Resources Management UK Ltd - Safle Tirlenwi Withyhedge, Bowling Farm, Rudbaxton, Hwlffordd, SA62 4DB

Rydym wedi derbyn cais i amrywio trwydded amgylcheddol gan Resources Management UK Ltd. 

Cais am amrywiad i drwydded amgylcheddol o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016

Rhif y cais:PAN-025929
Math o gyfleuster a reoleiddir: Gosodiad – Adran 5.2 Rhan A(1) (a), Gwaredu gwastraff mewn safle tirlenwi – (i) derbyn mwy na 10 tunnell o wastraff mewn unrhyw ddiwrnod, neu (ii) gyda chapasiti o fwy na 25,000 tunnell, ond heb gynnwys gwarediadau mewn safle tirlenwi sy’n derbyn gwastraff anadweithiol yn unig.
Lleoliad y cyfleuster a reoleiddir: Safle Tirlenwi Withyhedge, Bowling Farm, Rudbaxton, Hwlffordd, SA62 4DB

Mae Resources Management UK Ltd wedi gwneud cais i amrywio eu trwydded bresennol, sef trwydded rhif EPR/MP3330WP. Mae’r newidiadau arfaethedig yn cynnwys:

  • Cyfuchliniau gwaith adfer cyn-setlo diwygiedig
  • Rhaglen reoli a monitro wedi’i haddasu ar gyfer dŵr daear, dŵr wyneb a thrwytholch 
  • Ychwanegu 50,000 tunnell o briddoedd gwastraff i’w hadfer o dan weithgaredd adfer gwastraff newydd 
  • Cyfuno a moderneiddio’r drwydded, gan gynnwys adolygu’r amodau gwella ac amodau cynweithredol presennol

Mae’r cais yn cynnwys disgrifiad o’r ffordd y bydd y newidiadau arfaethedig yn effeithio ar y gosodiad; y deunyddiau, y sylweddau a’r ynni y bydd yn eu defnyddio a’u cynhyrchu; amodau ei safle; ffynhonnell, natur a maint ei allyriadau rhagweladwy a’u heffaith bosibl; y technegau arfaethedig ar gyfer atal, lleihau a monitro ei allyriadau ac atal ac adfer gwastraff; ac amlinelliad o’r prif ddewisiadau amgen, os o gwbl, a ystyriwyd.

Gallwch weld y dogfennau cais am ddim ar ein cofrestr gyhoeddus ar-lein  Neu gallwch wneud cais am gopi o’r wybodaeth gennym. Gallai hyn gymryd amser i brosesu ac mae’n bosib y codir tâl.

Os oes gennych unrhyw sylwadau, anfonwch y rhain erbyn 20 Mehefin 2025. Gallwch wneud hyn drwy ein Hwb Ymgynghori ac Ymgysylltu.

Neu drwy ebost: permittingconsultations@naturalresourceswales.gov.uk

Neu ysgrifennwch at:

Y Gwasanaeth Trwyddedu
Cyfoeth Naturiol Cymru
Adeiladau’r Goron
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Mae’n rhaid i ni benderfynu a ydym am gymeradwyo neu wrthod y cais.  Os byddwn yn ei ganiatáu, rhaid i ni benderfynu pa amodau i’w cynnwys yn y drwydded.  Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut rydym yn gwneud penderfyniadau yn ein Datganiad Cyfranogiad y Cyhoedd.

Diweddarwyd ddiwethaf