen caniatâd ar brosiectau sy'n is na'r trothwy os yw CNC o'r farn, er gwaethaf eu maint llai, eu bod yn debygol o gael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd (er enghraifft, lle gallant effeithio ar gynefin arbennig o sensitif) neu os ystyrir eu bod yn amgylchiad eithriadol. 

Manylir ar y meysydd sensitif a restrir yn y rheoliadau isod. 

Nodir y trothwyon presennol lle y mae'n rhaid ceisio caniatâd AEA, o Baragraff 2 o Atodlen 2 a Rheoliad 3(3) o'r Rheoliadau Coedwigaeth AEA yn Nhabl 1. 

Prosiect Trothwy ar gyfer lle mae sgrinio’n ofynnol pan fo unrhyw ran o'r tir mewn ardal sensitif Trothwy lle nad oes unrhyw ran o'r tir mewn ardal sensitif

Coedwigo (lle nad yw tir wedi bod yn dir coedwigaeth o'r blaen)  

2 hectar lle mae'r tir o fewn Parc Cenedlaethol, AHNE   

0 hectar ym mhob ardal sensitif arall – mae angen barn sgrinio o dan Reoliadau AEA Coedwigaeth bob amser gan y Tîm Trwyddedu (Coedwigaeth).  

5 hectar  

Datgoedwigo  

(Lle mae tir coedwigaeth yn cael ei addasu i ddefnydd tir arall)  

0.5 hectar lle mae'r tir o fewn Parc Cenedlaethol, AHNE  

0 hectar ym mhob ardal sensitif arall – mae angen barn sgrinio o dan Reoliadau AEA Coedwigaeth bob amser gan y Tîm Trwyddedu (Coedwigaeth).  

1 hectar  

Ffyrdd Coedwig  

0 hectar – mae angen barn sgrinio o dan Reoliadau AEA Coedwigaeth bob amser gan y Tîm Trwyddedu (Coedwigaeth).  

1 hectar  

Chwareli Coedwig  

0 hectar – mae angen barn sgrinio o dan Reoliadau AEA Coedwigaeth bob amser gan y Tîm Trwyddedu (Coedwigaeth).  

1 hectar  

Tabl 1 Atodlen 2 Trothwyon Prosiectau Perthnasol 

Pa wybodaeth y dylai cynigydd ei darparu er mwyn llenwi eich ffurflen sgrinio EIA? 

Bydd angen i chi ddarparu'r wybodaeth ganlynol i lenwi'ch ffurflen, er y gallwch ar unrhyw adeg gadw a chau eich ffurflen i ddychwelyd ati’n ddiweddarach.  

Noder: Mae'r wybodaeth hon i'ch helpu i gyflwyno cais y tro cyntaf, a fydd yn ein galluogi i brosesu ceisiadau'n brydlon. Bydd unrhyw geisiadau nad oes ganddynt y wybodaeth ofynnol neu'r mapiau cywir yn cael eu dychwelyd heb gael eu cofrestru.  

Bydd yr adrannau isod yn dilyn y drefn y maent yn ymddangos ynddi ar y ffurflen ar-lein. 

Manylion yr ymgeisydd 

Eich enw, sefydliad, cyfeiriad, rhif ffôn cyswllt, e-bost ac ai chi yw'r tirfeddiannwr. Os nad dyma'r cyfeiriad ar gyfer gohebiaeth, rhowch y manylion ar gyfer gohebiaeth. Os ydych yn llenwi'r ffurflen fel asiant ar ran y tirfeddiannwr, bydd angen i chi roi eich manylion hefyd. 

Manylion yr eiddo 

Rhowch enw'r eiddo, cyfeirnod grid 8 ffigur - er enghraifft SO 123456, Awdurdod Lleol a'r dref agosaf. 

