Ceisiadau am drwyddedau morol Tachwedd 2020
Isod, ceir rhestrau o geisiadau a gyflwynwyd a cheisiadau y penderfynwyd arnynt gan y Tîm Trwyddedu Morol. Os hoffech ragor o wybodaeth ynglŷn ag unrhyw un o’r ceisiadau a dderbyniwyd ac a benderfynwyd, cysylltwch:
permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Yn y rhan fwyaf o achosion gofynnir i ymgeiswyr roi hysbysiad cyhoeddus o’u cynigion mewn papur newydd lleol. Bydd yr hysbysiad hwn yn cyfeirio aelodau o’r cyhoedd sydd â diddordeb i adeilad cyhoeddus lle bydd rhaid i’r ymgeisydd drefnu fod copïau o’r cais a dogfennau ategol ar gael. Bydd yr hysbysiad hefyd yn rhoi manylion cyswllt i’r cyhoedd er mwyn caniatáu iddynt anfon unrhyw sylwadau cysylltiedig â’r cais inni. Yn ystod y cyfnod hwn o hysbysu’r cyhoedd gellir gwneud cais am ddogfennau ac anfon sylwadau i permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Hefyd, byddwch yn gallu dod o hyd i ddogfennau cysylltiedig â cheisiadau yr ymgynghorir yn eu cylch ar hyn o bryd ac sy’n gofyn am Asesiad Effaith Amgylcheddol (EIA) neu sy’n cael eu hystyried o ddiddordeb cyhoeddus sylweddol.
Ceisiadau am Drwyddedau Morol a Dderbyniwyd
| Rhif y Drwydded | Enw Ymgeisydd | Lleoliad y Safle | Math o Gais | 
|---|---|---|---|
| 
 CML2050  | 
 Network Rail  | 
 Adnewyddu Traphont Kidwelly  | 
 Band 1  | 
| 
 DEML2049  | 
 Cyfoeth Naturiol Cymru  | 
 Prosiect Adfer Wystrys Brodorol Cymru - Cam 2 - Treial gosod cwdyn a stoc magu  | 
 Band 2  | 
Ceisiadau Trwyddedau Morol a Benderfynwyd arnynt
| Rhif y Drwydded | Enw Deilydd y Drwydded | Lleoliad y Safle | Math o Gais | Penderfyniad | 
|---|---|---|---|---|
| 
 DEML2039  | 
 QinetiQ Ltd  | 
 QinetiQ, MOD Aberporth  | 
 Band 2  | 
 Cyhoeddwyd  | 
| 
 RML2047  | 
 Prifysgol Bangor / Llywodraeth Cymru  | 
 Llywodraeth Cymru – Rheoli Adnoddau Naturiol Morol yn Gynaliadwy  | 
 Band 1  | 
 Cyhoeddwyd  | 
| 
 SP2006  | 
 Afon Teifi Fairways Ltd  | 
 Pontŵn yn Patch Beach  | 
 Cais Cynllun Sampl  | 
 Cyhoeddwyd  |