Pori map o ddata am yr amgylchedd naturiol

Map rhyngweithiol

Mae'r map rhyngweithiol hwn yn darparu gwybodaeth ddaearyddol Cyfoeth Naturiol Cymru am yr amgylchedd naturiol. Mae'n cynnig gwybodaeth sydd gan CNC ar goedwigaeth, dŵr, cynefinoedd a seilwaith.

Gweld y map rhyngweithiol

Mae'r map mewn proses o ddatblygiad parhaus a chaiff data pellach ei ychwanegu dros amser.

Rydym yn awyddus i gasglu adborth gan ddefnyddwyr i wella defnyddioldeb a phrofiad y defnyddiwr.

Byddwch cystal â gadael sylwadau ac awgrymiadau

Mae'r map yn arddangos gwybodaeth ar y sgrin a gellir ei drosi i PDF ar gyfer argraffu A4.

Mae'r setiau data llawn ar gael i'w lawrlwytho ar MapDataCymru 

Gwybodaeth ar gael ar y map

Ar hyn o bryd mae'r map yn dangos data manwl yn y themâu canlynol:

  • Dŵr (dyfrhaenau, bregusrwydd dŵr daear ac ati)

  • Coedwigaeth (coetir hynafol, trwyddedau cwympo coed ac ati)

  • Cynefinoedd a rhywogaethau

  • Safleoedd gwarchodedig a dynodiadau mynediad tir

Gweler y map am bob lefel o wybodaeth sydd ar gael.

Ychwanegir mwy o wybodaeth wrth i'r map gael ei ddatblygu ymhellach.

Darllenwch ragor am gyrchu a defnyddio ein data 

Defnyddio'r map

Chwiliwch y map am enw lle, cyfeiriad, neu gyfeirnod grid.

Defnyddiwch y sbaner/sgriwdreifer i agor offer. Yna gallwch ddewis neu luniadu ardal ar y map, dewis nodwedd unigol neu fesur pellteroedd.

Gallwch ddewis y thema neu'r haen (ee ffiniau gweinyddol, llinellau pŵer, safleoedd gwarchodedig) rydych am eu gweld.

Mae swyddogaeth ymholiad syml yn caniatáu ichi hidlo'r data am wybodaeth benodol.

Darllenwch ganllaw manwl ar ddefnyddio'r map (PDF 3KB)

Diweddarwyd ddiwethaf