Dynodiadau safleoedd 

Nodwch nifer hectarau eich prosiect sy'n dod o fewn yr ardaloedd sensitif isod. Rhestrir ardaloedd sensitif yn Atodlen 2 Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol (Coedwigaeth) (Cymru a Lloegr) 1999 (fel y’u diwygiwyd): 

  • Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) neu Safleoedd Arfaethedig o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (PSSSI) 
  • Parc Cenedlaethol 
  • Safle Treftadaeth y Byd 
  • Heneb Gofrestredig (SAM) 
  • Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) 
  • Rhwydwaith Safleoedd Cenedlaethol (a elwid gynt yn Safleoedd Natura 2000 h.y. Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) neu Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGA)) 
  • Safleoedd Ramsar 

Trosolwg o'r prosiect 

Hoffem i chi ddarparu trosolwg o'r prosiect, gan nodi cyfanswm hectarau eich prosiect. 

Coedwigo – hectarau a chanran y coed llydanddail, coed conwydd a mannau agored 

Datgoedwigo – hectarau a chanran y coed llydanddail a choed conwydd 

Ffyrdd coedwig – Dimensiynau (hyd a lled). DS: os oes gennych seilwaith arall, fel mannau llwytho, rampiau, nodwch y dimensiynau yn eu cyfanrwydd yma a nodwch fanylion y rhain yn eich disgrifiad isod

Chwareli coedwig – hectarau 

Bydd gofyn i chi uwchlwytho mapiau neu gynlluniau sy'n ddigonol i nodi pa dir sydd dan sylw a beth yw cynigion y prosiect 

Rhaid i chi ddarparu map gwreiddiol neu lungopi o ansawdd da i ni. Rhaid i'r map gael ei lofnodi neu ei ddilysu gan gynigydd y prosiect a'i ddyddio. 

Byddem yn disgwyl gweld y rhain fel dogfennau ar wahân  

  • Map lleoliad (dylai fod yn hawdd dod o hyd i ble yng Nghymru y mae eich prosiect)
  • Map cyfyngiadau a chyfleoedd (manylwch ar unrhyw nodweddion sensitif o fewn ffin eich prosiect ac o’i chwmpas, cyrsiau dŵr ac ati)
  • Map gweithrediadau sy'n manylu ar yr hyn rydych yn bwriadu ei wneud (gan gynnwys dylunio coetir, ffensio, mynediad ac ati)
  • Dylid defnyddio mapiau ychwanegol yn ôl y gofyn i ddangos rhagor o wybodaeth am y safle a dylanwadau ehangach o'i amgylch.  Er enghraifft, efallai yr hoffech anfon mapiau i mewn ar raddfa wahanol neu gyda'r wybodaeth wedi'i gwasgaru ar draws mwy o fapiau.

Cyn i chi farcio'r mapiau, sicrhewch: 

  • Fod y map yn gyfredol, ac wedi’i greu gan yr Arolwg Ordnans; 
  • Y cyflwynir y map ar raddfa addas o naill ai 1:10,000, 1:5,000 neu 1:2,500; 
  • Y dangosir graddfa'r map, ac mae manylion perthnasol i'w gweld;

Marcio'r mapiau  

  • Dangoswch yn glir leoliad ffin y prosiect; 
  • Ni ddylai unrhyw liw a ddefnyddir guddio manylion y map ei hun; 
  • Marciwch gyfeirnod grid canolbwynt y prosiect; 
  • Os nad yw'r pwynt mynediad i'r ardal yn amlwg, nodwch hyn ar y map hefyd; 
  • Peidiwch â defnyddio map a ddefnyddiwyd ar gyfer cais blaenorol; a 
  • Darparwch Allwedd i’ch map. 

Manylion ac effaith y prosiect 

Dylech ddarparu'r wybodaeth ganlynol. Mae hyn yn unol â Rheoliad Coedwigaeth AEA 5 (2) ac Atodlen 2(A): 

Rydym yn defnyddio'r wybodaeth hon a roddwch yma i benderfynu a yw eich prosiect yn debygol o gael effaith sylweddol ar yr amgylchedd. Felly, mae'n rhaid i chi roi digon o fanylion i ni am eich prosiect, yr amgylchedd yn eich lleoliad arfaethedig, unrhyw effeithiau y gallai eich prosiect eu cael ynghyd ag unrhyw fesurau lliniaru neu osgoi yr ydych yn eu cynnig.   

