Rhif cais: PAN 000187
Math o gyfleuster rheoledig: Adran 5.4 Rhan A (1)(b)(1) Adfer gwastraff amheryglus â chynhwysedd mwy na 100 tunnell y dydd sy’n cynnwys (i) triniaeth fiolegol

Lleoliad cyfleuster rheoledig: Mona Anaerobic Digestion Plant, Stad Ddiwydiannol Mona, Gwalchmai, Ynys Môn, LL65 4RJ

Gweithfan bwrpasol Rhan A. Cyfleuster treulio anaerobig sy’n defnyddio bionwy canlyniadol mewn peiriant gwres a phŵer cyfunedig (CHP). Cynhyrchu tua 3MW o drydan ar gyfer ei allforio i’r grid cenedlaethol.

Rydym yn bwriadu rhoi’r drwydded. Byddwn yn rhoi trwydded yn unig os credwn na fydd llygredd sylweddol yn cael ei achosi ac os oes gan y gweithredwr y gallu i fodloni amodau’r drwydded. Bydd unrhyw drwydded yr ydym yn ei rhoi yn cynnwys amodau priodol i ddiogelu iechyd dynol a’r amgylchedd.

Gwybodaeth a osodwyd ar ein gwefan, gweler isod. Mae’r wybodaeth hon wedi ei gosod ar y gofrestr gyhoeddus ar gyfer ymgynghori.

  • Trwydded ddrafft
  • Dogfen penderfyniad draft

Efallai y cewch gopi o ddogfennau ar ein cofrestr gyhoeddus. Efallai y byddwn yn codi ffi i dalu am gostau copïo. Fel arall, os byddai’n well gennych gopi electronig o’r cais e-bostiwch ni i’r cyfeiriad isod

Gallwch hefyd ofyn am CD o’r drwydded ddrafft a’r penderfyniad drafft drwy gysylltu â ni drwy e-bost neu drwy lythyr gan ddefnyddio’r manylion cysylltu isod.

Os oes gennych unrhyw sylwadau anfonwch y rhain erbyn 2 Medi 2016.

E-bost: permittingconsultations@naturalresourceswales.gov.uk

Neu ysgrifennwch at:
Arweinydd Tîm Trwyddedu (Diwydiant Rheoledig)
Cyfoeth Naturiol Cymru
Tŷ Cambria
29 Heol Casnewydd
Caerdydd
CF24 0TP

Fel arfer, rhaid inni roi unrhyw ymatebion yr ydym yn eu derbyn ar y gofrestr gyhoeddus. Fodd bynnag byddwn yn tynnu eich enw a’ch manylion cysylltu cyn gwneud hynny.

 

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Diweddarwyd ddiwethaf