Thomas David Prichard - Trwydded Cronni Dŵr
Deddf Adnoddau Dŵr 1991 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Dŵr 2003)
Hysbysir trwy hyn, yn unol ag Adran 37 Deddf Adnoddau Dŵr 1991 a Rheoliad 6 Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Tynnu a Chronni Dŵr) 2006 i gais gael ei wneud i Cyfoeth Naturiol Cymru gan Thomas David Prichard am drwydded i rwystro neu atal llif Nant Castellau yng Nghyfeirnodau Grid Cenedlaethol ST 0516385793 ac ST 05125 85697. Diben cronni dŵr drwy wneud y gwaith yw er mwyn creu pwll newydd i ddarparu dŵr yfed ar gyfer da byw. Cynhwysedd y pwll ar lefel gorlifiant fydd 2,828 metr ciwbig.
Gallwch weld y dogfennau cais yn rhad ac am ddim, o'n cofrestr gyhoeddus ar-lein. Neu gallwch ofyn am gopi o'r wybodaeth gennym ni. Gall hyn gymryd amser i'w brosesu a gellid codi tâl am hynny.
Os ydych am ofyn am gopi neu dymunwch wneud sylwadau ynghylch y cais, rhaid ichi wneud hynny yn ysgrifenedig, gan ddyfynnu enw’r ymgeisydd a’r Cyfeirnod PAN-028966 wrth
Cyfoeth Naturiol Cymru,
Gwasanaeth Trwyddedu,
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru,
Parc Cathays,
Rhodfa’r Brenin Edward VII,
Caerdydd,
CF10 3NQ
neu drwy ebost i permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk erbyn 03/11/2025 fan bellaf.
Er mwyn cael rhagor o wybodaeth, gweler adran ymgynghoriadau ein gwefan http://naturalresources.wales/?lang=cy neu ffoniwch ein Canolfan Gofal Cwsmeriaid 0300 0653000 (Dydd Llun-Gwener, 9-5).