Ceisiadau am drwyddedau morol Hydref 2020
Isod, ceir rhestrau o geisiadau a gyflwynwyd a cheisiadau y penderfynwyd arnynt gan y Tîm Trwyddedu Morol. Os hoffech ragor o wybodaeth ynglŷn ag unrhyw un o’r ceisiadau a dderbyniwyd ac a benderfynwyd, cysylltwch:
permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Yn y rhan fwyaf o achosion gofynnir i ymgeiswyr roi hysbysiad cyhoeddus o’u cynigion mewn papur newydd lleol. Bydd yr hysbysiad hwn yn cyfeirio aelodau o’r cyhoedd sydd â diddordeb i adeilad cyhoeddus lle bydd rhaid i’r ymgeisydd drefnu fod copïau o’r cais a dogfennau ategol ar gael. Bydd yr hysbysiad hefyd yn rhoi manylion cyswllt i’r cyhoedd er mwyn caniatáu iddynt anfon unrhyw sylwadau cysylltiedig â’r cais inni. Yn ystod y cyfnod hwn o hysbysu’r cyhoedd gellir gwneud cais am ddogfennau ac anfon sylwadau i permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Hefyd, byddwch yn gallu dod o hyd i ddogfennau cysylltiedig â cheisiadau yr ymgynghorir yn eu cylch ar hyn o bryd ac sy’n gofyn am Asesiad Effaith Amgylcheddol (EIA) neu sy’n cael eu hystyried o ddiddordeb cyhoeddus sylweddol.
Ceisiadau am Drwyddedau Morol a Dderbyniwyd
Rhif y Drwydded | Enw Ymgeisydd | Lleoliad y Safle | Math o Gais |
---|---|---|---|
SP2006 |
Afon Teifi Fairways Ltd |
Pontŵn yn Patch Beach |
Cais Cynllun Sampl |
RML2047 |
Bangor University/Welsh Government |
Llywodraeth Cymru - Rheoli Adnoddau Naturiol Morol yn Gynaliadwy |
Band 1 |
CML2048 |
Amalgamated Construction Ltd |
Cefnogaeth Lintel Pont Britannia |
Band 1 |
CML2046 |
UK Highways A55 Ltd |
Amnewid troedffordd uwchben parapetau ar Bont Menai |
Band 1 |
CML2045 |
Network Rail Infrastucture Projects |
Gwaith Brys Amddiffyn Afon Wen |
Band 2 |
Ceisiadau Trwyddedau Morol a Benderfynwyd arnynt
Rhif y Drwydded | Enw Deilydd y Drwydded | Lleoliad y Safle | Math o Gais | Penderfyniad |
---|---|---|---|---|
CML2038 |
Network Rail |
Adnewyddu Traphont Kidwelly |
Band 1 |
Cyhoeddwyd |
CML2045 |
Network Rail Infrastucture Projects |
Gwaith Brys Amddiffyn Afon Wen |
Band 2 |
Tynnwyd yn ôl |
SC2003 |
Innogy Renewables UK |
Fferm Wynt Ar y Môr Awel Y Mor |
Scoping |
Tynnwyd yn ôl |
RML2040 |
Offshore Wind Consultants Limited |
Arolwg Amgylcheddol Prosiect Erebus |
Band 1 |
Cyhoeddwyd |