Mae'r geiriad yn y ffurflen ar-lein yn defnyddio'r derminoleg o'r ddeddfwriaeth, mae'r wybodaeth isod yn rhoi arweiniad cliriach ar yr hyn sy'n ofynnol.

Disgrifiad a Lleoliad

Rhowch ddisgrifiad o'r prosiect gan gynnwys disgrifiad o nodweddion ffisegol y prosiect cyfan a disgrifiad o leoliad y prosiect, gan roi sylw penodol i sensitifrwydd amgylcheddol ardaloedd daearyddol sy'n debygol o gael eu heffeithio.  

Byddem yn disgwyl gweld manylion am y pwyntiau canlynol, o leiaf: 

  • Nodau ac amcanion cynnig y prosiect 
  • Maint (hectarau) gan gynnwys tir agored a dyluniad y prosiect. Dylai hyn gynnwys rhywogaethau coed, dulliau sefydlu i'w defnyddio, math/maint y cerrig a nodi sut y byddwch yn defnyddio'r tir ac unrhyw adnoddau naturiol eraill. Dylech sicrhau bod hyn yn cydymffurfio â'r cyngor dylunio yn Safon Coedwigaeth y DU (UKFS)
  • Disgrifiad o leoliad y prosiect 
  • Hyd gwahanol rannau o'r prosiect e.e. dros ba hyd o amser y bydd gwaith plannu'n digwydd, a disgrifiad manwl o sut y caiff y coetir ei reoli ar ôl ei blannu 
  • Dywedwch wrthym yn gryno am unrhyw ran o'ch prosiect a fydd yn osgoi, yn atal neu'n lleihau'r hyn a allai fel arall arwain at effaith andwyol sylweddol ar yr amgylchedd a nodwch sut y mae'n gwneud hynny. Lliniaru yw’r enw ar hyn, fel arfer; Gofynnir i chi ymhelaethu ar hyn yn nes ymlaen
  • Unrhyw wastraff a gynhyrchir, a sut yr ymdrinnir â hyn 
  • Unrhyw lygredd a allai ddeillio o'r prosiect 
  • A allai damwain/trychineb ddifrifol effeithio ar eich prosiect, neu a allai newid effaith (cynyddu neu leihau) unrhyw fath o drychineb ddifrifol? Yn gyffredinol, dylid ystyried damweiniau a/neu drychinebau difrifol fel rhan o asesiad lle mae gan y prosiect y potensial i achosi marwolaeth, anaf parhaol a/neu ddinistrio derbynnydd amgylcheddol dros dro neu’n barhaol lle na ellir ei adfer drwy rywfaint o waith glanhau ac adfer e.e. llygru cwrs dŵr yn ystod tywydd eithafol, tirlithriad o ganlyniad i ddatgoedwigaeth, effaith plâu neu glefyd ar iechyd coed
  • A oes unrhyw risgiau i iechyd y cyhoedd oherwydd unrhyw gam o'ch prosiect? e.e. y potensial ar gyfer halogi dŵr 
  • Cynefinoedd â blaenoriaeth a restrir o dan Adran 7 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2017 fel mathau o gynefinoedd sydd, ym marn Llywodraeth Cymru, o'r pwys mwyaf er mwyn cynnal a gwella bioamrywiaeth mewn perthynas â Chymru 
  • Dylech hefyd nodi unrhyw brosiectau Coedwigaeth eraill sydd wrth ymyl neu gerllaw eich prosiect a ddechreuwyd o fewn y 5 mlynedd blaenorol, a allai gael effaith gronnus ar yr amgylchedd. Defnyddiwch ein cynnig cyngor cyn ymgeisio i'ch helpu i benderfynu ar hyn. 
  • Manylion gwaith rydych wedi’i gynnal i ymgysylltu â rhanddeiliaid. Gall Canllawiau ConForSafon Coedwigaeth y DU ddarparu adnoddau defnyddiol ar gyfer cynllunio ymgysylltiad â rhanddeiliaid.  

