Rydym wedi derbyn cais am drwydded gan Conwy Holiday Park Limited.

Cais newydd pwrpasol am drwydded amgylcheddol dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016.

Rhif y cais: PAN-033558
Math o gyfleuster rheoledig: Gwaith Trin Carthion
Lleoliad cyfleuster rheoledig: Conwy Holiday Park, Llanrwst Road, Conwy, LL32 8HZ
Cyfeirnod Grid Cenedlaethol yr ollyngfa: SH 78166 75331
Yr ardal ddyfrol sy’n derbyn: Un o lednentydd dienw Afon Conwy
Math o elifiant: Elifiant carthion wedi'i drin
Cyfaint: 191 metr ciwbig y dydd

Gallwch weld y dogfennau cais yn rhad ac am ddim, o'n cofrestr gyhoeddus ar-lein. Gallwch chwilio am y dogfennau gan ddefnyddio'r manylion cais uchod. Neu gallwch ofyn am gopi o'r wybodaeth gennym ni. Gall hyn gymryd amser i'w brosesu a gellid codi tâl am hynny.

Neu ysgrifennwch at:

Swyddfeydd Llywodraeth Cymru
Cyfoeth Naturiol Cymru
4ydd Llawr Parc Cathays
Rhodfa'r Brenin Edward VII
Caerdydd
CF10 3NQ

Os oes gennych unrhyw sylwadau anfonwch y rhain erbyn 16 Medi 2026.

E-bost: permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Rhaid inni benderfynu a fyddwn yn caniatáu ynteu’n gwrthod y cais ai peidio.Os byddwn yn ei ganiatáu, mae’n rhaid inni benderfynu pa amodau i’w cynnwys yn y drwydded. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ynglŷn â sut yr ydym yn gwneud penderfyniadau yn ein Datganiad Cyfranogiad Cyhoeddus.

Diweddarwyd ddiwethaf