Hafren Dyfrdwy Cyfyngedig - Meifod Gwaith Trin Dŵr Gwastraff, Road west of Meifod, Meifod, Welshpool, Powys, SY22 6DH

Rydym wedi derbyn cais am drwydded gan Hafren Dyfrdwy Cyfyngedig.

Cais i newid trwydded amgylcheddol dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016.

Rhif y cais: PAN-033379
Math o gyfleuster rheoledig: Gwaith Trin Dŵr Gwastraff (GTDG)
Lleoliad y cyfleuster rheoledig: Road west of Meifod, Meifod, Welshpool, Powys, SY22 6DH
Cyfeirnod Grid Cenedlaethol yr ollyngfa: SJ 15964 12951
Yr ardal ddyfrol sy’n derbyn: Afon Efyrnwy
Math o elifiant: Elifiant triniaeth eilaidd
Cyfaint: 125 metr ciwbig y dydd

Gallwch weld y dogfennau cais yn rhad ac am ddim, o'n cofrestr gyhoeddus ar-lein. Gallwch chwilio am y dogfennau gan ddefnyddio'r manylion cais uchod. Neu gallwch ofyn am gopi o'r wybodaeth gennym ni. Gall hyn gymryd amser i'w brosesu a gellid codi tâl am hynny.

Os oes gennych unrhyw sylwadau anfonwch y rhain erbyn 4 Rhagfyr 2026.

E-bost: permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Neu ysgrifennwch at:
Gwasanaeth Trwyddedu
Cyfoeth Naturiol Cymru
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru 
Parc Cathays 
Cardiff
CF10 3NQ

Rhaid i ni benderfynu a ddylid caniatáu neu wrthod y cais. Os ydym yn ei ganiatáu, mae’n rhaid i ni benderfynu pa amodau i’w cynnwys yn y drwydded. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ynglŷn â sut yr ydym yn gwneud penderfyniadau yn ein Datganiad Cyfranogiad Cyhoeddus.

Diweddarwyd ddiwethaf