Sensitifrwydd

Rhowch ddisgrifiad o'r agweddau ar yr amgylchedd sy'n debygol o gael eu heffeithio'n sylweddol gan eich prosiect: 

Mae tua 30% o dir a dyfroedd Cymru wedi’u dewis fel safleoedd arbennig naill ai ar gyfer eu bywyd gwyllt, eu harddwch, eu treftadaeth neu eu gwerth fel safleoedd daearegol.  

Dylech nodi a yw eich prosiect o fewn, neu'n agos at unrhyw ardal sensitif. Mae'n bosibl i'ch prosiect effeithio ar ardal sensitif hyd yn oed os nad yw o fewn ffiniau eich prosiect, er enghraifft, efallai y bydd gan eich prosiect gwrs dŵr sy'n rhedeg drwyddo sy'n llednant sy’n arwain i ACA.  

Mae'n bwysig deall mai dim ond cydnabyddiaeth ffurfiol o werth yw dynodiad, mewn statud neu mewn polisi, a gallai ardaloedd eraill, nad ydynt wedi’u dynodi, fod o werth tebyg mewn ffyrdd eraill. Ni ddylid tybio bod absenoldeb dynodiad ffurfiol yn golygu nad oes gwerth, a rhaid ystyried hyn o hyd yn eich cynnig.   

Ar gyfer yr adran hon o'r ffurflen, dylech ddisgrifio'r agweddau ar yr amgylchedd sydd ar ac o amgylch ardal eich prosiect arfaethedig ac y gallai eich cynnig effeithio arnynt. 

Ar gyfer Prosiectau Creu Coetir 

Dylech edrych ar ein map rhyngweithiol a Map Cyfleoedd Coetir LlC i weld a oes unrhyw ardaloedd neu nodweddion sensitif yn ardal eich prosiect neu’n gyfagos. Sylwch na fydd y map rhyngweithiol na’r setiau data eraill yn rhoi'r holl wybodaeth ddiweddaraf i chi am rywogaethau a chynefinoedd a warchodir ac argymhellir yn gryf eich bod yn ymweld â’r safle i gadarnhau a oes nodweddion sensitif yn bresennol.  Dylech ystyried yr angen am arolwg addas o'r ardal blannu arfaethedig neu o leiaf gyflwyno digon o dystiolaeth ffotograffig gyda'ch cais i roi gwybod i ni am natur y cynefinoedd yn yr ardal blannu a sut y gellir integreiddio'r rhain i ddyluniad ar gyfer plannu.  

Bydd y mapiau rhyngweithiol a'r wybodaeth arall y cyfeirir ati uchod yn eich helpu i nodi presenoldeb unrhyw un o'r canlynol ger eich prosiect. Cam cyntaf da fyddai dilyn y Canllawiau AEA a GN002 ar dudalennau Glastir sy'n awgrymu ystyried y categorïau canlynol. Mae’r rhain hefyd ar gael fel tudalennau gwe. Er bod y canllawiau hyn ar gyfer sgrinio AEA, mae'n adlewyrchu llawer o'r ystyriaethau y byddai prosiect Creu Coetir Glastir yn gofyn amdanynt: 

Ar gyfer Prosiectau Coedwigaeth eraill 

Bydd llawer o'r ystyriaethau ar gyfer creu coetir yn berthnasol i brosiectau eraill ar gyfer datgoedwigo, creu ffyrdd a chynnal chwareli. Efallai y bydd gan fapiau Lle lawer o wybodaeth ddefnyddiol i chi, ond defnyddiwch borwr map CNC hefyd, ynghyd â ffynonellau gwybodaeth eraill y gallwch gael gafael arnynt. Bydd hyn yn eich helpu i ddarganfod a disgrifio'r nodweddion sensitif yn ardal eich prosiect a gerllaw. 

Gyda'r wybodaeth a gewch o'r gwiriadau cychwynnol uchod, dylech ystyried a allai eich prosiect gael effaith ar: 

  • Natur y tir – disgrifiwch beth yw'r math presennol o gynefin a sut y byddai hyn yn newid o ganlyniad i'ch prosiect. Ystyriwch goetir (rhywogaethau coed ac oedran), tir âr, glaswelltir wedi'i wella, prysgwydd a chynefinoedd â blaenoriaeth 
  • A fydd y prosiect yn effeithio ar yr amgylchedd dŵr - er enghraifft a fydd yn cynnwys croesfannau cyrsiau dŵr neu’n effeithio ar gyrsiau dŵr a'u statws
  • Dalgylchoedd sy'n sensitif i asid - gweler ein canllawiau ar reoli coedwigoedd er mwyn osgoi effeithiau ar ddalgylchoedd sy'n sensitif i asid, lleiniau clustogi UKFS
  • Cyd-destun o ran tirwedd. Mae hyn yn cynnwys dynodiadau megis AHNE, Tirwedd Hanesyddol, Ardaloedd Tirwedd Arbennig, y dirwedd weledol, tirwedd hanesyddol a diwylliannol, a thirwedd ddaearegol – gallwch ddod o hyd i wybodaeth am dirweddau a'n setiau data tirwedd ar ein tudalennau gwe LANDMAP
  • Priddoedd - sut y gallai eich prosiect effeithio ar eich mathau o bridd e.e. mawn dwfn
  • Topograffeg 
  • Mynediad e.e. a fydd y prosiect yn effeithio ar hawliau tramwy cyhoeddus neu dir mynediad agored 
  • A oes unrhyw brosiectau eraill sy'n ffinio â’ch prosiect arfaethedig neu’n agos ato – byddem yn disgwyl i chi ystyried unrhyw brosiectau eraill o fewn 500m 
  • A yw’r prosiect yn agos at SoDdGA a'r Rhwydwaith Safleoedd Cenedlaethol, safleoedd Natura 2000 gynt (ACA/AGA) 
  • Rhanddeiliaid stakeholder-engagement-2018-wales.pdf (confor.org.uk)
  • Unrhyw wybodaeth arall yr hoffech ei darparu am y prosiect 

Dywedwch wrthym a ydych wedi ymchwilio mewn perthynas â’r categorïau uchod a dywedwch wrthym beth rydych wedi'i ganfod hyd yn oed os nad ydynt yn bresennol e.e. dim dynodiadau tirwedd o fewn ardal y prosiect nac yn uniongyrchol o’i amgylch, neu ffin AHNE ar ben deheuol y cynnig. Gellid cofnodi hyn ar log materion. 

Effeithiau Posibl eich prosiect

O'r wybodaeth a nodwyd gennych yn Sensitifrwydd, disgrifiwch yr effeithiau sylweddol tebygol y gallai eich prosiect eu cael ar y ffactorau hyn.

Mae'r adran hon yn gofyn i chi ddisgrifio nodweddion eich prosiect a allai achosi effaith sylweddol ar yr amgylcheddau sensitif rydych wedi'u nodi. 

Er enghraifft, gallai plannu coed gwern o fewn y parth torlannol o fewn dalgylch sy'n methu arwain at fwy o asideiddio neu arafu adferiad y dalgylch. 

Cewch gyfle i ddisgrifio eich camau i liniaru unrhyw effeithiau arwyddocaol yn osgoi neu Liniaru

Rhanddeiliaid

Dylech gynnwys trosolwg o'r gwaith ymgysylltu â rhanddeiliaid yr ydych wedi'i wneud.

Dylai graddau'r ymgysylltiad â'r cyhoedd fod yn gymesur â natur a graddfa'r cynnig plannu, ond byddai’n ofynnol o leiaf ymgysylltu â chymdogion agos a'r rhai y mae eu tir yn ffinio â'r cynnig creu coetir newydd. Rhowch wybod i ni:

  • Â phwy rydych chi wedi cysylltu, 
  • Sut rydych chi wedi ymgysylltu â nhw – e-bost, anfon llythyr, cyfarfod 
  • Nodwch sut rydych wedi'u hymgorffori yn eich cynllun, gan gynnwys datrys pryderon a godwyd yn osgoi neu Liniaru
  • Gallwch hefyd uwchlwytho eich log materion i ddangos pryderon rhanddeiliaid yn ogystal ag ymgynghoriadau amgylcheddol ehangach ac adolygiadau o ddata

Osgoi neu Liniaru

Disgrifiwch y mesurau lliniaru y byddwch yn eu defnyddio ar gyfer eich cynnig   

Mae'n bosibl cynnig mesurau lliniaru i'w hystyried yn ystod y cam barn sgrinio.   

Dylai'r mesurau lliniaru arfaethedig gael eu hategu gan dystiolaeth i ganiatáu i CNC ddod i gasgliad rhesymegol ar yr angen neu ddiffyg angen am AEA. Mae angen iddi fod yn glir sut mae mesurau o'r fath yn arwain at atal neu osgoi effeithiau sylweddol. 

Gall cyfeirio at ac arddangos lleoliad a dyluniad yn unol â Safon Coedwigaeth y DU helpu wrth ddadlau’r achos. 

Byddwch nawr ar ddiwedd eich ffurflen a gofynnir i chi dicio blwch i ddangos eich bod yn deall bod yr hyn rydych chi wedi'i nodi yn gywir hyd y gwyddoch ac yna gallwch glicio ar y blwch cyflwyno i gyflwyno'ch ffurflen i ni. 

Pryd y gallwch ddisgwyl ein penderfyniad 

Os ystyriwn nad ydych wedi darparu digon o wybodaeth i'n galluogi i roi barn sgrinio, byddwn yn gofyn am ragor o wybodaeth gennych. Byddwn yn gofyn i'r wybodaeth hon gael ei darparu o fewn amserlen resymol. 

Noder: Os bydd ceisiadau’n syrthio gryn dipyn islaw trothwy’r gofynion o ran gwybodaeth, yna bydd y cais yn cael ei ddychwelyd heb gael ei gofrestru. 

Unwaith y bydd gennym ddigon o wybodaeth i roi barn, byddwn yn cyhoeddi ein barn o fewn 28 diwrnod. Efallai y byddwn yn gofyn i chi gytuno ar gyfnod hirach. 

Byddwn yn rhoi gwybod i chi am ein penderfyniad naill ai drwy lythyr neu drwy e-bost. Ni ddylai gwaith ddechrau nes eich bod yn derbyn ein barn ffurfiol.  

Os NAD oes angen caniatâd 

Os cewch ein cadarnhad ysgrifenedig nad oes angen caniatâd yna gallwch ddechrau’r gwaith ar unwaith, os nad oes angen cymeradwyaeth bellach e.e. trwydded cwympo coed, Gorchymyn Datblygu Cyffredinol a Ganiateir ('Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995' OS 418) . Lle bo’n berthnasol, byddwn yn parhau i brosesu eich cais am gymorth grant neu drwydded cwympo coed yn y ffordd arferol. 

Os OES angen caniatâd 

Os byddwn yn rhoi gwybod i chi, yn ysgrifenedig, bod angen caniatâd ar gyfer eich prosiect, rhaid i chi gyflwyno cais am ganiatâd os ydych yn dymuno symud ymlaen i lunio’r AEA. Rhaid i'ch cais gynnwys Datganiad Amgylcheddol. I gael rhagor o wybodaeth, gweler y dudalen AEA Gwneud cais am ein caniatâd   

Efallai y bydd angen caniatâd neu awdurdodiadau eraill megis Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd hefyd. 

Cyfnod dilysrwydd ein penderfyniadau 

Bydd unrhyw benderfyniad a wnawn ynghylch a oes angen caniatâd arnoch ar gyfer y gwaith ai peidio yn ddilys am gyfnod o bum mlynedd, neu am unrhyw gyfnod sy'n fyrrach na'r hyn y gallwn ei nodi. 

Diweddarwyd ddiwethaf